Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 13eg Hydref, 2016 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaeth Aelodau unrhyw ddatganiadau buddiant.

 

 

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd a llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Ethol yr Economi a Datblygu dyddiedig 27 Medi 2016.

 

 

 

3.

Velothon 2016 Ôl-drafod. pdf icon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyd-destun:

 

Rhoi adborth ar Velothon Cymru 2016.

 

Materionallweddol:

 

·         DdyddIau 19 Tachwedd 2015 cytunodd y Cyngor i gefnogi Velothon 2016 i'w alluogi i deithio drwy Sir Fynwy ar ôl derbyn sicrwydd y byddai'r llwybr yn cael ei ddiwygio ac y byddai ymgynghori a chyfathrebu helaeth gyda'r rhai yr effeithir arnynt yn ganolog i'w gwaith cyn y digwyddiad.

 

·         Sefydlwyd gr?p llywio cyflenwi gweithredol i oruchwylio cynllunio digwyddiad eleni. Roedd y gr?p yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r pump awdurdod lleol, gwasanaethau argyfwng, Llywodraeth Cymru, British Cycling, Run4Wales a phartneriaid cyflenwi allweddol. Sefydlwyd is-grwpiau ychwanegol i edrych yn benodol ar farchnata a chyfathrebu, logisteg ras a logisteg digwyddiad.

 

·         Sefydlodd Sir Fynwy hefyd gr?p ychwanegol 'Ymyrryd ar Wasanaethau Mewnol' a ddatblygodd drefniadau i gael eu defnyddio gan gynrychiolwyr y Cyngor Sir yn Rheoli Digwyddiad Velothon 2016. Paratodd y gr?p ddogfen yn rhoi manylion gwasanaethau'r Cyngor Sir y byddai'r Velothon yn ymyrryd arnynt, trefniadau y cytunwyd arnynt yng nghyswllt parhad gwasanaeth, strwythurau 'Gorchymyn a Rheoli' y digwyddiad, pwyntiau ELAPS, manylion cyswllt allweddol a sut y byddai'r rhain yn cydweddu â'r trefniadau digwyddiadau mawr presennol pe byddai digwyddiad sylweddol.

 

·         Ermwyn sicrhau y caiff y gwersi o Velothon Cymru 2016 eu casglu'n llawn ac y gweithredir camau i helpu gwella cynllunio sefydliadol a rheoli digwyddiadau, casglodd Gyngor Sir Fynwy adborth gan y rhanddeiliaid a phartneriaid i roi adborth i'r trefnwyr.

 

·         Roeddtrefniadaeth y digwyddiad yn 2016 yn welliant sylweddol ar y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd pryderon yn dal i fod am faint o amser yr oedd ffyrdd ar gau, diffyg cyfleusterau toiled, sbwriel a'r manteision i'n Sir o gynnal y ras. Trafodwyd y materion hyn yn y Cyngor yng nghyfarfodydd Gorffennaf a Medi 2016. Fel canlyniad, cytunwyd mai dim ond pe byddai'r ffyrdd yn cael eu hailagor yn dilyn y ras cyfranogiad torfol ac y gweithredid rhaglen dreigl o gau ffyrdd cyn y ras y byddai'r Cyngor yn cefniogi'r digwyddiad eleni. Yn ychwanegol byddai angen i'r trefnwyr gadarnhau gyda'r sawl sy'n cymryd rhan na ddylent basio d?r ar ymyl ffyrdd a rhoi cyfleusterau digonol i sicrhau na fyddai angen yr ymddygiad hwn. Mae swyddogion yn gweithio gyda threfnwyr Velothon i gyflawni'r gofynion hyn.

 

CraffuAelodau

 

Codwyd y pwyntiau dilynol ar ôl ystyried yr adroddiad:

 

·         Gofynnodd Aelod pa fanteision y mae'r Velothon yn eu rhoi i etholwyr Sir Fynwy. Esboniodd Pennaeth Cyflenwi Cymunedol y tynnwyd sylw at y pwynt hwn fel mater o gonsyrn yn yr adroddiad. Nodwyd mai Caerdydd sy'n cael y brif fantais gan mai yno mae'r ras yn cychwyn ac yn gorffen. Ychwanegwyd fod manteision llai diriaethol yn Sir Fynwy. Rhoddwyd yr enghraifft fod y sawl sy'n cymryd rhan yn y ras yn ymarfer yn yr ardal ac y gallant aros am seibiant gan efallai ddefnyddio busnesau lleol. Gallent ddychwelyd i'r ardal fel ymwelwyr ond nid oes unrhyw dystiolaeth galed i gefnogi budd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Perfformiad Twristiaeth Sir Fynwy 2015. pdf icon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

Rhoi cerdyn adrodd i Aelodau sy'n ystyried Perfformiad Twristiaeth Sir Fynwy am 2015 o gymharu gyda'r amcanion a'r canlyniadau a nodir yng Nghynllun Gwella'r Cyngor.

