Lleoliad: County Hall, Rhadyr, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cyn dechrau’r trafodion, roedd y Cadeirydd wedi diolch i Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio am eu cefnogaeth yn ystod y weinyddiaeth hon, a hynny am y bydd yn ymddiswyddo fel aelod etholedig ym Mai 2022. Roedd y Cadeirydd hefyd wedi rhoi diolch i swyddogion am eu cefnogaeth a’u cyfarwyddyd yn ystod y cyfnod hwn.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.
|
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 138 KB Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio, dyddiedig 18fed Ionawr 2022, yn gywir ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Deddf Gamblo 2005 - Ffioedd Trwyddedau Safle. PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad lle y gofynnwyd i Aelodau ystyried y ffioedd i’w gosod ar ran yr awdurdod ar gyfer Trwyddedau Mangre o dan Deddf Gamblo 2005 ar gyfer 21ain Mai 2022 i’r 20ain Mai 2023.
Wedi ystyried yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r ffioedd sydd yn berthnasol i’r Trwyddedau Mangre o dan Ddeddf Gamblo 2005 yn debyg ar draws yr holl awdurdodau lleol, a hynny’n amodol ar y nifer o gyfarfodydd sydd wedi eu cynnal, y gwaith polisi a wnaed a’r mesurau gorfodaeth sydd angen eu gweithredu gan bob un awdurdod lleol.
· Nodwyd fod y lefel o ddigwyddiadau trac wedi ei osod yn £2086 tra bod y ffigwr a argymhellir yn gyfystyr â £950. Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar ba mor aml y mae’r eiddo yn cael ei arolygu. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd y ffigwr yn uwch na’r band £950. Byddai angen newid y Ddeddf Gamblo er mwyn i’r Awdurdod i osod ffigwr uchafswm uwch.
· Mae’r ffioedd uchafswm wedi eu gosod gan y Comisiwn Gamblo ac yn ffioedd statudol.
· Nid yw’r Awdurdod yn derbyn llawer iawn mwy o geisiadau newydd am drwyddedau mangre, sydd yn cael ychydig effaith ar gyllid yr Awdurdod. Mae lefel y ffioedd wedi parhau’n ddigyfnewid yn y blynyddoedd blaenorol.
Roeddem wedi cytuno bod:
(i) y ffioedd sydd wedi eu nodi yn yr Atodiad i’r adroddiad wedi eu cymeradwyo a’n dod i rym ar y 21ain Mai 2022.
(ii) y ffioedd i’w hadolygu’n flynyddol wedi hyn.
|
|
Gorsafoedd Profi Cymeradwy ar gyfer Arolygu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. PDF 612 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roeddem wedi derbyn adroddiad yngl?n â disodli’r contractau gyda chynllun cymeradwyo ar gyfer garejys i gynnal arolygon o Gerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat o fewn Sir Fynwy.
Wedi ystyried yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd, cadarnhawyd bod cwsmeiriad yn medru cynnal prawf adnewyddu dim hwyrach na thair wythnos cyn y dyddiad dod i ben.
· Nodwyd mai ond un perchennog garej, sydd hefyd yn berchen ar fusnes tacsi, sydd wedi cofrestru gyda’r Adran Drwyddedu. Roedd y mater yma wedi ei gyfeirio at yr Adran Gyfreithiol o fewn yr Awdurdod pan oedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am gontract. Y farn gyfreithiol yw bod yr ymgeisydd o dan gylch gorchwyl y VOSA a byddai angen cydymffurfio felly gyda’r meini prawf sydd wedi eu gosod gan y VOSA.
· Os yw cerbyd yn addas i’w ddefnyddio ar yr heol, nodwyd y dylid cael hawl ei ddefnyddio fel cerbyd Hacni / cerbyd hurio preifar, nid oes ots beth yw oedran y cerbyd. Fodd bynnag, mae cerbydau h?n angen eu profi yn fwy cyson er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’w ddefnyddio ar yr heol.
· Mae’r Adran Drwyddedu yn bwriadu adolygu’r Polisi Tacsi a Hurio Preifat Cerbyd Hacni, yn unol gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth er mwyn sicrhau ei fod yn fwy unffurf ar draws Cymru. Bydd adroddiadau pellach am hyn yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio maes o law.
Roeddem wedi cytuno ar y Cynllun Gorsaf Brofi Gymeradwy a fydd yn amodol ar Delerau ac Amodau penodol cyn cael ei gymeradwyo, gan ddechrau ar 1af Ebrill 2022. Mae’r gorsafoedd profi cymeradwy ar gyfer Cerbydau Hacni a cherbydau Hurio Preifat o fewn Sir Fynwy.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar yr amod bod y drafodaeth yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei diffinio ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
Ystyried cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat ac ystyried a ddylai'r gweithredwr hurio preifat trwyddedig a pherchennog cerbydau hacni barhau i ddal trwydded o'r fath. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeisydd i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion gan esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei enw a’i gyfeiriad gerbron y Pwyllgor. Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn yr adroddiad ac wedi cydnabod y byddai’n parhau heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Roedd y materion a’r manylion allweddol wedi eu cyflwyno ar lafar i’r Pwyllgor.
Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn y cyfle i annerch y Pwyllgor, a chyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi cyflwyno cwestiynau i’r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth. Rhoddwyd cyfle wedyn i’r ymgeisydd i grynhoi.
Yn dilyn cwestiynau, roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a’r cynrychiolydd cyfreithiol wedi gadael y cyfarfod er mwyn trafod y canfyddiadau.
Ar ôl ail-ddechrau’r cyfarfod, roedd y Cadeirydd wedi esbonio bod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi cytuno:
· Dylid gwrthod adnewyddu Trwydded Gyrru Cerbyd Hacni / Hurio Preifat yr ymgeisydd.
· Dylid dirymu’r drwydded Gweithredwr Hurio Preifat..
· Dylid dirymu’r Drwydded Cerbyd Hacni
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Cofnodion: Dydd Mawrth 12fed Ebrill 2022 am 10.00am.
|