Agenda and minutes

Special, Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Llun, 11eg Ebrill, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

2.

Craffu’r Strategaeth Cynllun Busnes iCounty 2016/19 pdf icon PDF 632 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn y Strategaeth Cynllun Busnes iCounty ar gyfer 2016/19 ar gyfer craffu Aelodau, ynghyd ag adroddiad ar wasanaeth Digidol a Thechnolegol Cyngor Sir Fynwy  ac fel y mae’n alinio gyda strategaethau iCounty, Pobl a Lleoedd Cyngor Sir Fynwy.

 

 

Materion Allweddol:

 

Mae technoleg yn gwneud camau breision, ac mae angen i wasanaethau digidol ddal i fyny â’r newidiadau er mwyn i’r Cyngor gefnogi cymunedau ac economïau cynaliadwy. Er mwyn gwneud yn si?r bod Cyngor Sir Fynwy’n gwneud y gorau o ddigideiddio, datblygwyd y strategaeth iCounty yn Ebrill  2014 ac fe’i cytunwyd drwy brosesau cymeradwyo pwyllgor y Cyngor yng Ngorffennaf 2014.

 

Dyma ail flwyddyn ei weithredu, ac mae’r cynllun busnes wedi esblygu ac wedi’i goethi drwy ddysgu a phrofiad, ynghyd â chydweithredu gyda phartneriaid a sefydliadau ar draws y DU er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn gadarn ac yn gynaliadwy.

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflawni rhai datblygiadau sylweddol ers cymeradwyo iCounty gyntaf, ac mae’r sylfeini wedi’u gosod ar gyfer seilwaith TGCh cynaliadwy, platfformau TGCh y Cyngor, trawsnewid digidol a darpariaeth gwasanaeth digidol.

 

Craffu Aelodau:

 

·         Roedd digwyddiadau codio ar gyfer pobl ifanc yn cael eu rhedeg yn ysgolion Sir Fynwy ac yn llyfrgelloedd Sir Fynwy. Mae angen i Bobl Ifanc Sir Fynwy fod yn ddigidol alluog er mwyn sicrhau bod mwy o godwyr ar gael yn y dyfodol.

 

·         Mae’r Sefydliad Alacrity wedi gosod 12 i 16 o raddedigion drwy’i gynllun  gan ddarparu hyfforddiant iddynt gychwyn eu busnesau eu hunain. Roedd y Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth gydag Alacrity, a oedd hefyd yn gweithio gydag ysgolion Sir Fynwy.

 

·         Roedd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn ymweld ag ysgolion gyda’r bwriad o ddatblygu TG a strategaethau digidol. Roedd yr Awdurdod hefyd yn gweithio’n glos gyda’r GCA ynghylch y mater hwn.

 

·         Dywedodd y Prif Swyddog, Menter, fod codio cyfrifiadurol yn fater cenedlaethol a bod y Gyfarwyddiaeth Fenter yn gweithio gydag ysgolion.

 

·         Roedd yr Awdurdod yn ymchwilio ffyrdd o sicrhau Wi-Fi i bob neuadd bentref a phob clwb ieuenctid yn Sir Fynwy drwy gyfrwng cronfa’r  Cynllun Datblygu Gwledig (CDG).

 

·          Dylid ychwanegu eitem i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol i dderbyn adroddiad maes o law ynghylch ffyrdd i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion yngl?n â chodio cyfrifiadurol i fyfyrwyr, gan fod y Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn gorfod gweithio o gwmpas y cwricwlwm parthed y mater hwn.  

 

·         Roedd cwmpas i sgwrsio ymhellach gyda’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac ysgolion ynghylch yr angen i greu cyswllt mwy clos gyda’r ffordd yr addysgir Mathemateg, TG, a Pheirianneg. Ar hyn o bryd addysgir y rhain dan y pwnc a elwir STEM. Gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor Dethol maes o law ynghylch codio cyfrifiadurol a’r bylchau posib yn narpariaeth y pwnc hwn.   

 

·         Rheolir seilwaith y Cyngor yn effeithiol gan y Gwasanaeth Adnoddau Cyfrannol(GAC).

 

·         Mae’r Awdurdod yn Aelod o Bad Lansio Gwe Dyffryn Hafren.

