Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 9fed Mehefin, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodiad Cadeirydd y Pwyllgor Dethol

Cofnodion:

Nodwyd penodiad y Cynghorydd Sir S. Jones fel Cadeirydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sir S. Jones i Hazel Llett, Rheolwr Craffu a’r tîm clercio am eu gwaith caled a’u cefnogaeth barhaus. Diolchodd hefyd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a dywedodd y byddai’n dwyn adroddiad ynghylch y Pwyllgor Economi a Datblygiad i Gyfarfod Llawn y Cyngor gan fanylu ar raglen waith y pwyllgor ochr yn ochr ag adroddiad y Prif Swyddog i sicrhau bod Aelodau’n ymwybodol o’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Economi a Datblygiad.

 

2.

Ethol Is-gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir B. Hayward fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniasom ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd Sir J. Prosser.

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol: pdf icon PDF 158 KB

·         Tuesday 11th April 2016 – Special Meeting

·         Thursday 14th April 2016

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd a llofnododd y Pwyllgor gofnodion cyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar:

 

11eg Ebrill 2016 – Cyfarfod Arbennig

 

Roedd y Cadeirydd yn awyddus, yn unol â’r argymhelliad blaenorol, i dderbyn cofnodion cyfarfodydd SRS. Cynghorodd yr Aelod Cabinet na fu cyfarfod ers Ebrill, ond roedd cyfarfod yr wythnos ganlynol.

 

Roedd y Cadeirydd yn awyddus hefyd i drafod craffu iCounty a chrybwyllodd gyfarfod pwyllgor dethol ar y cyd gyda Phwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Ni threfnwyd dyddiad hyd yn hyn.

 

 

14eg Ebrill 2016

 

6.

Diweddariad Llafar: Skutrade a Chylchffordd Cymru

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniodd Aelodau ddiweddariad ar lafar oddi wrth Bennaeth Datblygiad Masnachol a Phobl ynghylch Skutrade a Chylchffordd Cymru.

 

Cylchffordd Cymru

 

Dywedwyd wrthym fod yr awdurdod lleol, ynghyd â Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru, wedi cychwyn ystyried bargen a osodwyd ar gyfer Cylchffordd Cymru yn nhymor yr Hydref y llynedd, a buom yn ymarfer yn eang ddiwydrwydd dyladwy er mwyn cael mynediad i’r fargen honno. 

 

Daeth y ddau awdurdod lleol i’r casgliad yng Ngwanwyn 2016 fod y risgiau’n rhy fawr i’w cymryd. Ar y pwynt hwnnw, mewn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru, ciliodd y ddau awdurdod lleol o’r fargen. Aeth Llywodraeth Cymru yn ei blaen ar ei phen ei hun, i weld a allent gael hunanfoddhad o’r fargen. Daeth Gweinidog Cymru i’r casgliad ddiwedd Mawrth na allai barhau â’r fargen, ac mae’r rhesymau dros hynny wedi cael digon o gyhoeddusrwydd yn y wasg.

 

Y sefyllfa gyfredol yw bod y ddau awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi dychwelyd i drafod gyda Chylchffordd Cymru sydd wedi cyflwyno bargen ddiwygiedig sydd ar hyn o bryd yn cael ei hystyried.

 

Mae’r Gweinidog newydd yn edrych dros bapur briffio sydd wedi cael ei baratoi a’i gylchynu’r wythnos hon, rydym yn disgwyl diweddariad pellach ar hyn. 

 

Roedd Pennaeth Datblygiad Masnachol a Phobl yn methu â mynd i fwy o fanylder ar hyn o bryd o ganlyniad i sensitifrwydd masnachol.

 

Craffu Aelodau:

 

Cododd Aelodau bryderon ynghylch y galw am y prosiect. Sicrhaodd y Swyddog y Pwyllgor na fyddai’r ddau awdurdod ynghlwm wrth y fargen, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wedi ymwneud â’r fargen oni bai iddynt deimlo’i fod o fudd mawr i’r ardal.   Roedd y diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd yn eang, nid yn unig yn fasnachol, ariannol a chyfreithiol, ond y tu hwnt i hynny, ymgynghorwyd ag arbenigwyr motorsport a chyflawnwyd profion marchnad. Petai bargen wedi’i tharo, fe fyddai’r holl wybodaeth berthnasol yn cael ei bwydo nôl i’r Aelodau.

 

 

Gofynnodd Aelod paham nad oedd y datblygwr wedi mynd i’r farchnad ecwiti preifat. Atebodd y Swyddog, pan aeth y cwmni at gyllid preifat yn wreiddiol, nad oedd cynllunio wedi’i sicrhau ar y safle a bod problemau gyda dadgofrestru’r tir. A dyma’r ddau fater a ddaliodd y farchnad nôl a’i rhwystro rhag datblygu. Daethpwyd o hyd i gefnogwr preifat i gyllido hyd at 16 miliwn o’r prosiect, fodd bynnag roedd yn ofynnol eu bod yn cael gwarant cyhoeddus 100% y tu ôl iddo er mwyn dadberyglu’r broses.

 

Mynegodd Aelod siom Aelodau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru  i beidio â chefnogi’r fargen gyntaf a theimlent y byddai’r cyllid ar gyfer y

gylchffordd a’r swyddi a grëwyd yn ei sgil, yn negyddu cyfanswm y budd-daliadau a delir i bobl ddi-waith yr ardal ar hyn o bryd. 

 

Gofynnodd Aelod a fyddai’r trac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer beiciau modur yn unig a’r ateb oedd bod y trac yn agored i bob cerbyd. Gan fod nodwedd unigryw, sef cwymp, yn perthyn i’r trac, mae hyn yn naturiol yn ei wneud yn atyniadol i brofi cerbydau. Roedd y Prif Weithredwr, Martin Whittaker yn gyn-lywydd pf  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Craffu ar yr adroddiad All-dro Refeniw a Chyfalaf pdf icon PDF 837 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Diben yr adroddiad hwn yw darparu gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa alldro refeniw rhagolygol yr Awdurdod ar ddiwedd adrodd 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa alldro ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad hwn ei ystyried hefyd gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

asesu a oes monitro cyllideb effeithiol yn digwydd,

fonitror graddau y caiff cyllidebau’u gwario yn unol â’r fframwaith cyllideb a pholisi a gytunwyd,

herio rhesymoldeb gorwariant a thanwariant rhagamcan, a

monitro cyflawniad enillion neu golledion rhagfynegol mewn perthynas â chynigion i wneud arbedion.

 

Argymhellion:

 

Bod Aelodau’n ystyried tanwariant alldro refeniw net o £676,000, gwelliant o £878,000 ar ragfynegiadau alldro chwarter 3.

 

Bod Aelodau’n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb ddiwygiedig o £18.8miliwn, wedi llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, gan arwain at danwariant net o £508mil, y mae tua £433mil ohono ar gael ar gyfer ei ailgylchu i mewn i brosiectau/flaenoriaethau eraill yr argymhellir y bydd yn cael ei ddal tra disgwylir adolygiad o’r pwysau ychwanegol a ddynodir ym mharagraff 3.6.3.

 

Ystyried a chymeradwyo’r £43.7m yn y llithriad cyfalaf a argymhellwyd, gan dalu sylw i’r cynlluniau hynny a gynhwysir ym mharagraff 3.5.4 lle gofynnwyd am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth ond nid argymhellir ei fod yn llithro (£170mil), a nodir y lefel sylweddol o lithriad sy’n ofynnol ar alldro heb fod yn amlwg yn gynt yn y flwyddyn gan dynnu sylw at bryder ynghylch rhagamcanu cyfalaf y rheolwr wrth fynd ymlaen.

 

Mae’n ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn arfaethedig ac mae’n nodi’r gostyngiad sylweddol ar lefelau cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a’r arwyddion tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Mae’n cymeradwyo ailddyrannu gweddillion cronfeydd wrth gefn, fel y nodir ym mharagraff 3.9.5 yn dilyn yr adolygiad actwaraidd o’r gronfa yswiriant wrth gefn ac adolygiad o weddillion mân gronfeydd wrth gefn eraill, er mwyn mynd i’r afael â phwysau cronfeydd wrth gefn a chyfraddau rhannu tanwariant cyffredinol wrth ategu lefelau cronfeydd wrth gefn fel a ganlyn:

£1,037 miliwn i gronfa wrth gefn Dileu Swyddi a Phensiynau

£419mil i gronfeydd wrth gefn TG

£350mil i gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

 

Mae’n cymeradwyo defnydd y gronfa wrth gefn Buddsoddi ac Ail-ddylunio yn ystod 2016-17, cyfanswm o £30,835, fel cyfraniad ychwanegol CSF er mwyn galluogi gwaith ar y Fargen Ddinesig  barhau.

 

Craffu Aelodau:

 

Gofynnodd Aelod pryd byddai’r adolygiad o’r gwasanaethau diwylliannol o flaen y Pwyllgor. Atebodd yr Aelod Cabinet fod adroddiad bron yn barod i ddod i’r Cabinet a bod adroddiad yr ymgynghorydd wedi‘i dderbyn ac y byddai’n mynd allan i ymgynghoriad yn fuan.

