Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu

Diben y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Economi a Datblygu yn ymateb i anghenion busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr, gan hyrwyddo gweithgaredd economaidd, yn cynnwys:

 

           Craffu ar reoli y Gyfarwyddiaeth Adfywio a Diwylliant

           Datblygiad economaidd strategol, llunio lle a menter.

           Hyrwyddo a chynnal twf economaidd.

           Creu swyddi a sicrhau cyfleoedd ar gyfer sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol.

           Iechyd y Cyhoedd, Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnachu.

           Y parth cyhoeddus - Diwylliant, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatr.

           Y Swyddogaeth Cynllunio - Rheoli Adeiladu, Rheoli Datblygu, Cynlluniau Datblygu Lleol, Datblygu Economaidd a Tai.

           Craffu ar gynlluniau ar y cyd megis y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a CMC ac eraill fel sy'n briodol.

           Caffaeliad.

 

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon



·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Aelodaeth