Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 14eg Gorffennaf, 2016 10.00 am

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant gan Aelodau.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2016 pdf icon PDF 104 KB

Cofnodion:

Oherwydd camgymeriad gweinyddol, cytunwyd gohirio cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2016 i'r cyfarfod nesaf.

 

4.

Craffu Adroddiadau Perfformiad Diwedd Blwyddyn ynghyd â Chytundebau Canlyniad a Chynllun Gwella pdf icon PDF 457 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog Menter ddata diwedd y flwyddyn ar gyfer yr Amcanion Gwella sy'n dod dan gylch gorchwyl Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu:

 

  • Amcan Gwella 3: Rydym eisiau galluogi ein sir i ffynnu.
  • Amcan Gwella 4: Cynnal gwasanaethau sy'n hygyrch yn lleol.

 

Cyflwynodd yr adroddiad werthusiad o'r rhaglen a'r effaith dros dair blynedd y Cytundeb Canlyniadau 2013-16. Y themâu sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor:

 

  • Cytundeb Canlyniadau Thema 3: Tlodi ac amddifadedd

                  

Derbyniwyd hefyd y perfformiad diweddaraf ar y dangosyddion perfformiad cenedlaethol allweddol ehangach sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor.

 

Argymhellion:

 

Argymhellwyd bod:

 

  • Aelodau'n craffu'r perfformiad a gyflawnwyd a'r effaith a gafwyd, yn neilltuol mewn meysydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor, i asesu cynnydd a pherfformiad o gymharu â'r amcanion gwella.

 

  • Aelodau'n craffu'r perfformiad a gyflawnwyd a'r effaith a gafwyd, dros dair blynedd (2013/14, 2014/15 a 2015/16) y Cytundeb Canlyniadau.

 

  • Aelodau'n dynodi ac yn ymchwilio unrhyw feysydd o danberfformiad neu bryderon, a cheisio cadarnhad gan y rhai'n gyfrifol am weithgaredd y dyfodol lle daethant i'r casgliad fod angen i berfformiad wella.

 

  • Aelodau'n cadarnhau'r sgorau gwerthuso yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd.

 

Craffu gan Aelodau

 

Gofynnodd Aelod pam fod y perfformiad mewn tai yn gostwng a pha gynlluniau sydd i wella perfformiad y dyfodol. Esboniodd y Swyddog fod y cyfnod dan ystyriaeth yn adlewyrchu diwedd eithaf y Cynllun Datblygu Trefol ac nad yw nifer cwblhad o'r Cynllun Datblygu Lleol wedi dod i rym eto ac y caiff bwlch amser mewn safleoedd yn cyflwyno ei adlewyrchu yn y cyflenwad tir tai 4.1 mlynedd a gadarnhawyd. Rhoddir adroddiad ar y mater yn y cyfarfod nesaf fel rhan o'r adroddiad monitro blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig. Esboniodd y Swyddog ymhellach y medrir priodoli'r nifer isel o anheddau a gwblhawyd i'r economi allanol, tai a gwblhawyd a diwedd y dirwasgiad.

 

Esboniodd y Swyddog fod perfformiad is o gymharu â'r targedau ar gyfer unedau tai fforddiadwy yn nodwedd o'r economi presennol a heriau'n gysylltiedig â hyfywedd cynlluniau. Ychwanegodd y Swyddog y byddai’n fanteisiol trafod argaeledd safleoedd yn y Pwyllgor Cynllunio. Cyfeiriodd at nifer datblygiadau a gymeradwywyd a'r nifer mwy diweddar a gwblhawyd mewn safleoedd mwy o bump a mwy o unedau yn 2015/16. Cymeradwywyd 150 uned fforddiadwy allan o 465 uned (32%).

 

Dywedodd Aelod fod Deddf Cynllunio 2015 yn rhoi pwyslais newydd i greu Cynlluniau Lle sy'n gydnaws â'r Cynllun Datblygu Lleol ac yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, a holodd os byddai'r cynlluniau'n cael llawer o effaith gan fod preswylwyr eisiau diogelu eu bro. Ymatebodd y Swyddog na ddylai hyn achosi effaith oherwydd bod yn rhaid i'r cynllun adlewyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol. Ychwanegodd Prif Swyddog Menter y byddai'n rhaid i sbardunau polisi roi ystyriaeth i ffactorau eraill er enghraifft ffordd liniaru arfaethedig yr M4 a'r cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth h?n ynghyd â gostyngiad yn y boblogaeth iau fydd â goblygiadau difrifol i'r farchnad tai. Atgoffodd y Swyddog yr Aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor fod â 5 mlynedd o gyflenwad tir tai. Gall y cyflenwad tir presennol o 4.1  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Trafod canlyniadau y Brecwast Busnes yng nghyswllt: pdf icon PDF 159 KB

·         Twristiaeth ac arwyddion brown

·         Hysbysebu a marchnata

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyfarfod y Brecwast Busnes a gynhaliwyd ym mis Mai ac a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf, fe wnaethom barhau i adolygu'r materion a ddynodwyd. Croesawyd Fiona Wilton o Gymdeithas Twristiaeth Dyffryn Gwy a Choedwig Dena i'r cyfarfod. Trafodwyd y materion a godwyd yn y Brecwast Busnes fel sy'n dilyn:

 

           Band eang cyflym iawn: Croesawyd y drafodaeth gref ar ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled y sir. Dywedwyd fod angen gweithredu i gefnogi busnesau twristiaeth bach sy'n dibynnu ar farchnata digidol ac a gafodd eu llesteirio drwy ddiffyg gwasanaeth.

 

           Ymgysylltu Busnes: Esboniwyd cylch gorchwyl, strwythur a'r Ardal y mae'r Gymdeithas yn ei gwasanaethu. Hysbyswyd aelodau fod 300-400 aelod ar hyn o bryd. Mae'r Gymdeithas yn awyddus iawn i ymgysylltu gyda Sir Fynwy. Esboniwyd fod gan y Gymdeithas wefan effeithlon sy'n cynnwys y tair sir (Sir Fynwy (cyn belled â'r Fenni), Swydd Henffordd a Swydd Caerloyw) a dywedodd y croesewid cydlynu a chydweithredu gyda llwyfannau digidol eraill i gynyddu cyfleoedd i'r eithaf ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfryngau cymdeithasol.

 

           Gwefan i aelodau'n unig: Mae'r wefan i aelodau'n unig yn rhoi adnoddau ar gyfer busnesau a chadarnhawyd y gellid ychwanegu gwybodaeth a digwyddiadau Sir Fynwy at yr adnodd.

 

           Polisi: Amlygwyd yr angen i sicrhau cydlynu polisi a threfniadaeth strategol. Dywedwyd fod gan y Gymdeithas strategaeth cyrchfannau a'i fod yn ymgynghori gyda’r Pennaeth Twristiaeth yng nghyswllt hyn.

 

           Ymwybyddiaeth busnes: Cadarnhawyd fod llawer o fusnesau'n gweithio'n llwyddiannus mewn ardaloedd clwstwr daearyddol gan mai dyma'r ffordd y mae ymwelwyr yn gweld yr ardal.

 

           Cyfathrebu: Mae'r Gymdeithas yn trin diffyg cyfathrebu gydag aelodau busnes bach. Esboniwyd y cynhaliwyd cyfarfodydd gyda nifer dda'n bresennol.

 

           Canolfannau Croeso: Dywedwyd y dylid cadw Canolfannau Croeso ar agor cyn belled ag sy'n bosibl. Er bod Cyngor Dosbarth Coedwig Dena wedi cau canolfannau croeso, hysbyswyd aelodau fod Cyngor Tref Coleford wedi agor canolfan groeso'n llwyddiannus gyda gwirfoddolwyr yn ei staffio.. 

 

Dywedodd y Swyddog fod Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i ymwneud â gwaith y Gymdeithas, yn arbennig gamau nad ydynt angen unrhyw lwyth gwaith ychwanegol gan fod capasiti yn gyfyngedig. Cytunwyd y gellid rhannu cynnwys ar-lein ar sail gilyddol, fel sy'n digwydd gyda chymdeithasau twristiaeth eraill sy'n gweithredu yn yr ardal. Cydnabyddir nad yw rhai busnesau yn hysbysebu ar y wefan ond cânt eu hannog i gyflwyno eu manylion i gael eu cynnwys. Croesawodd y Swyddog gyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach. Fodd bynnag, nodwyd mai dim ond ar gyfer busnesau yng Nghymru y mae'r cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ac efallai nad yw prosiectau bob amser yn cyd-ffinio yn y cyswllt hwn.

 

Craffu Aelodau

 

Holodd y Cadeirydd am y cynlluniau i sicrhau ymgysylltu gyda'r gymuned twristiaeth ehangach. Dywedodd y Swyddog y sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cyrchfan a ddaeth i ben yn 2015 ac i adolygu'r trefniadau partneriaeth sy'n sylfaen iddo. Ymgynghorir â'r holl randdeiliaid, yn cynnwys Cymdeithas Twristiaeth Dyffryn Gwy a Choedwig Dena.

 

Heriodd Aelod ymagwedd y Cyngor at dwristiaeth leol a dynodi'r angen i ddeall yr effaith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adolygu cynnydd Bwrdd Rhanbarth Dinas Caerdydd - cyflwyniad.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog Menter gyflwyniad ar Ddêl Dinas Caerdydd yn esbonio y bydd y Cynghorydd Sir P. Fox yn rhoi adroddiad ar gynnydd gyda Bwrdd Trosiant Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd maes o law.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog y Ddêl Dinas gan esbonio y bydd yn rhoi buddsoddiad ar gyfer twf economaidd ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a 10 awdurdod lleol. Esboniwyd fod y Ddêl Dinas yn cynnwys cronfa buddsoddi seilwaith o £1.2 biliwn ar gyfer prosiectau a rhaglenni a all roi adenilliad buddsoddiad o fewn y rhanbarth.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, holodd Aelod am y cynlluniau i ddarparu gwell sgiliau TG i athrawon i ategu'r datblygiadau. Dywedodd y Cadeirydd y cynhaliwyd cyd-gyfarfod rhwng Economi a Datblygu a Phwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 11 Gorffennaf 2016 yn canolbwyntio ar ddarpariaeth a sgiliau TG.

 

Ymatebodd  Prif Swyddog Menter ei bod yn bwysig fod y swyddi a gaiff eu creu ar gyfer ein pobl ifanc a chyfeiriodd at sefydlu'r Bartneriaeth Sgiliau Dysgu ac Arloesedd ar gyfer De Ddwyrain Cymru i roi gwybodaeth ar gyfer y gofynion sgiliau o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch yn gysylltiedig â gwybodaeth economaidd yn y rhanbarth.

 

Gofynnodd Aelod gwestiwn am barhad cefnogaeth ariannol ar gyfer ymchwil wyddonol a'r goblygiadau ar gyfer y prosiect Metro yn dilyn Brexit. Gofynnwyd hefyd sut i sicrhau atebolrwydd a buddion y Ddêl Dinas ar gyfer ein hetholwyr.

 

Ni fedrai'r Prif Swyddog Menter roi sylwadau gan fod goblygiadau Brexit yn aneglur ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw aelodau at IQE, cwmni sydd yn arwain ym maes datblygu uwch led-ddargludyddion cyfansawdd gyda photensial i wireddu nifer sylweddol o gyfleoedd swydd yn y dyfodol. Nododd y Prif Swyddog Menter bwysigrwydd cydnabod y Pwynt Gwerthu Unigryw ar gyfer Sir Fynwy a'r rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd unwaith y bydd y deg awdurdod lleol wedi llofnodi'r cytundeb, y bydd pob un yn cael cyfle i gael mynediad i gyllid ar gyfer prosiectau sydd fwyaf perthnasol i'w ardal. Mae'n rhaid i brosiectau arfaethedig gael maint ac arwyddocâd rhanbarthol a bod yn berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

 

Nododd y Cadeirydd yr angen i weithio gyda chymunedau, yn cynnwys yr ardaloedd anodd eu cyrraedd, i gefnogi creu swyddi o wahanol lefelau. Holwyd, er enghraifft, os gellid cynyddu'r cynllun prentisiaeth ar gyfer yr holl ranbarth i sefydlu cyfleoedd lefel mynediad sy'n tyfu i swyddi llawn-amser ar gyflog da.

 

Gofynnodd Aelod am gwestiynau ar gyfer ymgysylltu tu allan i Gymru.

 

Cytunodd Prif Swyddog Menter fod ymagwedd gydlynol gyda Gorllewin Lloegr i'w annog a chyfeiriodd at sefydlu cysylltiadau gyda phartneriaeth Dinasoedd Great Western a Business West.

 

Awgrymwyd y gallai camau bach gynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau cyflogwyr a chyflogwyr ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Trafododd aelodau bwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith yn benodol yn nhermau trafnidiaeth a chyfathrebu a band eang cyflym iawn. Dywedwyd na fydd y Metro arfaethedig yn helpu rhai ardaloedd o Sir Fynwy gan nodi fod y mynediad i fysus yn gyfyngedig a bod ardaloedd y Cymoedd a Chaerdydd yn fwy tebygol o dderbyn buddsoddiad.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Blaen-raglen gwaith Economi a Datblygiad pdf icon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaen-raglen Gwaith.

 

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf sef dydd Iau 1 Medi 2016

Cofnodion:

Gohiriwyd y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 1 Medi 2016 tan 27 Medi 2016 am 1.00pm (blaengyfarfod am 12.30pm).