 

Gwnaeth Aelod sylw ar y ffigyrau ar gyfer Ysgol Cas-gwent a hysbysodd y Pwyllgor fod yr ysgol yn optimistig y byddai’r ffigyrau’n gwella a gofynnodd a oedd gan y tîm Cyllid yr un hyder. Hysbysodd y Swyddog y Pwyllgor ei fod wedi bod mewn cysylltiad â chorff llywodraethol yr ysgol a chynghori eu bod oddeutu £100,000 yn fyr o ble dylent fod.

 

Gofynnodd Aelod ai hwn fyddai’r ymgynghoriad olaf ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad diwedd blwyddyn Busnes a Menter Sir Fynwy pdf icon PDF 354 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Darparu diweddariad terfynol o berfformiad gweithgareddau Busnes a Menter Sir Fynwy (BMSF) 2015/16.

 

Materion Allweddol:

 

 

Yn unol ag un o bedair blaenoriaeth y Cyngor yn ‘Cefnogi Menter, Entrepreneuriaeth a Chreu Swyddi’, mae Strategaeth Twf Busnes a Menter Sir Fynwy yn pwyso ar dri philer sef Cefnogi Twf Busnes’, ‘Galluogi Buddsoddiad Mewnol’ a ‘Tyfu Entrepreneuriaid’ ac mae’n  mynd i’r afael ag anghenion cwsmeriaid drwy ddarparu rhaglen o gymorth busnes, rhwydweithio a hwyluso i helpu i ddatgloi’r potensial am dwf yn y Sir. Yn 2015/16 targedwyd gweithgareddau tuag at gyflawni’r blaenoriaethau hyn a mwyhau’r cyfleoedd cyllido i leihau’r baich ariannol ar y Cyngor.

 

Yn ychwanegol at hyn mae Strategaeth Ddatblygu Dyffryn Wysg, a  gymeradwywyd gan y Cabinet ym Mehefin 2015, yn gyfrwng allweddol i dynnu lawr £2.79M o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) newydd 2014-2020, a ehangwyd i gynnwys wardiau gwledig newydd Casnewydd.  Yn ychwanegol mae BMSF hefyd yn cyflenwi haen allanol Strategaeth iCounty y Cyngor sy’n cynnwys cydgysylltu seilwaith band eang a gweithgareddau datblygu TGCh.

 

Argymhellion:

 

Derbyn yr adroddiad yn dystiolaeth o weithgareddau y manylwyd arnynt yng Nghynllun Gweithredu Strategaeth Twf Busnes a Menter Sir Fynwy, fel y’i hadlewyrchwyd yn Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog ar gyfer Menter.

 

Craffu Aelodau:

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y cyllid ar gyfer y prosiect Amaeth Dinesig a chynghorwyd ni y derbynnir 50, 000 euro o gyllid dros 2 flynedd a bydd y Cynghorydd Sir J. Prosser yn gallu hawlio’i dreuliau o’r cyllid hwnnw.

 

Canmolodd y Cadeirydd y wefan a sefydlwyd fel un rhwydd i’w llywio a’i chyrchu a gobeithiai y gallai hon gael ei defnyddio fel model o arfer orau.

 

Gofynnwyd pwy oedd yn rhedeg ymgyrch cyfryngau Busnes Cymru Newydd a sut y gallai cynghorwyr ymgysylltu. Cynghorodd Swyddogion bod hon yn berthynas newydd ac y byddent yn cwrdd ddiwedd mis Mehefin, a byddai diweddariad i’r Cyngor yn dilyn. 

 

Gyda Rhaglen RCDF, awgrymwyd cynnal seminar aelodau i godi ymwybyddiaeth. Cymeradwywyd yr awgrym hwn gan y Swyddog. 

 

Awgrymodd y Cadeirydd seminar i hyrwyddo prosiect ’Tyfu entrepreneuriaid’ y Sir. 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu gwaith caled gan edrych

ymlaen at weld diweddariadau rheolaidd ar yr holl gynlluniau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am yr ystadegau ar dreigl y band eang a chrybwyllodd bwysigrwydd seminarau Aelodau i godi ymwybyddiaeth. 

 

 

 

 

9.

Adborth Brecwast Busnes Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad pdf icon PDF 159 KB

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwr Craffu‘r briff roedd wedi’i gyflwyno i Aelodau i amlinellu’r prif ddeilliannau a chrynhodd y pwyntiau a godwyd gydag aelodau etholedig yng Nghyfarfod Brecwast Busnes a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad ar 4ydd Mai 2016.

 

Tynnodd sylw at y pwyntiau allweddol:

 

1) Perthnasau Gweithio Cadarnhaol

2) Ymgysylltu â Busnes

3) Eglurder swyddogaeth

4) Dechrau Busnes.

5) Cydweithredu

6) Cydgysylltu

7) Busnes

8) Tarddu’n lleol

9) Ardrethi Busnes

10) Mapiau Tref Hanesyddol, Mapiau Twristiaid ac Arwyddion.

11) Parcio a Theithio

12) Canolfannau Croeso

 

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod cynnal y Brecwast Busnes wedi ychwanegu at eu dealltwriaeth o’r problemau ar gyfer busnesau bach yn  Sir Fynwy yn ychwanegol at gyflawni’u hamcan i gysylltu’r gymuned fusnes  yn fwriadol i feithrin perthynas waith gyda’r Pwyllgor Dethol.

 

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar i’r perchnogion a’r rheolwyr busnes a fynychodd y brecwast ac yn arbennig i aelodau’r Gyfarwyddiaeth Fenter am eu hymdrechion i gefnogi twf economaidd yn Sir Fynwy.  Mae Aelodau’n cydnabod nad yw hwn yn orchwyl syml a bod angen ymdrechion parhaus dros yr hir dymor i greu sylfaen ar gyfer busnes llwyddiannus.

 

 

 

10.

Adroddiad diweddaru - Strategaeth Digwyddiadau

Cofnodion:

Derbyniasom ddiweddariad cryno ar lafar gan y Rheolwr Digwyddiadau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i adroddiad y Strategaeth Ddigwyddiadau gael ei dwyn i gyfarfod Gorffennaf. Dywedodd y Rheolwr Digwyddiadau y byddai’n siarad â chydweithwyr gan na allai’i hymrwymo i gyfarfod Gorffennaf. Argraffodd y Cadeirydd ar y Rheolwr Digwyddiadau ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn gweld y strategaeth Ddigwyddiadau ehangach ar fyrder.

 

Roedd y Rheolwr Digwyddiadau’n eiddgar i ddiweddaru’r Pwyllgor ar: 

 

Yr Eisteddfod

 

Cadarnhawyd y tri safle Parcio a Theithio yn Llanelen, Cwrt y Gollen a Phenpergwm. Hysbyswyd ni hefyd fod Uned Drafnidiaeth Teithwyr Mynwy wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau’r gwasanaeth parcio a theithio gyda Lôn Byfield yn bwynt codi a gollwng teithwyr ar gyfer y bysiau.

 

Ar ddydd Llun 6ed Mehefin 2016 mabwysiadodd yr Eisteddfod Ddôl y Castell yn ffurfiol gan symud i’r safle.

 

Mae codi arian gan y gymuned yn mynd rhagddo a hyd yn hyn codwyd £171, 742 ha bydd codi arian yn parhau tan fis Rhagfyr.

 

Daeth y Rheolwr Digwyddiadau â thaflen i’r cyfarfod, yn dangos fel roedd Mynwy’n gwerthu’r Sir yn ystod yr Eisteddfod, mae’r daflen hon yn amlinellu’r amcanion a’r bwriadau y gobeithia Mynwy’u gwireddu tra bydd yr Eisteddfod yn yr ardal. 

 

Y prif nod yw rhoi gwybod i bob ymwelydd â’r Eisteddfod paham y dylent ddychwelyd ac ymweld â Mynwy unwaith eto.

 

Mynegodd Aelod bryderon ynghylch parcio a chynghorodd y Rheolwr Digwyddiadau  y byddai’n bwydo nôl ddiweddariadau ar y pryderon ynghylch parcio.

 

 

Y Velothon

 

Tra digwydd ôl-drafod ffurfiol bu i ni fel Cyngor Sir Fynwy gynnal ôl-drafodaeth fewnol ar Fehefin 6ed 2016 lle daeth yr holl swyddogion perthnasol ynghyd i ôl-drafod.

 

Mae dyddiad y digwyddiad ôl-drafod cyflawn yn cynnwys yr holl awdurdodau, Llywodraeth Cymru a Rhedeg Dros Gymru eto i gael ei gadarnhau.

 

Gofynnodd  Aelod pa mor eang yr ymgynghorir â phreswylwyr am eu hadborth. Atebwyd ni yr ymdrinnir â hyn fel rhan o ôl-drafodaeth Rhedeg Dros Gymru. Gofynnwyd i Rhedeg Dros Gymru fynychu cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol gel gall Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau.

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet gyfarfod agored neu seminarau lle daw Rhedeg Dros Gymru i siarad. Cytunodd y Cadeirydd y dylai pob Aelod fynychu ond teimlai y dylai ddod i’r Pwyllgor Dethol gan ei bod yn eitem a hawliai’i chraffu. Dylid cwblhau’r ôl-drafod erbyn diwedd Awst 2016 felly gobeithid y byddai’r eitem hon ar agenda mis Medi.

 

 

 

 

 

11.

Rhaglen Waith y Dyfodol pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

Derbyniodd a nododd Aelodau gynnwys blaenraglen waith Economi a Datblygiad.

 

Canolbwyntir ar dwristiaeth ym Medi.

 

12.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel dydd Iau 14 Gorffenaf 2016 am 10.00am