Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Sir S. Jones
fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol
â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed Eitem 6 ar yr agenda
– Asesiad Risg Strategol 2016, ynghylch
yr ardoll brentisiaethau a’r ailbrisio ardrethi.
|
2. |
Fforwm Agored i'r Cyhoedd.
Cofnodion:
Nid
oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
3. |
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 200 KB
Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad
dyddiedig 24ain Tachwedd 2016 ac fe’u llofnodwyd
gan y Cadeirydd.
|
4. |
Drafft Gynigion Cyllideb Gyfalaf 2017/18 i 2020/21. PDF 124 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyd-destun:
Amlinellu’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18
a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd
2018/19 i 2020/21.
Materion
Allweddol:
Materion yn
ymwneud â’r Cynllun Ariannol Cyfalaf Tymor
Canolig (CATC):
-
Adolygir y rhaglen
gyfalaf bedair blynedd yn flynyddol a chaiff ei diweddaru er mwyn
ystyried unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol.
-
Y brif gydran ar gyfer
y CATC cyfalaf ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf yw’r
rhaglen ysgolion y Dyfodol. Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi
cymeradwyo cyllid pellach ar gyfer y rhaglen hon yn ei gyfarfod a
gynhaliwyd ar 20fed Hydref 2016.
-
Mae nifer o feysydd
eraill lle mae ymrwymiad i fuddsoddi. Fodd bynnag, mae’r
cynlluniau ar hyn o bryd yn gorwedd y tu allan i’r rhaglen
fel mae gwaith yn mynd rhagddo i adnabod y gofynion
cyllido. Y rhain yw:
-Pwll Trefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu’r pwll yn
Nhrefynwy o ganlyniad i Raglen Ysgolion y Dyfodol.
-
Hyb Y Fenni -
ymrwymiad i ail-ddarparu’r llyfrgell gyda’r Siop Un
Stop yn Y Fenni i gwblhau’r bwriad i greu Hyb ym mhob un
o’r trefi.
-
Grantiau Cyfleusterau
i’r Anabl – mae’r galw am grantiau ar hyn o bryd
ymhell y tu hwnt i’r gyllideb, mae gwaith yn cael ei gyflawni
i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fwyafu’r effaith
a’r budd i’r rheiny sy’n derbyn y
grantiau.
-
Y Fargen Ddinesig
- Mae
10 Awdurdod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
â’u golygon ar Fargen Ddinesig bosib o £1.2
biliwn. Ceisir cytundeb ar draws y rhanbarth i ymrwymo i’r
rhaglen hon yn Ionawr 2017 ac felly byddai’n effeithio ar y
CATC. Modelir yr effaith bosib ar gyllidebau awdurdodau unigol ar y
blaen i benderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn
i awdurdodau ddechrau meddwl am yr ymrwymiad yn eu
CATCiau..
-
Bloc J ac E –
Mae rhaglen resymoli’r swyddfa’n cael ei hystyried i
weld a oes ateb a fyddai’n galluogi safleoedd Magwyr a
Brynbuga i gael eu hatgyfnerthu, gan ryddhau cyllid i dalu am y
buddsoddiad angenrheidiol i ddod â’r blociau nôl
i’w defnyddio.
·
Datblygir strategaeth sy’n galluogi’r
rhaglen graidd, Ysgolion y Dyfodol a’r cynlluniau uchod i
gael eu cytuno. Er gwaethaf hyn, deil
cryn dipyn o bwysau sy’n gorwedd y tu allan i unrhyw
bosibilrwydd i’w cyllido o fewn Cyfalaf CATC ac mae risg
sylweddol ynghlwm wrth hyn. Mae’r
Cabinet wedi derbyn y risg hon yn flaenorol.
.
·
Y polisi presennol yw y gellir ychwanegu cynlluniau
newydd pellach at y rhaglen hon yn unig os yw’r achos busnes
yn dangos eu bod yn hunan-gyllidol neu’r ymddengys bod y
cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen
ac felly’n eu disodli.
·
Yn gryno, nodwyd y
materion a’r pwysau canlynol eraill:
-
Rhestr hir o bwysau wrth gefn – isadeiledd,
eiddo, gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, Hawliau Tramwy
Cyhoeddus, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Ni
chynhwysir un rhyw rai o’r pwysau hyn yng Nghynlluniau
Ariannol Tymor Canolig y cyfalaf cyfredol, ond mae hyn yn dwyn risg
sylweddol gydag ef.
-
Angen ...
view the full Cofnodion text for item 4.
|
5. |
Drafft Gynigion Cyllideb 2017/18 er ymgynghoriad. PDF 318 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyd-destun:
Craffu drafft gynigion manwl ar yr arbedion i’r gyllideb
sy’n ofynnol i gwrdd â’r bwlch rhwng yr adnoddau
sydd ar gael a’r angen i wario yn 2017/18. Hefyd, ystyried
cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
(CATC) pedair blynedd a blaenoriaethau’n ymddangos i lywio
gweithgareddau drwy Sir Fynwy’r Dyfodol.
Materion
Allweddol:
Archwiliodd y Pwyllgor Dethol gynigion cyllideb y Fenter, fel yr
amlinellir yn Atodiad 3c o’r adroddiad, yn ymwneud
â’r adrannau
canlynol o fewn y Gyfarwyddiaeth Fenter:
·
Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant .
·
Cynllunio.
·
Tai.
·
Datblygu Economaidd.
Craffu
Aelodau:
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch y ffaith na ellid cyflawni’r mandad ar gyfer
marchnadoedd, nodwyd bod cyfle wedi codi i ailosod y Gyllideb.
Felly, y flwyddyn hon, cymerwyd y cyfle i fynd i’r afael
â’r gwasgbwyntiau o fewn y Gyllideb a’u
hailgloriannu o fewn y Gyllideb a lleddfu’r effaith ar
wasanaethau. Mae cyllideb y marchnadoedd yn syrthio i’r
categori o allu ailosod y gyllideb. Cydnabyddir o fewn marchnadoedd
bod problem gyda gorwariant rheolaidd o ganlyniad i ddiffyg mewn
incwm. Daethpwyd â mandad uchelgeisiol drwyddo i gynhyrchu
mwy o incwm. Cymerwyd y cyfle eleni i beidio â gor-estyn y
gwasanaeth hwn tra deuir â’r gorwariant i lawr. Mae hyn
yn caniatáu i’r marchnadoedd a’u cyllideb gael
ei dwyn ymlaen mewn modd cynaliadwy.
-
Ardoll Brentisiaethau - Nodwyd, parthed arian yn dod
i mewn, mae’r mater hwn yn cael ei ddatrys. Mae San Steffan
yn edrych ar drosglwyddo arian i Lywodraeth Cymru mewn perthynas
â’r arian a gesglir drwy Ardoll Brentisiaethau. Cawn
weld fel caiff yr arian hwn ei drosglwyddo nôl i mewn
i’r gymuned fusnes ac i’r awdurdodau lleol. Trafodir
hyn yn eiddgar yn nhrafodaethau’r Fargen
Ddinesig.
-
Ailbrisiadau Ardrethi - Nodwyd bod y codiadau
cyffredinol yn sir Fynwy wedi bod yn uwch i fusnesau nag mewn
awdurdodau eraill yng Nghymru. O fewn Sir Fynwy mae cynnydd o
11%. Ar draws Cymru bu lleihad yn
bennaf mewn ailbrisiadau ardrethi. Mae meysydd yn Sir Fynwy sydd
wedi cael eu hergydio’n galed, sef yn y diwydiannau
lletygarwch a manwerthu. Daeth Llywodraeth Cymru ymlaen â
chronfa o £10,000,000 yn gymorth i leddfu peth o’r
pwysau hyn. Fodd bynnag, grant am unwaith yn unig yw hwn, i’w
ledaenu ar draws Cymru ac nid yw’n mynd i’r afael
â phroblem hirdymor ardrethi. Nid
yw manylion y modd y dyrennir y grant ar gael ar hyn o bryd. Bydd y
Pwyllgor Dethol yn derbyn diweddariad parthed dyrannu’r grant
o £10,000,000.
-
Pensiynau 21.1% o gyfradd cyflogwr -
Nodwyd bod awdurdodau eraill yn talu
llai na’r 21.1% a delir gan Sir Fynwy. Nodwyd mai cynllun
cenedlaethol yw Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, felly nid oedd o
fewn gallu Cyngor Sir Fynwy ar ei ben ei hun i newid y cynllun
cenedlaethol. Ystyriwyd y dylid cyfeirio’r mater hwn
i’r Pwyllgor Archwilio i ymchwilio paham fod Cyngor Sir Fynwy
yn gorfod cario cyfradd uwch o bensiwn o gymharu ag awdurdodau
lleol eraill.
|
6. |
Asesiad Risg Strategol 2016. PDF 703 KB
Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyn trosolwg o’r risgiau strategol presennol sy’n
wynebu’r Awdurdod, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r
adroddiad.
Materion
Allweddol:
Diweddarwyd y risgiau sy’n bodoli eisoes ar yr Asesiad
Risg Strategol yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael yn
2016. Cymeradwywyd newidiadau
i bolisi rheoli risg y Cabinet ym
Mawrth 2015 a pharheir i’w cymhwyso i’r gofrestr o
risgiau strategol Y rhain yw:
·
Cynnwys sgorau o fesurau cyn-liniaru ac
ôl-liniaru risg. Roedd
hwn hefyd yn argymhelliad allweddol o’r archwiliad o asesu
risg yn 2014.
·
Sicrhau mwy o eglurder i’r ymadrodd risg fel
bod pob gosodiad yn cynnwys digwyddiad, achos ac
effaith..
Mae’r asesiad risg yn cwmpasu risgiau lefel uchel a lefel
ganolig yn unig. Ni chofrestrir risgiau gweithredol lefel isel oni
bai y rhagwelir y byddant yn dwysáu o fewn y tair blynedd a
gwmpasir. Mae angen rheoli’r rhain a’u monitro drwy
gynlluniau gwasanaeth timoedd.
Yn
dilyn cyflwyniad i’r pwyllgorau dethol a’r Pwyllgor
Archwilio, cyflwynir yr asesiad risg i’r Cabinet i’w
arwyddo. Mae’r asesiad risg yn ddogfen fyw a bydd yn datblygu
yng nghwrs y flwyddyn fel y daw gwybodaeth newydd i’r
fei.
Craffu
Aelodau:
-
Nodwyd, cyn ei gyflwyno i’r Cabinet yn
Chwefror 2017, caiff dau risg pellach
eu hystyried i’w hychwanegu i’r Gofrestr, sef y risg
posib o gwmpas namau yn y bas data a mynediad i rwydwaith y Cyngor
yn allanol a hefyd o gwmpas ailbrisiadau ardrethi.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch yr angen am
dai yn Sir Fynwy yn dod yn risg strategol, nodwyd bod hwn yn fater
pwysig a’i fod yn cael ei ddatrys drwy gyfrwng y Cynllun
Datblygu Lleol. Fodd bynnag, petai’r tueddiadau hyn yn
parhau, yna gellid nodi’r mater fel risg posib.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch treigl band llydan yn cael ei ddarparu gan
ddatblygwyr tai, nodwyd nad oedd hyn yn fater i ddatblygwyr ei
ddarparu. Roedd angen i’r Awdurdod barhau i roi pwysau ar
Lywodraeth Cymru i ymgymryd â’r mater hwn, ar draws Sir
Fynwy., Fodd bynnag, nodwyd bod cyfle,
mewn perthynas â ffibr yn brif
rwydwaith eiddo newydd, bydd hyn yn
galluogi cynyddu cyflymder band llydan yn sylweddol mewn eiddo
newydd.
-
Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi agor proses
ymgynghori i roi gwybodaeth am y cylch nesaf o gyllido mewn
perthynas ag isadeiledd band llydan. Bydd angen diweddariad oddi
wrth Lywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Dethol ym Mehefin 2017 i
egluro i’r Pwyllgor y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y mater
hwn a phryd mae’r gwaith yn debygol o gael ei gwblhau. Y
mater hwn i’w osod ar raglen waith y Pwyllgor
Dethol.
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch risg
ariannol i’r Awdurdod, nodwyd bod y mater hwn a’r
ansicrwydd posib o gwmpas y mater hwn yn cael ei gwmpasu yn y
gofrestr risg.
-
Atodiad 1 cyf. 2, gallai rhai gwasanaethau ddod yn
anghynaliadwy’n ariannol yn y tymor byr i ganolig o ganlyniad
i gyllidebau’n lleihau a’r
galw’n cynyddu – nodwyd yn nhermau’r gweithredu
lliniarol a osodwyd yn ei le, yr amcanestyniadau yw, os bydd y
...
view the full Cofnodion text for item 6.
|
7. |
Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. PDF 70 KB
Cofnodion:
Penderfynasom dderbyn a nodi’r rhestr o weithredu’n
codi o gyfarfod y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a gynhaliwyd
ar 24ain Tachwedd 2016.
|
8. |
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. PDF 183 KB
Cofnodion:
Fe
archwiliwyd Blaenraglen Waith y Pwyllgor
Dethol Economi a Datblygu. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau
canlynol:
-
Gweithdy Twristiaeth – 12fed Ionawr
2017 am 10.00am.
-
Cyfarfod y Cydbwyllgor Dethol ynghylch y Gyllideb -
31ain Ionawr 2017 am 2.00pm.
-
Cyfarfod y Pwyllgor Dethol
Economi a Datblygu
– 9fed Chwefror 2017 am
10.00am.
-
Pwyllgor Dethol Arbennig Economi a
Datblygu ynghylch Tai Fforddiadwy -
14eg Chwefror 2017 am 2.00pm.
-
Pwyllgor Dethol Arbennig Economi a
Datblygu ynghylch y Model Cyflawni Amgen
– 27ain Chwefror 2017 am 2.00pm.
-
Byddai e-bost misol i’r holl Aelodau yn
amlinellu’r cyfarfodydd a’r seminarau i ddod yn
fuddiol.
-
Adroddiad ynghylch yr enillion ar fuddsoddiad
parthed y velothon sy’n berthnasol i Sir Fynwy i gael ei
ychwanegu at y rhaglen waith i’w
ystyried mewn cyfarfod o’r pwyllgor dethol yn y
dyfodol.
Penderfynasom dderbyn y rhaglen waith a nodi’i
chynnwys.
|
9. |
Cyngor a Blaengynllun Busnes y Cabinet. PDF 461 KB
Cofnodion:
Archwiliwyd Blaenraglen Fusnes y Cyngor a’r Cabinet. Wrth
wneud hynny, nodwyd y cyflwynir y Strategaeth Buddsoddiadau Asedau
i’r Cabinet yn fuan.
Penderfynasom dderbyn yr adroddiad a nodi’i
gynnwys.
|
10. |
GOHIRIO CYFARFOD –AILDDECHRAU AM 2.00PM.
Cofnodion:
Penderfynasom ohirio’r cyfarfod gyda’r bwriad o
ailgychwyn am 2.00pm.
|
11. |
I dderbyn cyflwyniad ynghylch y Rhanbarth y Brifddinas Caerdydd Fargen City - HOLL AELODAU'R GWAHODDIR I FYNYCHU. PDF 1 MB
Cofnodion:
Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd P. Fox, Prif Swyddog,
Economi a Menter a Phennaeth Economi a Menter yn bresennol i
ddarparu cyflwyniad ar Fargen Ddinesig
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn
ei gyflwyniad, estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i’r
Arweinydd ar dderbyn yr OBE.
Cynghorwyd ni fod y cyflwyniad yn fersiwn wedi’i diweddaru
i honno a gyhoeddwyd ar yr agenda, a chytunwyd diweddaru’r
fersiwn a gyhoeddwyd i adlewyrchu’r cyflwyniad a dderbyniwyd
yn y cyfarfod.
Roedd rhai o’r meysydd y tynnwyd sylw atynt yn y
cyflwyniad yn cynnwys cronfa fuddsoddi a meysydd i fuddsoddi
ynddynt; pwysigrwydd llywodraethu
a’r cryfder ymrwymiad, camau i symud ymlaen, a chyfraniadau
ariannu a chyllido.
Yn
dilyn y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i wneud sylw.
- Byddai cyfarfod Cyngor i drafod y Fargen Ddinesig ymhellach yn
rhoi cyfle i feddwl am y cyfleoedd mae Sir Fynwy eisiau’u
hennill o’r Fargen Ddinesig.
- Cynghorodd yr Arweinydd ei fod wedi mynychu Pwyllgor Dethol ym
Mhen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi darparu adborth cadarnhaol.
Dylai’r adroddiad a’r argymhellion i’w cyflwyno
i’r Cyngor llawn fod yn rhwydd i’w deall a’u
cefnogi.
- Gofynnodd Aelod paham fod y Gwerth Ychwanegol Gros (GEG) yn
Swydd Gaerloyw 50% yn fwy nag yn Sir Fynwy. Cyfeiriodd hefyd at yr
economi ddigidol, ac ychwanegodd y gallai hyn greu ynysu digidol, a
chyfeiriodd at bryderon ynghylch y Metro, gan ychwanegu y gwelid
gwelliannau yn Nhwnnel Afon Hafren, ac ymhen amser, yn Y
Fenni. Mewn ymateb, Mae Metro yn
aml-foddol ac edrychid ar ddulliau amgen. Roedd yn bwysig bod pobl
yn gallu manteisio ar gyfleoedd lle bynnag y’u lleolir, a
thynnwyd sylw gennym at bwysigrwydd Gr?p Trafnidiaeth Strategol Sir
Fynwy i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed yn y ddadl
ehangach o gwmpas trafnidiaeth. Eglurodd y Prif Swyddog, parthed
GYG, bod ein GYG yn uwch na’r rhanbarth fel cyfanwaith, ac
ers cyhoeddi’r ffigurau, eu bod wedi tyfu 4% arall. Roedd rhesymau paham nad oeddem ar
yr un lefel â Sir Gaerloyw, gan fod ein heconomi’n
ymwneud â thwristiaeth, hamdden, bwyd ac amaethyddiaeth na
chyfrifwyd fel swyddi lefel uchel, ond mae gennym y potensial i
ehangu o gwmpas ardaloedd twf. Atebodd y Pennaeth Economi a Menter
y cwestiwn ynghylch eithrio digidol. Roedd swyddogion yn edrych yn
ddyfal ar gyfleoedd i’r rhanbarth fod yn rhanbarth CAMPUS,
gan weithio’n agos gyda chwmni o’r enw
Kinetic. Nid oedd graddfeydd cysylltedd
yn foddhaol ond roedd hyn yn cael sylw. Roedd peilot ‘Gofod
Gwyn’ ar fin cychwyn sy’n defnyddio signalau hen deledu
analog i ddarlledu band llydan. Cyflawnwyd gweithgarwch mapio
aeddfedrwydd digidol ein cwmnïau’n ddiweddar, a
ddarganfu bod y rheiny’n cael mentora unigol wedi dangos
cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch ar-lein.
- Mynegodd Aelod bwysigrwydd cadw pobl ifanc Sir Fynwy a honnodd y
dylem gynnig yr addysg gywir i’n pobl ifanc. Dylai addysg
gael ei theilwra fwy yn hytrach na chymryd yr agwedd fod yr un
addysg yn gweddu i bawb. Cydnabuwyd ein bod dan fantais parthed
lleoliad daearyddol, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn dal
gafael ar y cyfle i bobl osod eu gwreiddiau, a thyfu’r
...
view the full Cofnodion text for item 11.
|