Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Dim wedi’u derbyn
|
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 123 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar y 16eg o Ionawr 2024 ac fe’u harwyddwyd gan y cadeirydd.
|
|
Eithrio'r Wasg a'r Cyhoedd (tystysgrif i ddilyn). PDF 270 KB Cofnodion: Gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth i’r pwyllgor ystyried yr eitemau busnes canlynol yn unol ag Adran 100A y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth wedi’i heithrio, fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf, yn cael ei datgelu.
|
|
To consider whether the driver is "Fit and Proper" to hold a Hackney Carriage/Private Hire Drivers Licence. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion a oedd yn bresennol ac eglurodd brotocol y cyfarfod.
Cadarnhaodd yr ymgeisydd eu henw a’u cyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd eu bod wedi derbyn yr adroddiad a chydnabyddasant eu bod yn barod i barhau heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Darllenwyd y prif faterion a manylion i’r Pwyllgor.
Yna rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd annerch y Pwyllgor, er mwyn cyflwyno unrhyw eglurhad perthnasol. Yn dilyn hyn, cyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth. Yna rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd grynhoi.
Wedi’r cwestiynu, gadawodd y swyddogion a’r ymgeisydd y cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ymgynghori a thrafod y darganfyddiadau.
Wedi i’r cyfarfod ail-gychwyn, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu nad yw’r ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Llogi Preifat.
|
|
Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 9fed Ebrill 2024 am 10.00am. Cofnodion: Dydd Mawrth 9fed o Ebrill 2024 am 10.00am.
|