Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir A. Easson yn Gadeirydd.
|
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Sir A. Webb yn Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir C. Edwards fuddiant personol a rhagfarnol yng nghyswllt eitem agenda 7 oherwydd ei fod yn adnabod perthynas agos i’r ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.
Datganodd y Cynghorydd Sir A. Webb fuddiant personol a rhagfarnol yng nghyswllt eitem agenda 7 oherwydd ei bod yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.
Datganodd y Cynghorydd Sir D. Rooke fuddiant personol heb fod yn rhagfarnol yng nghyswlt eitem 8 oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn gweithredu busnes yn agos at ei gartref ac mae wedi defnyddio’r busnes yn achlysurol. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.
|
|
Cadarnhau’r cofnodion dilynol: |
|
Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol – 8 Mawrth 2022 PDF 149 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 8 Mawrth 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol – 8 Mawrth 2022 PDF 267 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 8 Mawrth 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitemau dilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail eu bod yn cynnwys datgeliad tebygol o wybodaeth a eithirwyd fel y’i diffinnnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
Cais i adnewyddu caniatâd masnachu stryd. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd iddo dderbyn yr adroddiad a gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan yr Adran Drwyddedu yng nghylch y mater a chydnabu y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cafodd y materion a’r manylion dilynol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.
Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i annerch y Pwyllgor er mwyn cyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, holodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a dilynodd trafodaeth. Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.
Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol a’r cynrychiolydd cyfreithol y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Pan ailddechreuodd y cyfarfod, hysbysodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu caniatau adnewyddu a chyhoeddi Caniatâd Masnachu Stryd am 12 mis wedi ei ôl-ddyddio i ddechrau o 14 Mawrth 2022 tan 14 Mawrth 2023.
|
|
Ysytired os yw’r gyrrwr yn “Addas a Chywir” i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Llog Preifat. Ystyried os y dylai’r Gweithredydd Hur Preifat barhau i ddal trwydded o’r fath. Ystyried os caiff y Drwydded Cerbyd Hur Preifat ei chadw. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.
Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd iddo dderbyn yr adroddiad a gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan yr Adran Drwyddedu yng nghylch y mater a chydnabu y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cafodd y materion a’r manylion dilynol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.
Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i annerch y Pwyllgor er mwyn cyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, holodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a dilynodd trafodaeth. Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.
Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol a’r cynrychiolydd cyfreithol y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Pan ailddechreuodd y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu:
(i) nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a chywir i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur preifat.
(ii) bod trwydded y Gweithredydd Hur Preifat yn cael ei diddymu.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Mawrth 28 Mehefin 2022 am 10.00am.
|