Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Mawrth, 17eg Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 16 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio ar 9fed Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

 

3.

Datganiad o Bolisi Gamblo a Chynigion ar gyfer Casinos. pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried y dull i’w fabwysiadu gan Gyngor Sir Fynwy mewn perthynas â cheisiadau am safleoedd casino yn y Sir a’r ‘Datganiad Drafft o Bolisi Hapchwarae 2025’ arfaethedig cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.

 

https://www.youtube.com/live/_JItSL8GE24?si=Ji66ZmeB-G--IRgJ&t=77

 

Rydym yn cytuno:

 

(i)            cefnogi cadw’r penderfyniad presennol i beidio â rhoi trwyddedau casino yn Sir Fynwy cyn iddo gael ei ystyried yn y Cyngor Llawn.

 

(ii)           cefnogi'r datganiad Polisi Hapchwarae diwygiedig arfaethedig ar gyfer y cyfnod 31ain Ionawr 2025 i 30 Ionawr 2028. Bydd y Polisi hwn yn cael ei ystyried yn y Cyngor Llawn ym mis Hydref 2024.

 

4.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd. pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Gwnaethom wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes a ganlyn yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth esempt yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

Ystyried a yw'r gyrrwr yn "Addas a Phriodol" i ddal Trwydded Gyrwyr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y mater tan Gyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio maes o law.

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Mawrth, 22ain Hydref, 2024 10.00 y.b.