Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 pdf icon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

3.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion o’r is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2022 pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

4.

Polisi ac Amodau Tacsis a Cherbydau Hur Preifat 2023 pdf icon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu adroddiad Polisi ac Amodau Tacsis a Cherbydau Hur Preifat 2023.  Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

·         Gofynnodd Aelod os yw nifer y gyrwyr tacsi cenedlaethol tramor ar gael a chafodd ei hysbysu os oes gan yrwyr yr hawl i weithio na chânt eu hystyried fel gyrwyr cenedlaethol tramor. Defnyddir y gwiriad estynedig os y bu’r gyrrwr yn y Deyrnas Unedig am gyfnod byr yn unig. Ni fu unrhyw broblemau gyda hyn ers y cyflwynwyd y gofyniad yn 2018.

·         O ystyried yr amod y gofynnir i yrrwr sy’n gwneud cais gyda 6 pwynt i gwblhau cynllun Pass Plus, byddai’n well gan Aelod gael prawf llymach, a chytunwyd y gofynnir i Lywodraeth Cymru ystyried ailweithredu Profion Tacsi yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn genedlaethol. Atgoffwyd y Pwyllgor am bwysigrwydd cysondeb gyda’r awdurdodau cyfagos.

·         Gofynnodd Aelod pam fod Casnewydd yn ei gwneud yn ofynnol i basio cwrs Pass+ os oes ganddynt fwy na 5 pwynt ar eu trwydded DVLA adeg gwneud cais. Esboniwyd y bu hyn yn bolisi hir-sefydlog cyn gweithredu’r polisi newydd a gall hyn newid i 6 pwynt.

·         Gofynnodd Aelod am oblygiadau y Cytundeb Gadael ac os oes unrhyw rwystr i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gyda statws sefydlog. Hefyd, ansawdd y gwiriadau ychwanegol gan efallai nad oes mynediad i’r un gronfa ddata â phan oedd y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd yr Aelod fod gan ddinasyddion yr Undeb Ewrop sydd â dinasyddiaeth yr un hawliau. Cyfeiriodd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd y Pwyllgor at y rhestr ar GOV.UK Criminal records checks for overseas applicants ar gyfer manylion gwiriadau cofnodion troseddol pob gwlad. Nid yw’r gost yn afresymol gan amrywio o ddim ffi i £45.00+.

·         Dywedodd Aelod fod  oedran cyfrifoldeb troseddol yn amrywio mewn gwahanol wledydd. Ymatebodd y Prif Swyddog Trwyddedu y byddai gwiriad estynedig yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd. Yng nghyswllt gyrwyr tacsi, ni chaiff euogfarnau byth eu treulio felly yr angen i bolisïau i ddelio gydag euogfarnau..

 

Yn dilyn pleidlais ar argymhellion yr adroddiad, cymeradwyodd Aelodau y polisi ac amodau newydd a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023, a roddir yn Atodiad B.

 

Fe wnaeth yr Aelodau hefyd benderfynu a  chymeradwyo’r dilynol yng nghyswllt Safonau Euro 4. Caiff cerbydau eu trwyddedu ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer dibenion cerbydau hacni a hur preifat gadw hawliau tad-cu a chael eu trwyddedu ar gyfer oes silff eu cerbyd. Bydd angen i bob cais am gerbydau newydd fod i safon Euro 6.

 

Fel rhan o argymhellion yr adroddiad, cytunwyd gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried Profion Tacsi (DVSA) yn genedlaethol.

 

·         Holodd Aelod am gwynion am yrwyr tacsi gan nodi o’r wefan y daeth 75% o gwynion am dacsis heb drwydded gan gyfeillion pobl sydd wedi gwneud adroddiadau am hysbysebu gwasanaethau hurio ar y cyfryngau cymdeithasol. Awgrymwyd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i annog pobl ifanc i ddod ymlaen gyda chwynion, beth i’w ddisgwyl pan ddefnyddiwch dacsi a’r hyn sy’n ymddygiad derbyniol.  Rhoddodd y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd sicrwydd i  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adolygu Ffioedd Trwyddedu Blynyddol ar gyfer blwyddyn Ariannol 2023/24 pdf icon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu yr Adolygiad Blynyddol o Ffioedd Trwyddedu ar gyfer Adroddiad Blwyddyn Ariannol 2023/24. Gwahoddwyd cwestiynau yn dilyn cyflwyno yr adroddiad:

 

·         Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad am y gwahanol gynnydd canrannau ar gyfer ffioedd a dywedwyd y defnyddir system ragnodol a gymeradwywyd gan Gr?p Cymru Gyfan. Mae hyn yn seiliedig ar wahanol ffactorau tebyg i nifer arolygiadau, faint o waith sydd ei angen, elfennau polisi ac yn y blaen ac fe’i defnyddir i benderfynu ar ffi derfynol ar gyfer y flwyddyn.

·         Gofynnwyd os yw’r ffioedd yn talu am yr holl gostau yn neilltuol amser swyddogion sy’n ymwneud â chefnogi trwyddedu nid dim ond costau gweinyddol. Esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu ei fod yn dibynnu ar wahanol ddeddfwriaeth ar gyfer y trwyddedau dan sylw. Codir tâl ar gyfer rhai elfennau, ond nid eraill. Mae’n bendant ar sail adferiad cost, ond yr awdurdod sy’n gyfrifol am orfodaeth.

·         Gofynnodd aelod am eglurhad am y ffioedd ar gyfer hurio cerbydau hacni/preifat gan y caiff rhai elfennau eu gosod gan Dorfaen. Esboniwyd fod y tabl ar gyfer ffioedd Sir Fynwy. Caiff yr asesiad ei wneud ledled Cymru ac mae’n dibynnu ar amser swyddogion a faint o waith a wnaed yn y flwyddyn flaenorol.

·         Holodd aelod am eglurhad ar y ffioedd ar gyfer masnachu stryd gan nodi yr ymddengys fod y gost wedi gostwng. Cadarnhawyd fod hyn yn gywir.

·         Holodd Aelod am Torfaen Training a chadarnhawyd nad yw Sir Fynwy yn talu am y gost yma. Mae’n fater i yrwyr i’w gwblhau fel rhan o’u prawf diogelu a gwybodaeth cyn iddynt wneud cais.

 

Yn dilyn pleidlais o blaid, cymeradwyodd y Pwyllgor y ffioedd a nodir yn Atodiad A yr adroddiad gyda’r teitl “Rhestr Ffioedd Trwyddedu 2023-24”, yn amodol, lle’n berthnasol, ar unrhyw hysbysiad cyhoeddus sydd ei angen a chytunwyd dod ag unrhyw wrthwynebiadau, a wnaed yn briodol, ynghylch ffioedd ar gyfer dyfarnu trwyddedau ar gyfer cerbydau hacni a hurio preifat i’r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf posibl i gael ei ystyried yn briodol.

 

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf