Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 5ed Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2023 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

3.

Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd. pdf icon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu gwahardd o gyfarfod cyn ystyried yr eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1962, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei fod yn golygu datgeliad tebygol ar wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

4.

Ystyried a yw'r gyrrwr yn "Gymwys a Phriodol" i barhau i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hackney/Hurio Preifat. Ystyried a ddylai’r Gweithredwr Hurio Preifat trwyddedig barhau i feddu ar drwydded o’r fath.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y gyrrwr i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau o’r Pwyllgorau a Swyddogion oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y gyrrwr ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd dderbyn yr adroddiad a chydnabod y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Cafodd y materion a manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Wedyn rhoddwyd cyfle i’r gyrrwr annerch y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, cyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r gyrrwr a dilynodd trafodaeth. Cafodd y gyrrwr wedyn i grynhoi.

 

Yn dilyn cwestiynau, gadawodd swyddogion a’r gyrrwr y cyfarfod i roi cyfle i’r Pwyllgor i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Pan ailddechreuodd y cyfarfod, hysbysodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu:

 

i)             nad oedd y gyrrwr yn berson cymwys a phriodol i barhau i gadw Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat;

 

ii)            diddymu trwydded Gweithredudd Hurio Preifat.

 

5.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023 am 10.00am.