 

MaterionAllweddol:

Mae'r cerdyn adroddiad yma yn rhoi sylw i berfformiad o gymharu â dangosyddion perfformiad allweddol 2015. Mewn hinsawdd lle mae adnoddau dan bwysau cynyddol, bu'n hollbwysig canolbwyntio'n gadarn ar flaenoriaethau a chynyddu gweithio partneriaeth a chyfleoedd i gael mynediad i gyllid allanol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Strategol Bwyd a Thwristiaeth.

 

CraffuAelodau

 

Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o gyllideb y Canolfannau Croeso o £42,358 ac effaith hynny ar y gwahanol Ganolfannau Croeso yn y Sir. Eglurwyd mai cyllideb y llynedd oedd y ffigur yr holwyd amdano a bod cyfraniad is o £18,000 i Ganolfannau Croeso am y flwyddyn bresennol. Oherwydd y costau gweithredol ar gyfer Canolfan Croeso Cas-gwent o £65,000 (y derbynnir cyfraniad o £5,000 ato gan Gyngor Tref Cas-gwent), bu angen gwneud cyfraniad is i Ganolfan Croeso y Fenni eleni tra cymerir camau i symud Canolfan Croeso Cas-gwent i fodel partneriaeth y Fenni. Gofynnwyd am wybodaeth ar gostau llawn Canolfan Croeso y Fenni ac ychwanegir eitem agenda ac adroddiad i'r rhaglen waith yn unol â hynny.

 

Roedd aelodau'n gwerthfawrogi'r wybodaeth leol a'r croeso a roddir gan Canolfannau Croeso yn ogystal ag adnoddau digidol. Pwysleisiwyd y gellid priodoli'r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd i'r oriau agor cyfyngedig mewn ymateb i doriadau cyllideb. Cytunwyd ar yr ymrwymiad i ddynodi partneriaid addas a datblygu gweithio partneriaeth ar gyfer Canolfan Croeso Cas-gwent.

 

Cytunwyd ystyried dichonolrwydd dod yn Ardal Gwella Busnes Twristiaeth. Esboniodd Aelod y gwnaed gwaith i gylchredeg i fasnachwyr yn y Fenni, gan nad oedd cymdeithas fasnach ar gael, i hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth.

 

Holodd y Cadeirydd am y cyllid allanol a dderbyniwyd, yn neilltuol, os gall awdurdodau lleol wneud cais am y Cynllun Cefnogi Buddsoddiad Twristiaeth (TISS). Dywedodd y Swyddog y gall awdurdodau lleol wneud cais i unrhyw ffynhonnell cyllid perthnasol yn ôl ei amcanion twristiaeth, a rhoddodd enghreifftiau o'r cyllid a sicrhawyd o e.e. Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol, Enillion Cyflym Teithio Llesol a'r Cynllun Datblygu Lleol. Eglurwyd fod elfennau o TISS y gall y sector cyhoeddus wneud cais amdanynt nad ydynt ar gael ar hyn o bryd ond caiff hyn ei fonitro. Hysbyswyd aelodau y comisiynwyd adolygiad o'r Cynllun Cyrchfan ac y bydd blaenoriaethau a chynlluniau'r cynllun newydd yn rhoi gwybodaeth ar gyfer y cylch nesaf o geisiadau cyllid.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am yr amserlenni ar gyfer datblygu'r Cynllun Cyrchfan newydd a dywedwyd wrtho fod yn rhaid ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2017.  Argymhellwyd y dylid ymgynghori gydag Aelodau ar y blaenoriaethau ar y cyfle cyntaf.

 

Atgoffwyd Aelodau a swyddogion am y cyfnod purdah cyn etholiadau mis Mai 2017. Cytunwyd ymgynghori ag Aelodau, efallai ar ffurf gweithdy, ar ôl ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol.

 

Croesawodd Aelod faint o ddata sydd yn yr adroddiad a rhagwelodd y dylai nifer yr ymwelwyr gynyddu yn y dyfodol gan gofio am yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a'r Premier  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad polisïau twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol. pdf icon PDF 614 KB

Cofnodion:

Cyd-destun

 

Derbyn adolygiad wedi'i ddiweddaru o bolisïau cynllunio cysylltiedig â thwristiaeth i alluogi ystyried i ba raddau y mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cefnogi amcanion y Cyngor i dyfu ein heconomi twristiaeth.

 

Materion Allweddol:

 

I gynorthwyo ystyriaeth o'r pwnc hwn, caiff yr adroddiad ei rannu'n ddau ran. Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn dynodi ceisiadau cynllunio cysylltiedig â thwristiaeth a benderfynwyd yn ystod cyfnod monitro'r ail Gynllun Datblygu Lleol i benderfynu ar effeithlonrwydd y fframwaith polisi presennol mewn galluogi datblygu cysylltiedig â thwristiaeth. Mae'r adran yn defnyddio manylion o Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol i ymchwilio caniatâd cynllunio a dynodi unrhyw geisiadau a wrthodwyd.

 

Mae ail ran yr adroddiad yn diweddaru'r canfyddiadau y rhoddwyd adroddiad arnynt yn flaenorol i'r Pwyllgor Dethol. Mae'n adolygu sut y dylid dehongli'r polisïau Cynllun Datblygu Lleol yng nghyswllt dulliau cynaliadwy o lety twristiaeth ac yn ailystyried i ba raddau y mae'r polisïau yn cefnogi datblygiad o'r fath.

 

Penderfyniadau Rheoli Datblygu

 

Dengys canfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol 2015-16 y cymeradwywyd 10 cais ar gyfer defnyddiau twristiaeth yn ystod y cyfnod monitro, wyth ohonynt am gyfleusterau llety twristiaeth. Roedd hyn yn cynnwys chwe gosodiad gwyliau (i gyd wedi'u trawsnewid) mewn gwahanol aneddiadau, estyniad i safle'r lluesty gwyliau presennol ym Mharc Gwledig St Pierre ar gyfer pum lluesty a gwesty newydd 60 ystafell wely yn Nhrefynwy (Premier Inn). Gyda'i gilydd, maent yn darparu dros 70 gofod gwely newydd a byddant yn hwb pellach i'r llety ymwelwyr sydd ar gael yn Sir Fynwy. Cymeradwywyd dau gais arall am ddefnyddiau eraill cysylltiedig â thwristiaeth - caffe cerddwyr yn Llanddewi Ysgyryd ac ardal chwarae newydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Llandegfedd. Mae nifer y cyfleusterau twristiaeth a gymeradwywyd yn debyg i'r nifer a gymeradwywyd yn ystod y cyfnod monitro diwethaf (10 cais) sy’n dangos fod fframwaith polisi twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn gweithredu'n effeithlon i alluogi datblygiad twristiaeth yn y Sir.

 

Mae'n werth nodi na chaniatawyd unrhwy geisiadau oedd yn ymwneud â cholli cyfleusterau twristiaeth yn ystod cyfnod monitro 2015-16. Yn yr un modd, ni wrthodwyd unrhyw geisiadau'n ymwneud â defnyddiau cysylltiedig â thwristiaeth. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol gyda'r Adroddiad Monitro Blynyddol blaenorol lle cymeradwywyd pum cais yn ymwneud â cholli cyfleusterau twristiaeth a gwrthodwyd dau gais cysylltiedig â thwristiaeth. Dengys hyn, ynghyd â nifer y cyfleusterau twristiaeth a gymeradwywyd dros gyfnod monitro 2015-16 ac yn gronnus ers mabwysiadu'r Cynllun, fod y polisïau perthnasol y Cynllun yn gweithredu'n effeithlon gan alluogi datblygiadau o'r fath i ddigwydd yn Sir Fynwy.

 

Fframwaith Polisi Twristiaeth y Cynllun Datblygu Lleol

 

Tyfodd mathau newydd o lety ymwelwyr mewn blynyddoedd diweddar yn cynnwys yurtiau, tepees a phodiau pren e.e. 'glampio' Gan fod dulliau llety o'r fath yn rhai cymharol ddiweddar, ni chânt eu diffinio mewn deddfwriaeth ac nid oes cyfeiriad eglur atynt ym mholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Yn unol â hynny, mae angen ystyried sut y dylai cynigion o'r fath gael eu hasesu o gymharu â'r fframwaith polisi presennol ac i benderfynu os gellid egluro dehongli/gweithredu polisi drwy gynhyrchu Cynlluniau Cynllunio Atodol. Er y cafodd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhestr camau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 86 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhestr o gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a gynhaliwyd ar 27 Medi 2016. Nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

ArdollSeilwaith Cymunedol

 

Mae'r Adran Cynllunio yn dal i weithio ar y mater. Os oes newidiadau sylweddol i'r ddogfen, yna caiff ei hailgyflwyno i'r Pwyllgor Dethol ar gyfer craffu. Fodd bynnag, os nad oes newidiadau sylweddol, cyflwynir yr adroddiad i'r Cyngor yn Ionawr 2017.

 

CanllawiauCynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy

 

Cyflwynir adroddiad i'r cyfarfod craffu a gynhelir ar y cyd gyda Phwyllgor Dethol Cymunedau Cryf a Phwyllgor Dethol Oedolion ym mis Chwefror 2017.

 

Canranceisiadau cynllunio a ddirprwywyd i swyddogion ar gyfer penderfyniad

 

Bydd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle yn rhoi manylion y ffigurau cymharol gydag awdurdodau lleol eraill yn dilyn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a gynhelir yn y dyfodol agos.

 

 

7.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. pdf icon PDF 174 KB

Cofnodion:

CafoddBlaenraglen Gwaith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu ei chraffu a nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

Eitemau agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Dethol ar 24 Tachwedd 2016

 

  • Skutrade.
  • Adroddiad am yr Eisteddfod..
  • AdroddiadBlynyddol Prif Swyddog Menter (i'w gadarnhau).
  • AdroddiadPerfformiad CMC2 (i'w gadarnhau).
  • Velothon - Adenilliad ar fuddsoddiad (i'w gadarnhau)

 

Eitemau agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Dethol ar 5 Ionawr 2017

 

  • CraffuCyllideb.

 

Eitemau agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Dethol ar 9 Chwefror 2017

 

  • CanllawiauCynllunio Atodol ar Dwristiaeth.

 

Cyfarfod y Pwyllgor Dethol - 27 Ebrill 2017

 

  • Caiff y cyfarfod hwn ei ganslo gyda golwg ar drefnu cyfarfod cynharach ddiwedd Mawrth/dechrau Ebrill 2017.

 

Eitem agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Dethol - Mawrth/Ebrill 2017

 

  • Adolygu'rhyn a gyflawnodd y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dros y pum mlynedd flaenorol.

 

DiweddTachwedd / Dechrau Rhagfyr 2016

 

  • DigwyddiadGweithdy Cynllun Rheoli Cyrchfannau.

 

 

 

8.

Cyngor a Blaengynllun Busnes y Cabinet. pdf icon PDF 420 KB

Cofnodion:

Craffwyd ar Flaenraglen Busnes y Cyngor a'r Cabinet. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am broses gosod cyllideb y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18, nodwyd y codwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Bwrdd Cydlynu. Bydd proses wahanol eleni yng nghyswllt gosod y gyllideb. Ni fydd Cyfarwyddiaethau'n paratoi mandadau i gynhyrchu arbedion cyllideb fel mewn blynyddoedd blaenorol gan yr aethpwyd â hyn mor bell ag sy'n bosibl. Bydd y flwyddyn ariannol nesaf yngl?n â gwneud arbedion drwy'r Cyfarwyddiaethau. Nodwyd na chyhoeddwyd manylion am y broses gosod cyllideb ar gyfer 2017/18 hyd yma. Fodd bynnag, bydd y Pwyllgorau Dethol yn derbyn manylion y drafft gyllideb ar gyfer 2017/18 yng nghylch cyfarfodydd Ionawr 2017. Gellid sefydlu cyfarfod ar y cyd o'r pedwar Pwyllgor Dethol i graffu ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â chyfarfodydd Phwyllgorau Dethol unigol.

 

 

9.

cyfarfod nesaf.

Dydd Iau 24 Tachwedd 2016 am 10.00am.

 

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 24 Tachwedd 2016 am 10.00 a.m.