 

·         Mae sawl piler i Strategaeth iCounty.  Mae’n galluogi’r gymuned i gyrchu’r gwasanaeth a gweithio’n haws gyda’r Awdurdod. Y mwyaf y galluogwn staff y Cyngor Sir yn ddigidol  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Craffu'r Gwasanaeth Adnoddau ar y Cyd (I dilydd) pdf icon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn diweddariad ar gynnydd y Gwasanaeth Adnoddau Cyfrannol (GAC) at ddibenion craffu.

 

Materion Allweddol:

 

Ers diweddariad diwethaf GAC mae’r GAC wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth dderbyn partneriaid newydd i mewn i’r sefydliad.  Uchelgais GAC erioed fu ehangu’r ddarpariaeth gwasanaeth i bartneriaid eraill y Sector Cyhoeddus. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (CBSBG) wedi cwblhau ac wedi cytuno achos busnes drwy’i awdurdodaeth a’i brosesau pwyllgor ei hun, a’r holl bartneriaid presennol i wahodd CBSBG i ymuno â’r GAC. 

 

Canolbwyntir Strategaeth GAC (2016 – 2020) ar atgyfnerthu galw partneriaid lluosog ac ymdrin â chyflenwi datrysiadau TGCh. Gellir graddio strategaeth GAC i gefnogi amcanion sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r GAC yn gweithredu gyda 5 nod strategol i:

 

1)            Gyflenwi gwasanaethau TGCh effeithiol o uned gyfunol sengl.

2)            Ddarparu sylfaen gadarn y gall sefydliadau partner weithredu arni er mwyn gwella cyflenwi gwasanaethau.

3)            Sicrhau y ffocysir y buddsoddiad mewn TGCh ar gyflenwi blaenoriaethau corfforaethol sefydliadau partner.

4)            Ddatblygu gweithlu galluog, proffesiynol a all gwrdd â’r heriau o fewn TGCh dros y blynyddoedd i ddod.

5)            Ddarparu platfform cydweithredol ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus i rannu capasiti a gallu digidol drwy blatfformau cyfrannol.

 

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent angen i ddatblygu a gweithredu model cynaliadwy i wella gwasanaeth ar gyfer ei ddarpariaeth TGCh sy’n:

 

·                    Cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru am gydweithredu.

·                    Mynd i’r afael â'r materion ariannol sy’n effeithio ar yr Awdurdod.

·                    Ymateb i anghenion cyflenwi cynyddol yr Awdurdod a materion a ddynodwyd yn flaenorol.

·                    Profi’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Cyhoeddus GAC wedi cytuno bod derbyn partner newydd yn unol â’i nodau strategol i dyfu’r busnes. Gydag ychwanegu partneriaid newydd mae’r GAC yn gallu cyflawni arbedion maint pellach a gwireddu arbedion drwy rannu’n gyfartal gostau strategol a chostau rheolwyr gwasanaeth.

 

Mae’r heriau a brofwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig cyfle i’r GAC i amlygu’i allu, yn cael ei ategu gan ei weledigaeth strategol, i sylweddoli’i botensial am gydweithredu sector cyhoeddus yn unol â dyheadau Llywodraeth Cymru. 

 

Bydd derbyn y cynnig hwn yn cynhyrchu refeniw ychwanegol o £163,665 i mewn i’r GAC i’w fuddsoddi mewn gwella gwasanaeth a fydd yn cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y partneriaid sy’n bodoli eisoes. 

 

Mae’r GAC nawr mewn trafodaethau gydag awdurdodau eraill yng Ngwent Fwyaf i ehangu’r cwmni ymhellach yn unol â’i amcanion ac yn unol â Strategaeth  2016/20 GAC.

 

Craffu Aelodau:

 

·         Rhoddid sicrwydd y byddai cofnodion cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus GAC ar gael i’r Pwyllgor Dethol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

·         Mae Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PCBESC) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy’n cysylltu sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i Rwydwaith Ardal Eang (RhAE) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Mae hwn  yn wasanaeth da iawn sy’n atal data awdurdodau lleol rhag cael eu dwyn. 

 

·         Mae’r Awdurdod yn gweithio gyda’r GAC i sicrhau bod y cyfryngau priodol ar gael i ganiatáu i swyddogion y Cyngor Sir gyflawni’u dyletswyddau’n effeithlon. Er enghraifft, mae gan  yr Awdurdod swyddogion a ddaeth yn bencampwyr digidol ac maent ar gael ar draws yr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.