Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: We received apologies from County Councillors D. Evans, J. Prosser and F. Taylor. |
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Sir R. Chapman wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus o dan Cod Ymddygiad yr Aelodau o ran eitem 7 gan fod y gyrrwr tacsi yn adnabyddus iddo. Gadawodd y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei thrafod.
|
|
I gadarnhau ac arwyddo cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 107 KB L&R Committee
14th June 2016 8th July 2016 19th July 2016
L&R Subcommittee
14th June 2016 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion canlynol o’r Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Pwyllgor L&R 14eg Mehefin 2016 8fed Gorffennaf 2016 19eg Gorffennaf 2016
Is-bwyllgor L&R 14th Mehefin 2016
|
|
Adroddiad perfformiad Diogelu'r Cyhoedd 2015/16 PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio er mwyn rhoi gwybod i Aelodau am ddarpariaeth gwasanaeth a pherfformiad ar draws yr adran Amddiffyn y Cyhoedd, sydd yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Roedd y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf wedi derbyn adroddiad perfformiad a oedd yn ymdrin â Gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd ar yr 21ain o Orffennaf. Roedd hyn mewn ymateb i adroddiad Cabinet yn Ionawr 2015 yn argymell fod y Pwyllgor hwn yn monitro unrhyw newid yn ein perfformiad, a hynny yn sgil y gostyngiadau sydd wedi eu gwneud i gyllidebau yn 2014/15.
Ar y 7fed o Ionawr2015, roedd y Cabinet wedi gwneud cais am adroddiadau bob chwe mis i’r Pwyllgor Cymunedau Cryf er mwyn monitro perfformiad dros amser. O’r herwydd, bydd modd asesu a gweithredu ar unrhyw sgil-effeithiau negatif yn syth. Er mwyn gwella dealltwriaeth yr Aelodau a’r rhan y maent yn chwarae ar draws yr ystod o wasanaethau sydd yn cael eu darparu gan Amddiffyn y Cyhoedd, mae hefyd yn helpu i adrodd ar berfformiad drwy’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio.
Roedd yr adroddiad wedi crynhoi’r perfformiad diweddar ac wedi amlygu’r canlynol:-
· Mae’r pedwar tîm gwasanaeth, a hynny o ran y mwyafrif helaeth o wasanaethau y maent yn darparu, yn cwrdd â goblygiadau cyfreithiol yr Awdurdod o ran y gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd. · Mae yna ychydig o ddirywiad wedi bod o ran datrys cwynion o fewn Iechyd Cyhoeddus, er enghraifft, sydd yn ymwneud â s?n ac achosion statudol eraill. Dylid nodi fod y tîm bach hwn (sydd yn cynnwys 5.5 person llawn amser) wedi delio gyda 1,559 o geisiadau gwasanaeth newydd (1,667 o gleientiaid) yn 2015/16. · Byd adroddiadau yn parhau i gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn bob chwe mis er mwyn asesu sgil-effaith y gostyngiadau i gyllidebau ar berfformiad gwasanaethau Amddiffyn y Cyhoedd.
· Mae archwiliadau diweddar gan swyddfa Archwilio Cymru, ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, yn dangos fod y perfformiad cyfredol yn foddhaol o fewn Iechyd Amgylcheddol ond byddai’r gwasanaeth yn cael trafferthion ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau statudol newydd i amddiffyn y cyhoedd a’r amgylchedd.
Mewn ymateb i gwestiwn sydd yn ymwneud â herio staffio o fewn yr adran wrth i’r adran ymgymryd â mwy o ddyletswyddau statudol, cawsom wybod y byddwn yn lobïo Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid i ddelio ag unrhyw faich newydd a’n sicrhau fod yr adnoddau gennym er mwyn cwrdd â’r disgwyliadau.
Roedd Aelod wedi gofyn am fater penodol ynghylch s?n mewn t? tafarn lleol sydd wedi ei leoli mewn ardal breswyl, a hynny yn sgil y nwyddau sydd yn cael eu gollwng yno’n gynnar yn y bore. Dywedodd swyddogion fod ffynhonnell s?n sefydlog (megis Caraoce) yn hawdd ei fonitro gan fod modd cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater ond bydd yn siarad gyda’r Aelod am fanylion pellach.
Gofynnodd Aelod pa gamau sydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r ardaloedd hynny sydd yn y Sir sy’n dioddef llygredd awyr. Dywedwyd wrthym fod yna gynllun gweithredu eisoes yn bodoli ac mae Huw Owen o ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Diwygiad i Tacsi a Hurio Preifat Polisi ac Amodau 2016 PDF 77 KB Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Trwyddedu er mwyn ystyried cynnig i newid Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat 2016.
Roedd yr Awdurdod wedi cymeradwyo’r Polisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat 2016 a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2016.
Roedd Atodiad D eitem 6 o’r o’r Polisi hwn wedi gwneud cais nad yw cerbydau yn y categori N1 neu N2 (cerbydau nwyddau) sydd wedi eu newid, yn derbyn trwydded oni bai fod Cymeradwyaeth Cerbydau Unigol i M1 neu M2 wedi ei roi gan y VOSA. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn na fydd y Driver and Vehicle Standards Agency (y VOSA cyn hyn) yn newid categori cerbyd o gategori N (cerbydau nwyddau) i gategori M (cerbydau teithwyr) yn dilyn gwiriad cymeradwyo cerbydau. Fodd bynnag, maent wedi datgan y bydd y cerbydau categori N yn addas i gludo teithwyr, a hynny ar yr amod fod y math hwn o gerbyd yn meddu ar dystysgrif British Single Vehicle Approval neu British Individual Vehicle Approval. O’r herwydd, argymhellwyd fod geiriad Atodiad D eitem 6 yn cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu hyn.
3.3 Mae Atodiad D eitem 21 yn gwneud cais fod diffoddydd tân sydd wedi ei wasanaethu (gyda medrydd os yn bosib), yn cael ei osod mewn lle y mae’n hawdd cael mynediad ato. Bydd rhif cofrestru'r cerbyd yn cael ei farcio’n glir drwy’r amser ar y diffoddydd tân. Rhaid gofalu am y diffoddydd tân yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a rhaid gosod un arall yn ei le os caiff ei ddefnyddio neu yn unol â dyddiad sydd wedi ei nodi gan y gwneuthurwr. Dylid ond defnyddio’r diffoddydd tân ar gyfer tân llai. Mewn pob math o amgylchiadau eraill, dylid stopio’r car a dianc gan sicrhau eich bod yn ddigon pell o’r car, a hynny heb grwydro ar unrhyw briffordd.
Mae pryderon wedi eu mynegi yngl?n â diogelwch y gyrrwr a’r teithwyr os ydynt yn ceisio diffodd y tân gan ddefnyddio’r diffoddydd tân. Caiff ei argymell felly fod y gyrrwr yn ceisio sicrhau bod pawb yn dianc o’r cerbyd yn ddiogel. Os yw cerbyd yn cludo diffoddwr tân, efallai y bydd y gyrrwr neu’r teithiwr yn cael ei berswadio i aros yn y cerbyd a cheisio defnyddio’r diffoddwr, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl pe bai’r tân yn lledaenu’n gyflym. O’r herwydd, fe argymhellwyd fod geiriad Atodiad D eitem 21 yn cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu hyn.
Nid oes angen ymgynghori ar y diwygiadau i Bolisi ac Amodau Tacsi a Hurio Preifat 2016 fel sydd wedi ei argymell yn 3.2 a 3.3 uchod. Mae 3.2 yn ofynnol o dan y DVSA ac mae 3.3. yn dileu amod er mwyn sicrhau bod gyrrwr a theithwyr y cerbyd yn ddiogel.
Dywedwyd wrth aelodau na fyddai diffoddwyr tân yn cael eu profi yn flynyddol gan fod y pwyslais erbyn hyn ar sicrhau bod y gyrrwr a’r teithwyr yn dianc o’r cerbydau ac yn ymatal rhag ceisio ymladd y tân.
Esboniwyd y bydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cais am Ganiatâd Masnachu Bloc Blynyddol Street ar gyfer Canol Tref y Fenni PDF 3 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roeddem wedi derbyn cais gan y Rheolwr Ystadau a Rheolwr Marchnad y Fenni i ystyried cais ar gyfer Caniatâd Masnachu Block Street i fasnachu yng Nghanol Tref y Fenni.
Derbyniwyd cais ar y 30ain o Awst 2016 gan Ms Sharon Hutchinson, ar ran Cyfleusterau a Marchnad, Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Canol Tref y Fenni sydd wedi ei atodi at yr adroddiad hwn fel Atodiad A. Mae’r cais masnachu yn ymwneud â masnachu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07.00 a 23.00. Mae’r lleoliad a’r nifer o lleiniau sydd angen i’w canfod yn y cais o Gyngor Tref y Fenni, fel a ganlyn:-
· Cynllun 1 : Castell y Fenni (50 llain)
· Cynllun 2 : Gerddi Linda Vista (50 llain), Sgwâr St Johns (26 llain), Stryd Flannel (7 llain), Stryd Nevill (23 llain), y Stryd Fawr (32 llain), Cross Street (70 llain), Brewery Yard (50 llain), Baker Street (10 llain)
· Cynllun 3 : Pen-y-Pound (50 llain), Parc Bailey (50 llain)
Cyfanswm nifer y lleiniau ar gyfer Canol Tref y Fenni yw 418 llain.
Mae’r ymgeisydd wedi datgan fod y lleiniau yn gorfod cydymffurfio â’r canlynol: · Ni fydd hawl masnachu mewn unrhyw ardal sydd yn tramgwyddo Gorchmynion Rheoleiddio Traffig / Cyfreithiau Priffyrdd. · Cyfleusterau a Marchnadoedd i roi gwybod i’r Adran Drwyddedu pan fydd digwyddiadau eraill – ac eithrio’r marchnadoedd arferol – yn cael eu cynnal. · Bydd masnachu yn amodol ar gau’r heolydd pan fydd hyn berthnasol. · Mae masnachu mewn ardaloedd penodol yn amodol ar ganiatâd gan adrannau perthnasol.
Mae’r ymgeisydd hefyd wedi datgan y bydd yn sicrhau - os bydd caniatâd yn cael ei roi - bod pawb sydd yn gosod lleiniau yn cydymffurfio gydag amodau’r Cyngor ar gyfer rhoi’r caniatâd hwnnw. Mae’r cais hefyd yn datgan yn Adran 6 o’r cais bod pob un person sydd yn gosod llain yn mynd gorfod cwblhau “Cais i Osod Llain ar Ddiwrnod y Farchnad”, a bydd hyn yn cael ei roi gan Gyfleusterau a Marchnad, Cyngor Sir Fynwy.
Gyrrwyd y cais ymlaen at yr ymgyngoreion (Atodiad A), ac mae’r rhain yn cynnwys Heddlu Gwent, Adrannau Priffyrdd, Cynllunio, Iechyd Diogelwch Rheolwr Maes Parcio a Hwb Cymunedol Cyngor Sir Fynwy. Aelodau Ward Lleol a Chyngor Tref y Fenni.
Nodwyd nad yw’r Cyngor Tref wedi ymateb i’r adran Drwyddedu yngl?n â’r cais hwn.
Gofynnwyd cwestiwn am barcio ceir a’r effaith ar barcio preswyl. Mewn ateb, dywedwyd fod parcio yn chwarae rhan bwysig yn y broses ymgynghori, ac ym mhob achos, bydd Cyngor Sir Fynwy yn ceisio osgoi dileu unrhyw gardiau parcio.
Roedd yr Aelodau wedi cytuno yn unfrydol ar yr argymhellion fel sydd wedi eu hamlinellu yn atodiad A.
|
|
I ystyried a yw'r gyrrwr yn " Addas a Phriodol " i barhau i ddal Trwydded Yrru / Hurio Preifat Cerbydau Hacni Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aelodau'r Pwyllgor gymeradwyo'n unfrydol gweithredoedd y Cadeirydd a'r Is Gadeirydd.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf 18th October 2016 at 10am Cofnodion: Hydref 18, 2016 am 10am |