Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 28ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Eitem 5:  Ffioedd Trwyddedu 2025 - Datganodd y Cynghorydd Sirol Armand Watts fuddiant personol, anrhagfarnus gan ei fod wedi gwneud cais yn ddiweddar am drwydded i Gyngor Dosbarth Fforest y Ddena.

 

2.

Cadarnhau'r Cofnodion pdf icon PDF 120 KB

1.    17 Medi 2024

2.    4 Hydref 2024 (Arbennig)

3.    6 Tachwedd 2024 (Is-bwyllgor)

4.    2 Ionawr 2025 (Is-bwyllgor)

5.    15 Ionawr 2025 (Is-bwyllgor)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel cofnod cywir:

 

1.    17eg Medi 2024

2.    4ydd Hydref 2024 (Arbennig)

3.    6ed Tachwedd 2024 (Is-bwyllgor)

4.    2ail Ionawr 2025 (Is-bwyllgor)

5.    15fed Ionawr 2025 (Is-bwyllgor)

 

 

3.

Datganiad Polisi Deddf Trwyddedu 2025 pdf icon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried y 'Polisi Trwyddedu Drafft 2025' arfaethedig cyn ei gyflwyno i'r cyngor llawn i gytuno ar fabwysiadu.   Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Trwyddedu.   Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/Xjl__v3NFIs?si=MmrTmliKInZgfBCJ&t=145

             

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, adolygodd yr Aelodau ddatganiad polisi diwygiedig arfaethedig y Ddeddf Trwyddedu ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2025 i 30 Mehefin 2030 (newidiadau wedi'u hamlygu mewn coch), sydd wedi'i atodi fel Atodiad A, a chymeradwyodd ddechrau'r broses ymgynghori statudol cyn penderfynu'r datganiad newydd.

 

4.

Ffioedd Trwyddedu 2025 pdf icon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried ffioedd trwydded yr Awdurdod ar gyfer 2025-26.  Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Trwyddedu.  Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

https://www.youtube.com/live/Xjl__v3NFIs?si=TdOrtCb493ORwMEW&t=404

 

            Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, cytunodd y Pwyllgor i'r canlynol:

 

     1.         Cymeradwyo'r ffioedd a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad, o'r enw "Atodlen Ffioedd Trwydded ar gyfer 2025-26", yn amodol, lle bo hynny'n berthnasol, ar unrhyw hysbysiad cyhoeddus gofynnol.

 

2.         Bod unrhyw wrthwynebiadau, a wneir yn briodol, ynghylch ffioedd ar gyfer rhoi trwyddedau ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn cael eu dwyn yn ôl i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl i'w hystyried yn briodol.

 

 

5.

Pwyllgor Trwyddedu – Gwahanu Swyddogaethau pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pen Swyddog Trwyddedu'r adroddiad ar Wahanu Swyddogaethau'r Pwyllgor Trwyddedu.  Rhoddodd yr adroddiad fanylion i'r aelodau am y trefniadau arfaethedig i ail-ffurfweddu swyddogaethau'r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio presennol fel y nodir yn yr adroddiad, ac ystyriwyd ceisio cymeradwyo'r cynigion hynny cyn iddynt gael eu hadrodd i'r Cyngor i'w cymeradwyo.  Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

https://www.youtube.com/live/Xjl__v3NFIs?si=nfbu6SLPwNNm9nTf&t=1008

 

Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad pellach gydag eglurhad gan yr Adran Gyfreithiol i gynnwys pam mae angen gwahanu swyddogaethau ar gyfer llywodraethu da ac a fyddai angen dau Gadeirydd/Is-gadeirydd.   Dylid ystyried yr adroddiad ychwanegol cyn gwneud penderfyniad ynghylch gwahanu swyddogaethau ac ystyriaeth y dyfodol gan y Cyngor Llawn.

 

 

 

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf