Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 9fed Chwefror, 2017 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Sir D. Evans ac S. White.

 

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.

3.

Fforwm Gyhoeddus Agored

Cofnodion:

Nidoedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol oedd yn bwriadu cyfarch y Pwyllgor Dethol.

 

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2017 pdf icon PDF 213 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dyddiedig 5ed Ionawr 2017ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 

 

 

5.

Cyflwyniad Sir Fynwy yn y Dyfodol

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog dros Fenter a’r Pennaeth Economi a Menter ar Sir Fynwy’r Dyfodol.

 

MaterionAllweddol

 

Darparodd y cyflwyniadfel maear gyfer cymunedau cynaliadwy a chadarn gan amlinellu:

 

  • Rhaglenragolwg yn canolbwyntio ar gyflawni, yn dechrau heddiw.

 

  • Cadw’n sir (ac felly’n cyngor) i ‘fynd’ ac i ‘dyfu’.

 

  • Adnabod y symudiadau a’r newidiadau sydd eu hangen yn Sir Fynwy ac mae’n lleoli’n cyngor fel y prif alluogydd i’w dwyn i fodolaeth.

 

  • Mae’ngosod WFG yng nghanol yr hyn a wnawnyn llywio polisi ac arfer.

 

  • Eglurderynghylch problemau REAL rydymniyn ceisio’u datrys.
  • Mae’ngwreiddio’r broses ‘gyllidebfel swydd-ddydd ond mewn ffordd a lywiwyd i bwrpas.

 

  • Rheolaeth o-ochr-galw.

 

  • Celf y posibl ac mae’n cysylltu cymunedau creadigol o ymrwymiad.

 

A’rrheswm dros wneud hynny;

 

Amsercyni, galw a disgwyliadau cynyddol - bydd y ffordd rydym yn ymateb yn effeithio dros  900,000 o bobl.

 

  • Busnesfel arfer a llwyfannau llosg heb fod yn gydweddol.

 

  • £, demograffeg, lleoliaeth, WFG, anghyfartaledd a Brexit

 

  • Perthnasedd, cyfreithlondeb a hyfywedd

 

  • Gwasanaethaucyhoeddus mwy effeithiol yn genedlaethol/yn rhanbarthol/n lleol yn hanfodol i Werth Ychwanegol Gros sy’n tyfu.

 

  • Cyllideb y 4 blynedd ddiwethafgostyngiad a chynhyrchu incwmer mwyn cadw’r cyfan i fynd’.

 

  • A ydym weithiau’n methu â gweld y darlun cyflawn yn glir?:

 

v  Arweiniadgan y bobl neu gan y gwasanaeth? Cyfeirio neu gymryd cyfrifoldeb?

v  Ffocwscul neu ganlyniadau methiant cymdeithasol?

v  Cynnigsafonedig neu gynnig wedi’i deilwra?

v  Cydberthnasaugyda chymunedau a phartneriaid?

v  Risgariannol a datblygu economaidd?

 

 

CraffuAelodau

 

AwgrymoddAelod mai’r ffordd i gadw pobl ifanc yn y sir oedd  drwy roi’r gorau i adeiladu tai crand a oedd yn gweddu’n well i bobl wedi ymddeol ac adeiladu mwy o dai dwy ystafell wely a fyddai’n fwy hyfyw’n ariannol.

 

Awgrymwydhefyd y byddai Sir Fynwy’n elwa o fwy o ddatblygiadau busnes uwch-dechnoleg a fyddai’n creu’r math priodol o swyddi gan roi i bobl ifanc yr ysgogiad i aros yn lleol. Ar hyn o bryd mae llawer o swyddi’n cynnig isafswm cyflog a swyddi manwerthu sy’n talu’n wael. Mae cyflogau isel yn ei gwneud yn amhosibl i bobl ifanc fforddio eiddo yn Sir Fynwy.

 

EstynnoddAelod longyfarchiadau i’r Prif Swyddog a’i thîm ar y cyflwyniad gan wneud y sylw mai’r brif flaenoriaeth oedd newid ffordd o feddwl ac agwedd pobl. Gofynnodd a ellid rhoi’r  cyflwyniad i holl aelodau’r staff gan ei fod yn gosod holl sefyllfaoedd pwnc cymhleth iawn mewn fformat sy’n hawdd ei ddeall. 

 

Parthedmentergarwch, gyda Sir Fynwy’n sir dwristaidd yn bennaf, gofynnwyd fel gallem wella’r ddelwedd honno. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant na chefnogi pobl ifanc mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar Dwristiaeth pdf icon PDF 147 KB

To scrutinise a working draft of an SPG on tourism.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun

 

CynghoriAelodau ar baratoad y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft (CCA) ar Lety Twristiaeth Gynaliadwy i roi eglurhad ar ddehongli polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Argymhellion:

 

1. Bod y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yn nodi cynnwys yr adroddiad hwn a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Llety Twristiaeth Gynaliadwy Drafft ac yn gwneud sylwadau yn unol â hynny.

 

2. Ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Dethol o’r CCA, gydag argymhelliad i’r Gweinidog Cabinet y dylid cyhoeddi’r CCA ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

3. Bod y Pwyllgor Dethol yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus ac unrhyw ddiwygiadau cysylltiedig i’r CCA mewn cyfarfod yn y dyfodol , cyn argymell y CCA i’w mabwysiadu’n ffurfiol.

 

MaterionAllweddol:

 

1 Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (2011-2021) yn Chwefror 2014 i ddod yn gynllun datblygu mabwysiedig i’r Sir (ac eithrio’r rhan honno o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Mae’r cynllun datblygu statudol hwn yn cynnwys nifer o bolisïau sy’n berthnasol i dwristiaeth a gaiff eu hamlinellu yn Atodiad A o’r CCA Drafft (gaiff ei atodi fel Atodiad 1). Mae deddfwriaeth yn nodi bod ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu yn unol â’r CDLl, oni bai bod ystyriaethau cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. O ganlyniad, mae effeithiolrwydd a phriodoldeb polisïau’r CDLl yn hanfodol i sicrhau canlyniadau twristiaeth dymunol. Fodd bynnag, mae;n werth nodi nad oes yn rhaid i’r CDLl gwmpasu pob posibilrwydd. Yn wir, mae cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu CDLliau yn mynnu nad yw CDLliau yn dyblygu polisi cynllunio cenedlaethol. Gellir ystyried pynciau neu fathau o dwristiaeth na chwmpasir gan bolisïau CDLl penodol dan bolisi cynllunio cenedlaethol ac/neu ystyriaethau cynllunio perthnasol.

 

2. Derbyniodd y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu, yn ei gyfarfod ar 13

Hydref 2016, adroddiad  a ddarparodd ddiweddariad ar effeithiolrwydd fframwaith polisi’r CDLl  yn galluogi/cyflawni datblygiadau sy’n berthnasol i dwristiaeth ers mabwysiadu’r Cynllun ac wedi adolygu’r graddau y mae’;r CDLl yn cefnogi ffurfiau cynaliadwy o lety twristiaeth. Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i gefnogaeth y polisi i gynigion am ‘glampiollety - maes twf allweddol y mae’r Cyngor yn dymuno’i gefnogi mewn egwyddor. Argymhellodd yr adroddiad yn ddiweddarach fod CCA drafft yn cael eu paratoi i ddarparu eglurder ar y modd y caiff cynigion at gyfer llety twristiaeth gynaliadwy eu hystyried a bod y CCA yn cael eu cyflwyno nôl i’r Pwyllgor Dethol cyn i’r CCA gael eu cylchynu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

3. Mae defnydd dewisol o’r CCA yn gyfrwng amlinellu canllawiau thematig neu ganllawiau penodol i safleoedd a rheiny’n fwy manwl  ar y ffordd y caiff polisïau’r CDLl eu cymhwyso mewn amgylchiadau neu feysydd penodol.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9, 2016) ym mharagraff 2.3.3 yn nodi fel a ganlyn:

Nid yw CCA yn ffurfio rhan o’r cynllun datblygu ond mae’n rhaid iddynt fod yn gyson â’r cynllun a gyda’r polisi cenedlaethol. Mae’n rhaid iddynt ddeillio o a’u croesgyfeirio’n glir i bolisi  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Monitro'r gyllideb pdf icon PDF 699 KB

To review the financial situation for the directorate, identifying trends, risks and issues on the horizon with overspends/underspends).

Cofnodion:

Cyd-destun:

Pwrpasyr adroddiad hwn yw darparu ar gyfer Aelodau wybodaeth ar sefyllfa alldro rhagolwg refeniw’r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 3 sy’n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 9  ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Caiffyr adroddiad hwn ei ystyried yn ogystal gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

 

       asesu a yw monitro’r gyllideb yn effeithiol yn digwydd;

       fonitro’rgraddau y mae cyllidebau’n cael eu gwario yn unol â’r gyllideb a gytunwyd a fframwaith polisi; 

       heriorhesymoldeb troswariant a thanwariant rhagamcanol, a

       monitrocyflawni enillion effeithioldeb a ragfynegwyd neu gynnydd mewn perthynas â chynigion arbed. 

