Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Click here to watch livestreamed meeting
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored Cyhoeddus Cofnodion: Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol. |
|
Cyflwyniad ynghylch yr Adolygiad o'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol - Craffu ar gynigion. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Cath Fallon gyflwyniad ar y strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dilyn cyflwyniad byr gan y Cynghorydd Sara Jones. Cyhoeddwyd y strategaeth ddwy flynedd yn ôl fel dogfen fyw y gellir ei haddasu, rhoi ystyriaeth i ffactorau allanol a sicrhau ei bod bob amser yn berthnasol ac yn gymwys i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Cafodd y strategaeth ei diwygio yr haf diwethaf yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau ac roeddem i fod i wneud yr un peth eleni ond cafodd y proses ei hymestyn oherwydd y pandemig. Bydd angen i’r heriau y byddwn yn anochel yn eu hwynebu fel canlyniad gael eu hadlewyrchu yn y fersiwn diweddaraf. Mae’r strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â phobl, lle a ffyniant, sef y nod o roi cyfiawnder cymdeithasol wrth galon yr hyn a wnawn, gyda’r strategaeth yn rhaglen eang i roi’r weledigaeth ar waith. Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol, tra’n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i alluogi cymunedau cysylltiedig a gofalgar i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol ond hefyd yn cyflawni ar gyfiawnder cymdeithasol, gwell ffyniant a gostwng anghydraddoldeb. Rydym eisiau galluogi gwasanaethau lleol gwell drwy gefnogi gwirfoddolwyr a gweithredu cymdeithasol. Mae hyn yn gydnaws gyda blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ostwng anghydraddoldeb rhwng, ac o fewn, cymunedau yn ogystal â chefnogi pobl fregus, ac ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd. Ymhellach, mae’n gydnaws gydag amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc, ac ymateb i heriau a newidiadau demograffig. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cymunedau a busnesau i fod yn rhan o sir sy’n ffynnu’n economaidd ac sydd â chysylltiadau da. Y tîm Cymuned a Datblygu Partneriaeth sy’n gyrru’r strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, gan weithio fel pont rhwng anghenion a dymuniadau cymunedau. Daethom i’r casgliad fod gweithio ardal a datblygu cymunedol yn gweithio’n dda. Mae gan rai o’n clystyrau ardal fwy o ymgysylltu a nifer uwch yn mynychu nag eraill, ond rydym yn gweithio mewn amgylchedd lle mae cyfleoedd eraill i gysylltu. Bu rhai datblygiadau cadarnhaol oherwydd gwaith partneriaeth y tîm, yn ein rhwydwaith gwasanaethau cymorth ieuenctid a dulliau cydlyniaeth cymunedol, a fu’n hanfodol, yn arbennig yn ystod y pandemig, o ran sut ydym yn ymgysylltu gyda’n preswylwyr BAME. Bu’r Rhaglen Ysgolion Bro yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, gwirfoddolwyr a rhieni i gasglu a defnyddio ein cyfalaf cymdeithasol hefyd yn gadarnhaol iawn. Cyn Covid-19, teimlem fod angen i ni hyrwyddo’r cynllun yn fwy eang, yn fewnol ac yn allanol, ond gyda ffocws cryfach ar ddatblygu cymunedol. Mae ‘Be Community’ yn sicrhau ein bod yn rhoi’r gefnogaeth a’r cyngor gorau oll i’n gwirfoddolwyr. Rydym hefyd yn cynyddu cyllid hyblyg i sicrhau y gallwn helpu pan welwn angen go iawn yn y gymuned. Gwelsom, wrth i ni ymrwymo fel awdurdod, y bydd cynghorau tref a chymuned yn dilyn. Teimlem ei bod yn bwysig edrych ar ein partneriaethau a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ofyn os yw ein strwythur partneriaeth yn rhy gymhleth, gyda meysydd o orgyffwrdd ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Monitro'r Gymraeg 2019/20 - Craffu ar Berfformiad. PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y swyddog Alan Burkitt adroddiad llafar ar y Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ym Mesur y Gymraeg 2011, yn cynnwys rhoi trosolwg o berfformiad i Gomisiynydd y Gymraeg; rydym wedyn yn derbyn ymateb gydag asesiad y Comisiynydd ei hun. Mae’r gwasanaeth cyfieithu yn brysur iawn; ar gyfer hynny, mae llawer o’r 176 o safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw yn cynnwys rhoi gwybodaeth, dogfennau ac yn y blaen. Mae ein gwasanaeth yn rhagorol, a chaiff ei redeg gan Becky Davies sy’n dosrannu ac yn cofnodi. Tua 18 y mis fe wnaethom amcangyfrif ein bod yn cyfieithu 1.6 miliwn o eiriau y flwyddyn, sy’n sylweddol fwy na chyn cyflwyno safonau’r Gymraeg. Mae’r defnydd gan staff yn rhagorol – anaml iawn mae dogfen wedi mynd allan heb gyfieithiad Cymraeg. Mae’r wefan yn hollol ddwyieithog. Mae cynllunio gweithlu yn ofyniad yn edrych pa adnoddau sydd ar gael o fewn adrannau, yn ymarferol archwiliad o bwy yn yr adrannau hynny sydd â sgiliau yn y Gymraeg, o rhugl i lawr i ddysgwyr. Yn ddiweddar mae Sir Fynwy wedi nodi ‘Sgiliau yn y Gymraeg – Dymunol’’ o ystyried fod gennym 10,000 o breswylwyr yn siarad Cymraeg yn Sir Fynwy, nid oes unrhyw swydd lle na fyddai sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol. Y mater allweddol yw bod nifer staff ar y rheng flaen h.y. swyddi a hysbysebir fel ‘Sgiliau yn y Gymraeg – Hanfodol’ yn isel. Mae hyn yn dod â heriau. Mae eisoes yn anodd penodi i rai swyddi yn Sir Fynwy, yn arbennig mewn Gofal Cymdeithasol ac nid oes gennym drosiant mawr o staff. Mae felly’n anodd meithrin yr adnodd critigol hwnnw. Mae 34 aelod o staff sy’n siarad Cymraeg nad ydynt yn staff ysgol allan o tua 2,000. Cynhaliwyd cyfarfod Adroddiad Sicrwydd Ansawdd yr wythnos honno lle dynododd y comisiynydd fod nifer y staff rheng-flaen mewn rhai awdurdodau lleol yn wael. Mae 34 yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y cyngor nawr, o gymharu â 28 pan ddechreuais ar y swydd. Mewn 36 swydd wag y llynedd, dim ond un a ddynodwyd fel swydd lle roedd y Gymraeg yn hanfodol. Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion swyddogol, sy’n amlwg yn rhywbeth cadarnhaol. Dim ond 1 g?yn a gawsom erioed a gwnaethom ei herio’n llwyddiannus. Fodd bynnag, mae rhai cwynion – rwy’n aml yn derbyn negeseuon e-bost yn cyfeirio at wahanol faterion, yr ydym yn eu trin ar unwaith. Yn ogystal â recriwtio, problem fawr yw nad ydym yn rhagweithiol gyda’r gwasanaethau a gynigiwn. Os oes rhywun yn gofyn am rywbeth, rydym wedyn yn ceisio ei ddarparu, yn hytrach na chynnig pethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y lle cyntaf. Mae’r Comisiynydd, fel rhan o’i adroddiad, yn cynnal gweithgaredd ‘siopwr dirgel’ lle caiff staff croesawu eu hannerch yn Gymraeg ac os nad oes ymateb effeithlon, y casgliad yw fod y sefydliad yn brin yn ei sgiliau. Mae hyn yn rhywbeth mae angen i ni edrych o ddifrif arno ar gyfer adolygiad yn y ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Claddedigaethau - Ymchwiliad gan Aelodau - adborth llafar. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Val Smith adroddiad llafar (anfonir yr adroddiad ysgrifenedig llawn at aelodau yn nes ymlaen). Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwyntiau niferus, er mwyn codi’r cwestiwn o p’un a fedrai Cyngor Sir Fynwy ddarparu gwasanaeth profedigaeth cyflawn i breswylwyr. Mae cynghorau mewn lle da i wneud achos busnes cryf: mae Cyngor Bwrdeistref Kettering a Chyngor Wigan yn enghreifftiau llwyddiannus. Mae angladdau yn aml yn bryniad ‘argyfwng’ i bobl ac mae ‘tlodi’ angladdau yn cynyddu: nid yw pobl yn medru talu’r costau cysylltiedig, gan fenthyca (yn cynnwys benthyciadau diwrnod talu) a mynd i ddyled i wneud hynny. Mae Gwasanaeth Profedigaeth Caerdydd yn enghraifft arall o raglen lwyddiannus sy’n helpu cymunedau i ddelio gyda’r cyfnod anodd hwn. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried diffyg safonau ymddygiad neu hyfforddiant i ddod yn gyfarwyddwr angladdau, a phroblem gynyddol gofod ar gyfer claddedigaethau, ynghyd â chwmnïau arloesol tebyg i ‘Recompose’ yn yr Unol Daleithiau sy’n newid y broses o ddelio gyda chyrff. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng cynghorau mewn cost angladdau a chladdedigaethau, a hefyd y cynnydd mawr mewn prisiau’n gyffredinol yn y degawd diwethaf. Mae hysbysiadau marwolaeth yn broblem ychwanegol, gyda theuluoedd yn gorfod hysbysu nifer fawr o asiantaethau am farwolaeth anwyliaid; mae cynllun ‘Dweud Wrthym Unwaith’ y llywodraeth yn gwneud cynnydd rhagorol ar hyn. Fel cyngor, mae angen i ni edrych os gallwn wneud gwaith gwell mewn gwneud trefnu angladdau mor rhwydd a di-straen ag sydd modd, ac yn gweld hyn fel cynllun defnyddiol.
Crynodeb y Cadeirydd: Diolch i’r Cynghorydd Smith am yr adroddiad hwn. Mae’r pwnc hwn wrth gwrs yn bwysig i bawb, gan y bydd pawb ohonom yn wynebu’r pryderon hyn yn ein bywydau, efallai sawl gwaith. Mae’r amrywiaeth o’r opsiynau sydd ar gael yn syndod – compostio ac yn y blaen. Mae cyfrannu at wyddoniaeth yn opsiwn pwysig arall. Mae’r amrywiad mewn costau hefyd yn syndod. Dymunai’r Cynghorydd Easson wneud y pwynt dilynol am Fynwent Dewstow yng Nghil-y-coed, a fu’n llwyddiannus iawn; roedd yn y rownd derfynol ar gyfer Mynwent Daclusaf 2016 yn y Gwobrau Angladd Da ac mae ganddi Faner Werdd. Mae cost agor bedd hanner pris unrhyw le arall yn Sir Fynwy. Mae’r awdurdod lleol yng Nghil-y-coed wedi bod yng ngofal y fynwent ers 1962 ac mae bron yn llawn. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt i brynu llain o dir uwchben y fynwent ar gyfer claddedigaethau ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod. Mae felly’n enghraifft gref o arfer da.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 12 Mawrth 2020. PDF 441 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020.
|
|
Cyfarfod ar y Cyd - Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu a Phwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 21 Gorffennaf 2020 (i ddilyn). Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2020.
|
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf. PDF 498 KB Cofnodion: Cafodd y Rhaglen Waith ei diweddaru ers anfon yr agenda. Un ychwanegiad yw Seminar Aelodau yr wythnos nesaf ar Wastraff ac Ailgylchu, a ddilynir ar 28 Chwefror gan gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu ar newidiadau i Wastraff ac Ailgylchu cyn penderfyniad gan y Cyngor ar 7 Hydref. Mae’r ffordd y gallwn dderbyn cyflwyniadau gan y cyhoedd, gan nad ydym yn cwrdd yn y siambr, yn cael ei drafod ar hyn o bryd. Mae hefyd gyfarfod ar y cyd arbennig am 19 Hydref yng nghyswllt cynlluniau Adferiad Cyllideb. Gwahoddir holl aelodau Craffu. Bydd angen trefnu cyfarfod arbennig ar y cyd gydag Economi a Datblygu ddiwedd mis Hydref i edrych ar yr adolygiad meysydd parcio. Bydd y cyfarfod ar 12 Tachwedd yn ystyried diogelu’r cyhoedd a’r ymateb i Covid, a chofrestru a’r ymateb i Covid. Bydd cyfarfod olaf y flwyddyn ar 17 Rhagfyr yn edrych ar gynlluniau Cydraddoldeb Strategol a thoiledau cyhoeddus, gan graffu’r broses o weithredu strategaeth, cyn diweddaru Llywodraeth Cymru.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf |