Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 24ain Tachwedd, 2016 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir S Jones ddatganiad buddiant personol sy'n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt eitem agenda 7 - Ailbrisio Trethi Busnes, gan ei bod yn Bennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth neu bleidleisio ar hynny.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir A. Watts ddatganiad personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt eitem agenda 5 - Craffu Cyn Penderfyniad - Amgueddfeydd Sir Fynwy: Cynlluniau Pontio a'r Dyfodol gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Cas-gwent a bod Cyngor y Dref yn cyllido Amgueddfa Cas-gwent.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn bwriadu annerch y Pwyllgor Dethol.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 186 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dyddiedig 13 Hydref 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

4.

Craffu Cyn-penderfyniad: Amgueddfeydd Sir Fynwy: Trosiant a Chynlluniau’r Dyfodol. pdf icon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Derbyncanfyddiadau Adolygiad Amion o Wasanaethau Diwylliannol.

 

·         Ystyried y Siart Trosiant ar gyfer Amgueddfeydd Sir Fynwy yn seiliedig ar weithredu argymhellion allweddol Adolygiad Amion.

 

·         Ystyriedp'un ai i dderbyn a chymeradwyo'r Blaenraglen Pum Mlynedd cysylltiedig sydd ei angen ar gyfer achrediad parhaus Amgueddfeydd Sir Fynwy yn amodol ar gyflwyno achosion busnes unigol i'w cymeradwyo fel sy'n briodol.

 

MaterionAllweddol:

 

CanfyddiadauAllweddol Adolygiad Amion o Wasanaethau Diwyllianol

 

Mae adroddiad Amion yn cydnabod nad yw'r sefyllfa fel y mae yn dderbyniol ac mae'n argymell strategaeth sy'n gostwng dyblygu mewn staffio, yn gostwng costau staff, yn gostwng gwariant ar adeiladau ac asedau ac yn realistig yn cynyddu incwm, ailddiffinio'r gwasanaeth a rhoi glasbrint cynaliadwy iddo ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad yn asesu darpariaeth amgueddfeydd y Sir gan ddod i'r casgliad:

 

·         Bod y Gwasanaeth yn gorymestyn ac yn rhy ddarniog i fod yn effeithlon.

 

·         Ychydig o rannu adnoddau ac arbenigedd sydd, gyda'r Gwasanaeth yn gweithredu fel tri chorff annibynnol.

 

·         Mae lefel uchel o ymrwymiad ac angerdd gan staff gyda thystiolaeth glir o arfer da iawn mewn rheoli casgliadau a'r gwasanaeth a gynigir i breswylwyr ac ymwelwyr.

 

·         Nidoes yr un o'r adeiladau yn ddelfrydol gyda diffygion mynediad a gofodau arddangos yn llesteirio ar y Fenni a Threfynwy.

 

·         Ni all y Cyngor gyflawni arbedion i'r gyllideb bresennol heb ostyngiadau sylweddol mewn lefelau staffio ac oriau agor ac nid yw gwasanaethau cynhyrchu incwm yn cael digon o adnoddau gyda therfyn ar faint o 'elw' y gellir ei sicrhau.

 

·         Mae'rCyngor yn ceisio gwneud llawer gormod heb adnoddau digonol. Nid yw'r cynnig yn un da i breswylwyr, ymwelwyr na staff Sir Fynwy. Felly mae angen i'r Cyngor wneud llai ond ei wneud yn llawer gwell a gwahanol.

 

ArgymhellionAllweddol

 

Defnyddiodd Amion egwyddorion llywio ar gyfer newid wrth wneud ei argymhellion allweddol:

·         Dylai lleoliad pob amgueddfa barhau i fod â modd o ddweud ei stori leol lle dylai'r straeon a chasgliadau mwyaf neilltuol ar gyfer pob lle gael eu dethol a'u cyflwyno.

 

·         Byddaistorfeydd a sgiliau canolog yn ei gwneud yn bosibl darparu'r cynnig yn well - mae canolfan gasgliadau angen mynediad i'r cyhoedd a chyfleusterau ymchwil.

 

·         Mae'rstrwythur staffio presennol yn anghytbwys ac mae angen strwythur canoledig clir.

 

·         Mae angen presenoldeb ar-lein cryf ar gyfer treftadaeth Sir Fynwy.

 

·         Mae angen llwybrau ar draws y sir i gysylltu straeon gyda'i gilydd a chyfathrebu'r cynnig treftadaeth tu allan i amgueddfeydd ac adeiladau.

 

Felly mae'r prif argymhellion fel sy'n dilyn:

 

·         Creucynnig amgueddfa canoledig gyda swyddogaeth arweinyddiaeth effeithlon.

 

·         Creucanolfan casgliadau/storfa ganolog.

 

·         Parhau i roi mynediad i dreftadaeth y sir.

 

·         Creucwmni masnachu gydag adnoddau cywir. Caiff hyn ei ystyried fel rhan o'r ADM a dyna pam nad yw'n ymddangos yn y cynllun amgueddfeydd.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mae Sir Fynwy yn sir ar gyfer twristiaeth ac mae'n bwysig cadw hyn.

 

·         Mae Sir Fynwy yn adnabyddus am ei threftadaeth.

 

·         Mae'nsynhwyrol  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Monitro Refeniw a Chyllid Cyfnod 2 Datganiad Rhagolwg Alldro. pdf icon PDF 702 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn gwybodaeth ar ragolwg sefyllfa alldro refeniw'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 2 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 6 am flwyddyn ariannol 2016/17.

 

Argymhellion a gynigir i'r Cabinet:

 

·         Bod y Cabinet yn nodi maint y gorwariant refeniw a ragwelir ar gyfnod 2 o £839,000, gwelliant o £529,000 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 1.

 

·         Bod y Cabinet yn disgwyl i brif swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd o fis 6 ymlaen.

 

·         Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint defnydd cronfeydd cadw ysgolion a ragwelir a'r tebygrwydd y bydd pedair ysgol arall mewn sefyllfa ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd gydag amodau o gronfeydd cadw i gyllido £318,000 o gostau tribiwnlys cyflogaeth os na all cyllideb y Cyngor amsugno effaith y gwariant anghyffredin hwn dros y 6 mis sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol.

 

·         Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf a gorwariant a thanwariant penodol, ac yn bwysig fod y Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn gwerthiant a'r potensial i hyn gael pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai derbyniadau'n cael eu hoedi a bod angen benthyca dros dro.

 

Craffuaelodau:

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed y cynnydd posibl yn y nifer o ysgolion Sir Fynwy mewn diffyg cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (o chwe ysgol i ddeg ysgol), nodwyd fod yr amrywiad niweidiol yn fach mewn natur. Anogir ysgolion i gael llai o falans er mwyn rhoi llai o ddibyniaeth ar grynhoi balans sylweddol a gostwng newidiadau cyflym. Mae'n debygol y bydd y pedair ysgol a all fod mewn balans diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol â diffyg o lai na £10,000. Hefyd, mae tueddiad cyffredinol lle mae ysgolion sy'n derchrau'r flwyddyn gyda diffyg cyllideb yn gostwng a bod y sefyllfa'n gwella.

 

·         Yng nghyswllt Ysgol Cas-gwent, nodwyd y gwnaed gwelliannau yng nghyswllt y gyllideb ddiffyg gyda help Pennaeth Cynorthwyol Cyllid.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am y gyllideb Gwasanaethau Oedolion, nodwyd fod gan Sir Fynwy gynnydd yn y boblogaeth oedrannus a disgwyliadau am ddarpariaeth gofal. Mae hyn yn fater sydd angen ei ystyried. Mae Aelodau etholedig yn gorfod gwneud dewisiadau anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda phob cyllideb adrannol. Mae swyddogion ym mhob rhan o'r Awdurdod felly'n gorfod ailwampio cynlluniau gyda golwg ar orfod gwneud pethau'n wahanol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am y Farchnad Wartheg yn Rhaglan, nodwyd fod peth gwaith yn dal ar ôl cyn y bydd yr Awdurdod yn dod yn gyfrifol amdani. Mae'n dal i fod ar y cam comisiynu.

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

·         Bod yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

 

·         Bod y Rheolwr Craffu yn gwahodd y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu i gyfarfod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Ailbrisio Trethi Busnes – diweddariad llafar.

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbynadroddiad llafar ar yr ailbrisiad trethi busnes.

 

MaterionAllweddol:

 

DadansoddiSefyllfa:

 

Yndilyn y drafft diweddar o'r ailbrisiad trethi busnes, dynododd dadansoddiad mewnol fod 65% o werthoedfd trethiannol Sir Fynwy wedi cynyddu, 11% wedi aros yr un fath a 24% wedi gostwng.

 

Dywedoddymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd tua hanner yr holl drethdalwyr yn parhau i dalu dim yn dilyn yr ailbrisiad fel canlyniad i'r gefnogaeth gan Gynllun Cymorth Trethi Bach (SBRR). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn dangos mai dim ond 44.7% o drethdalwyr fydd yn derbyn SBBR llawn (i lawr o 51.5%) ac na fydd 31.9% o fusnesau Sir Fynwy yn derbyn dim cymorth dan SBRR (cynnydd o 17.3%). Lle nad yw busnes eisoes yn gymwys am SBBR, ni fydd yn gymwys am gymorth pontio dan gynigion presennol Llywodaeth Cymru.

 

Os aiff yr ailbrisiad yn ei flaen, mae'n debyg o gael effaith sylweddol ar fusnesau lleol Sir Fynwy, y sector manwerthu fydd yn profi cynnydd cyffredinol yn y sector o 11%, yr uchaf yn Ewrop. Ymddengys fod cyfleusterau lleol, yn cynnwys swyddfeydd post, tafarndai a neuaddau pentref hefyd yn neilltuol o fregus fel canlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r tabl islaw'n rhoi dadansoddiad o'r newidiadau canran ar sail tref wrth dref:

 

Tref

% Cynnydd

Dim Newid

% Gostyngiad

Y Fenni

68

10

22

Cil-y-coed

41

22

37

Cas-gwent

64

12

24

Trefynwy

84

5

11

Brynbuga

89

5

6

 

Gweithreduhyd yma:

 

Ganfod 'Cefnogi menter, entrepreneuriaeth a chreu swyddi' yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor, cymerwyd y camau gweithredu dilynol i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac effaith bosibl hyn ar lif arian busnesau lleol Sir Fynwy:

 

           4 Tachwedd 2016: Cyfarfod rhwng y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd â David Davies AS i sôn am bryderon.

 

           30 Tachwedd 2016: Bydd y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd Siambr Trefynwy (yn cynrychioli holl Siambrau Sir Fynwy) yn cwrdd gyda'r Prisiwr Ardal i:

 

·         Gofyn am ohirio'r ailbrisiad fel y medrir archwilio'r fethodoleg. Mae angen deall pam fod Sir Fynwy'n profi cyfran mor uchel o'r cynnydd pan fo anghysondebau gyda siroedd eraill. Mae'n rhaid i'r system gael ei gweld fel un dryloyw a theg.

 

·         Deallos oes cyfle i'r Cyngor wneud apêl dechnegol ar ran busnesau'r Sir, er nad yw'r Awdurdod yn gwybod am fethodoleg  bresennol fydd yn ei alluogi i wneud hynny.

 

·         Fel arall, ceisio sicrwydd y dylai'r rhai sy'n apelio yn erbyn yr ailbrisiad yn cael gohirio'r cynnydd nes caiff yr apeliadau eu penderfynu. Gallai busnesau y gofynnir iddynt dalu'r cynnydd annisgwyl yma wynebu problemau llif arian difrifol. Os yw Llywodraeth Cymru'n gwrthod ailedrych ar y cynigion hyn, gallai Sir Fynwy golli rhai o fusnesau eiconig y Sir.

 

·           1 Rhagfyr 2016:  Y Cynghorydd Sir Greenland i gyflwyno cynnig i'r Cyngor yn annog Llywodraeth Cymru i ohirio'r drafft gynigion hyn i roi amser am adolygiad trwyadl o'r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Amcanion Gwella a Dangosyddion Perfformiad – Diweddariad 2016/17 Chwarter 2. pdf icon PDF 398 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn data perfformiad chwarter 2 ar gyfer yr Amcanion Gwella sydd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a derbyn gwybodaeth ar y perfformiad diweddaraf o gymharu â'r dangosyddion perfformiad cenedlaethol allweddol ehangach sydd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor.

 

MaterionAllweddol:

 

Caiffyr Amcanion Gwella eu gosod yn flynyddol gan y Cyngor i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Caiff y rhain eu gosod yng Nghynllun Gwella'r Cyngor 2016/17. Er bod ffocws yr amcanion ar yr hirdymor, mae gan y gweithgareddau penodol sy'n eu cefnogi ffocws neilltuol ar y flwyddyn i ddod.

 

Mae gweithgaredd sy'n cyfrannu at gyflenwi rhai o'r amcanion yn gorgyffwrdd â chylchoedd gwersyll Pwyllgorau Dethol a rhoddir adroddiad ar hyn i'r pwyllgorau erial perthnasol.

 

Caiffyr Amcanion Gwella eu gwerthuso ar ddiwedd y flwyddyn (2016/17) yn seiliedig ar fframwaith hunanwerthuso'r Cyngor, fel y nodir yng Nghynllun Gwella 2016-17. Adroddir ar eu perfformiad i'r Pwyllgor Dethol ac yng Nghynllun Gwella Cam 2 a gyhoeddir ym mis Hydref bob blwyddyn.

 

Mae hyn yn debyg o fod y cylch blynyddol olaf Cynllunio Gwella yn y fformat hwn. Mae'r Cyngor yn cynnal dau asesiad sylweddol ar hyn o bryd ar angen a llesiant o fewn y Sir fel canlyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi sylfaen tystiolaeth llawer dyfnach o lesiant yn y Sir ac fe'i defnyddir i adolygu amcanion gwella presennol y Cyngor wrth baratoi ar gyfer cyhoeddi amcanion llesiant y Cyngor erbyn 31 Mawrth 2017.

 

Mae Atodiad C yr adroddiad yn nodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol pellach o'r Dangosyddion Perfformiad Cenedlaethol sydd o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor. Y prif bwrpas yw amlygu'r perfformiad a gyflawnwyd hyd yma yn 2016/17.  Lle mae'r dangosyddion yn cyfeirio at berfformiad gwasanaethau sydd dan gylch gorchwyl mwy nag un pwyllgor cânt hefyd eu hadrodd i'r pwyllgorau perthnasol eraill.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am gynnydd gwasanaethau twristiaeth, hamdden a diwylliant a bod y cynnydd 'ar darged', nodwyd y caiff cerrig milltir eu gosod yn nhermau cynnydd at hynny. Mae'r targed yn yr achos hwn yn cyfeirio at gwblhau'r gwerthusiad opsiynau erbyn Hydref 2016, ar ôl cael ei osod ym Mai 2016. Felly, cafodd y targed ei gyrraedd.

·         Hyrwyddwydcynllun benthyca lleoedd hyblyg drwy wefan y Cyngor, tudalen Facebook y Cyngor, Twitter a datganiadau i'r wasg i gyfleu'r neges.

 

·         Mae gan y cam gweithredu yn gysylltiedig â'r Ddêl Dinas garreg filltir i'w chyrraedd erbyn mis Mawrth 2017. Cadarnhaodd Rheolwr y Pwyllgor Dethol bod y mater hwn ar y rhaglen waith a ddeuir i'r Pwyllgor Dethol ar yr amser priodol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed data STEAM a sut y caiff ei gasglu, nodwyd y gallai'r Rheolwr Twristiaeth roi diweddariad i'r Aelod am y mater.

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

·         Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

·         Y Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad Y Prentis a Diweddariad CMC2. pdf icon PDF 313 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyndiweddariad ar weithgareddau Y Prentis a'i fanteision i ranbarth ehangach De Ddwyrain Cymru. Ystyried diddymu CMC2.

 

MaterionAllweddol:

 

Sefydlwyd Y Prentis gan CMC2 a Cartrefi Melin fel cwmni di-elw cyfyngedig drwy warant ym mis Medi 2012. Mae Y Prentis yn darparu cynllun rhannu prentisiaeth ar draws y De Ddwyrain mewn partneriaeth gyda'r CITB. Ei weledigaeth yw 'rhoi cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hirdymor i helpu pobl ifanc i gynyddu eu potensial i'r eithaf a sicrhau cyflogaeth ffrwythlon yn y dyfodol.'

 

Bu Y Prentis yn stori o lwyddiant i CMC2. Mae'n broffidiol, a chaiff ei gefnogi gan ardoll o'r sector adeiladu ac mae wedi galluogi mwy na 160 o bobl ifanc i gael prentisiaethau cynaliadwy ar gyflog byw. Ymhellach, mae'r potensial bellach yn bodoli ar gyfer parhau i ddatblygu ac ehangu'r cwmni, o gofio am y Ddêl Dinas a datblygiadau seilwaith sylweddol a chyfleoedd megis y Ganolfan Gofal Critigol yn Nhorfaen. Heblaw am y Prentis, mae CMC2 wedi creu manteision i gymunedau Sir Fynwy i fanteisio ar fand eang, MonmouthpediA, cynhwysiant digidol a thwristiaeth. Yn nhermau ei gyfraniad at y Cyngor, mae'r gwaith ar ddatblygu system gofal cymdeithasol newydd (FLO/PLANT) wedi arbed tua £150,000 yn flynyddol i'r Cyngor mewn ffioedd trwydded.

 

Gyda'r gwaith o ddatblygu'r meddalwedd wedi ei orffen a heblaw am weithrediad parhaus Y Prentis, mae CMC2 wedi gorffen masnachu ac mae wedi ymwneud â chwblhau prosiectau byw ers mis Gorffennaf 2015 pan gymeradwyodd y Cabinet gyllid wrth gefn ar gyfer ei golledion cronnus. Fodd bynnag, ni chafodd ei ddiddymu bryd hynny gan ei fod yn rhan o werthusiad opsiynau i ystyried strwythur cyflenwi addas ar gyfer y Model Darpariaeth Amgen a ystyrir ar gyfer Twristiaeth, Hamdden a Gwasanaethau Diwylliannol. Daeth y dadansoddiad i'r casgliad nad CMC2 yw'r cyfrwng cywir ar gyfer y Model Darpariaeth Amgen felly cynigir yn awr fod y cwmni'n cael ei ddiddymu'n ffurfiol.

 

Drwywneud hynny cynigir bod un cyfrif dyledus o £90,000 yn ymwneud â gwasanaethau datblygu meddalwedd ar gyfer Skutrade yn cael ei briodoli i'r Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ar wahân gyda Skutrade i benderfynu os gallai gefnogi cystadleurwydd busnesau Sir Fynwy. Ystyrir fod adfer cyfrif Skutrade yn fater ar wahân a rydym yn weithio gyda'r cwmni i setlo'r cyfrif.

 

Gan fod CMC2 wedi cofrestru fel cydberchennog Y Prentis gyda Cartrefi Melin, cynigir yn dilyn diddymu fod perchnogaeth y cwmni'n trosglwyddo i'r Cyngor, sy'n dod yn gydberchennog y cwmni dielw cyfyngedig drwy warant, sy'n llwyddiannus o'i ran ei hun. Mae'r cwmni yn awr yn dal gwargedion cronnus o £240,000 (y disgwylir y byddant yn cyrraedd £260,000 erbyn 31 Mawrth 2017). Mae'n rhaid hefyd ystyried potensial twf ychwanegol y dyfodol gyda chynlluniau buddsoddi seilwaith mawr yn y rhanbarth hefyd o gofio am gylch gorchwyl Y Prentis i weithio ar raddfa ranbarthol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Dod â chynllun busnes Y Prentis i gyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol.

 

·         Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. pdf icon PDF 186 KB

Cofnodion:

CraffwydBlaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. Nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Cynhelir cyfarfod cyffredin y Pwyllgor Dethol ar 5 Ionawr 2017 am 10.00am (cyfarfod drwy'r dydd).

 

·         Cynhelir Gweithdy Twristiaeth yn ymwneud â'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau ar 12 Ionawr 2017 am 10.00am.

 

·         Cynhelircyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yn Ionawr 2017. Eitemau ar yr agenda:

 

-       Manteisioncynnal y Velothon.

-       DêlDinas.

-       Gwaithamgueddfeydd.

-       AilstrwythuroMenter.

 

Penderfynwydderbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

 

10.

Cyngor a Blaengynllun Busnes y Cabinet. pdf icon PDF 444 KB

Cofnodion:

CraffwydBlaengynllun Busnes y Cyngor a'r Cabinet.

 

Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am yr adroddiad Llywodraethiant Cymunedol, byddai'r Rheolwr Craffu yn cydlynu gydag Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd i ganfod pryd y mae'n debyg y bydd y Pennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwella yn cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cyngor.

 

Penderfynwydderbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Dydd Iau 5 Ionawr 2017 am 10.00am