Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 16eg Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

2.

I gadarnhau ac arwyddo cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 23 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Adolygiad o Ffioedd Trwyddedu Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024/25. pdf icon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu adroddiad yr Adolygiad o’r Ffioedd Trwyddedu Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024/25.

 

https://www.youtube.com/live/h9tz41Ucxfs?si=KVhYtnP-YfyXoDik&t=180

 

Penderfynwyd:

 

(i)            cymeradwyo’r ffioedd a nodir yn Atodiad A yr adroddiad dan y teitl “Rhestr o Ffioedd Trwydded 2024-25% yn amodol, lle’n berthnasol, ar unrhyw hysbysiad cyhoeddus gofynnol.

 

(ii)          dod ag unrhyw wrthwynebiadau, a wnaed yn briodol, parthed ffioedd ar gyfer dyfarnu trwyddedu cerbydau hacni a hur preifat yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio ar y cyfle cynharaf ar gyfer ystyriaeth briodol.

 

4.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd. pdf icon PDF 276 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyhoedd pan oedd yr eitem ddilynol o fusnes yn cael ei hystyried yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn golygu datgeliad tebygol ar wybodaeth eithriedig a ddiffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

5.

Ystyried a yw'r gyrrwr yn "Gymwys a Phriodol" i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio ystyried cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat i gyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio, gan fod yr ymgeisydd wedi methu cyfarfod heddiw oherwydd profedigaeth deuluol.

 

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Mawrth 27 Chwefror am 10.00am.