 

Argymhellioni’r Cabinet:

 

1. Bod y Cabinet yn nodi graddau’r rhagolwg o danwariant refeniw gan ddefnyddio data cyfnod 3 o £79,000, gwelliant o £919,000 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 2.

 

2. Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu’r lefelau o droswariant a thanwariant ac yn ailddyrannu cyllidebau i leihau graddau’r sefyllfaoedd digolledu sydd angen eu hadrodd bob chwarter.

 

3. Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi’r graddau o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn rhagamcanol ysgolion, ei effaith o lefelau alldro cronfeydd wrth gefn a’r disgwyliadau cysylltiedig y bydd 6 ysgol arall mewn sefyllfa o ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

4. Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, y tanwariant a’r troswariant arwyddocaol, ac yn bwysicach bod y Cabinet yn cydnabod y risg sy’n gysylltiedig â gorfod dibynnu ar y defnydd o dderbynebau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a’r potensial i hyn gael pwysau refeniw arwyddocaol petai derbynebau’n cael eu hoedi a benthyca dros dro’n angenrheidiol.

 

5. Bod y Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £30,000 i mewn i gyllideb cyfalaf y Grant Cyfleusterau i’r Anabl er mwyn ymateb i’r galwadau a osodir ar y rhaglen gyfredol, yn cael ei hariannu gan drosglwyddiad o Gyllidebau Cynnal a Chadw Priffyrdd a Mynediad i Bawb.

 

6. Bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnydd o £30,000 i gynllun Woodstock Way a fforddir gan danwariant cyfatebol i gynllun gwelliant ardal arall (Y Fenni).

 

 

CraffuAelodau:

 

Ceisiwydeglurhad parthed y tanwariant yn Y Fenni a fforddiodd gyllid i gynllun cyswllt Woodstock Way a dywedwyd wrth y Pwyllgor bod hyn yn  ymwneud â gwaith a oedd angen ei wneud ar gyfer yr Eisteddfod ond na wnaed o gwbl

 

Parthed y llithriad cyfalaf gofynnwyd paham y gwnâi sefyllfa’r trysorlys yn waeth. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym os na chawn y derbynebau cyfalaf rydym yn eu defnyddio mewn rhan-gyllid ar gyfer ein rhaglen gyfalaf a fydd yn ei gwneud yn angenrheidiol i ni fenthyca pan na fyddem fel arfer yn gwneud hynny; mae’r rheiny’n gostau ychwanegol sy’n effeithio’r cyfrif dyraniadau a’r trysorlys. Derbynebau cyfalaf yw’r rhain o werthiannau ac asedau tir.

 

 

Holwyd pa ddadansoddiad sy’n digwydd ar hyd adeilad yr ysgol a pha mor fanwl mae’r gwariant ar yr ysgol yn cael ei archwilio. Dywedwyd wrthym, yn nhermau rheoli prosiect, bod yna gyllideb fanwl a bod cydweithwyr cyllid yn cwrdd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yr Economi a Datblygu Gwaith Craffu pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

ArchwiliwydBlaenraglen Waith Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Cyfarfodtai fforddiadwy ar 14eg Chwefror

PwyllgorauDethol Oedolion, E&D a Chymunedau Cryf yn gwahodd aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Cyd-bwyllgory  4 Pwyllgor Dethol ar 27ain Chwefror ar gyfer yr ASDM.

 

Dygir y cyfarfod ar 25ain Ebrill ymlaen i’r 6ed Ebrill am 2pm. Yr eitemau fydd:

 

  • Gwahodd Llywodraeth Cymru.
  • BT – i drafod treigl Band llydan.
  • Cyfarwyddwr y Velothon i gyflwyno ar ROI y Velothon.
  • Cynllun Cyflawni Menter Ieuenctid 2017/18.

 

 

 

9.

Blaenraglen waith y Cabinet a Chyngor pdf icon PDF 469 KB

Cofnodion:

ArchwiliwydBlaen Gynllun Busnes y Cyngor a’r Cabinet, ni thynnwyd sylw ar unrhyw eitemau i’w craffu.

 

 

10.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

27th April 2017 at 10am (pre-meeting 9.30am)

Cofnodion:

6ed Ebrill 2017 2pm, cyngyfarfod am 1.30pm.