Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
|
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 148 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2023 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd. PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu gwahardd o gyfarfod cyn ystyried yr eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1962, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei fod yn golygu datgeliad tebygol ar wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
Ystyried a yw'r gyrrwr yn "Gymwys a Phriodol" i barhau i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hackney/Hurio Preifat. Ystyried a ddylai’r Gweithredwr Hurio Preifat trwyddedig barhau i feddu ar drwydded o’r fath. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y gyrrwr i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau o’r Pwyllgorau a Swyddogion oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Cadarnhaodd y gyrrwr ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd dderbyn yr adroddiad a chydnabod y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cafodd y materion a manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.
Wedyn rhoddwyd cyfle i’r gyrrwr annerch y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, cyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r gyrrwr a dilynodd trafodaeth. Cafodd y gyrrwr wedyn i grynhoi.
Yn dilyn cwestiynau, gadawodd swyddogion a’r gyrrwr y cyfarfod i roi cyfle i’r Pwyllgor i ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Pan ailddechreuodd y cyfarfod, hysbysodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu:
i) nad oedd y gyrrwr yn berson cymwys a phriodol i barhau i gadw Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat;
ii) diddymu trwydded Gweithredudd Hurio Preifat.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Cofnodion: Dydd Mawrth 17 Hydref 2023 am 10.00am.
|