Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 14eg Ebrill, 2016 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir S. Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel Cyfarwyddwr y Consortiwm Manwerthu Cymru.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir S. White fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel aelod o Gyngor Tref Trefynwy, a bod aelod o’r teulu’n dal bathodyn glas.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel aelod o Gyngor Tref Y Fenni.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir D. Dovey fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel aelod o Gyngor Tref Cas-gwent, a’r Siambr Fasnach.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir D. Evans fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel aelod o Gyngor Tref Cil-y-coed.

 

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad a gynhaliwyd ar 3ydd Mawrth 2016 fel rhai cywir ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd, gyda’r newid canlynol:

 

Cydnabuasomfod problemau’r Velothon 2015 wedi’u datrys ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad Velothon 2016.

 

 

4.

Rhaglen Band Eang ac Ymelwa ar TGCh Busnes Cyflym Iawn - gwahoddwyd British Telecom i drafod cynnydd y rhaglen (atodir cyflwyniadau)

Cofnodion:

Diweddariad ar Gyflymu Cymru

 

Croesawyd ymwelwyr o Gyflymu Cymru BT, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y cynnydd yn y rhaglen.

 

Pwysleisiodd Pennaeth Pobl a Datblygiad Masnachol ein bod ar gyfnod pwysig cyflwyno Cyflymu Cymru, gydag oddeutu 15 mis yn weddill o’r contract. Roedd isadeiledd sylweddol pellach i’w osod yn ei le, ac roedd swyddogion yn gweithio’n glos gyda Llywodraeth Cymru, BT a darparwyr eraill i sicrhau cysylltedd.

 

Yn dilyn cyflwyniad gan Reolwr Rhaglen Cyflymu Cymru gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a thrafod.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cyflwyniad yn ddilyniant i’w groesawu o Eitem iSirol a drafodwyd mewn cyfarfod blaenorol, a chydnabu’r pwysigrwydd, er mwyn gwireddu’n dyheadau dan ein strategaeth ddigidol, fod angen i’r isadeiledd fod yn ei le. Gofynnodd y Cadeirydd wedyn, pwy oedd wedi penderfynu ar y meysydd ymyrraeth cyflwyno’r rhaglen, a mynegodd, fel porth i Gymru, y byddai Sir Fynwy wedi hoffi bod ymhellach i fyny yn y cynllun. 

 

Mewn ymateb clywsom fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol gyflwyno adborth ar flaenoriaethau, ac o ganlyniad i’r amser ymateb, roedd Sir Fynwy’n ardal lle bu’r gwaith yn hwyrach yn cychwyn. Roedd ystyriaeth hefyd i’r modd yr adeiladwyd yr isadeiledd.. Byddai Sir Fynwy’n ardal lle byddai gwaith yn cychwyn yn hwyrach. Byddai nifer y bobl yn elwa o Gysylltiad Ffeibr i’r Adeilad (FTTP) hefyd wedi golygu y byddai Sir Fynwy yn uwch i fyny’r rhaglen. 

 

Cododd aelod gwestiwn ynghylch y diffyg mynediad i fand llydan. Eglurwyd na ddylai fod unrhyw reswm am ddiffyg mynediad, a byddai cynghorwyr BT yn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau technegol.  Roedd camdybiaeth y byddai pobl yn cael cynnydd awtomatig mewn cyflymder. Nid dyna oedd y sefyllfa, gan y byddai angen i archeb gael ei gosod gyda’r darparwr.

 

Mynegodd Aelod bod y cynnydd yn bodloni, ac ychwanegodd fel pwynt o ddiddordeb, fod Y Fenni yn cychwyn ar Brosiect Amaeth Trefol, prosiect Ewropeaidd gyda’r nod o gynhyrchu cynaliadwyedd  a mentergarwch yn y diwydiant amaethyddol yn nhref Y Fenni. Pwysleisiwyd bod argaeledd band llydan yn elfen hanfodol o’r prosiect. Gofynnwyd am sicrwydd, parthed y palmentydd a ddiweddarwyd yn y canol tref, y byddai’r gwaith wedi’i gydgysylltu gydag adran Gweithgareddau CSF. Mewn ymateb, rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau y byddai BT yn cysylltu â’r awdurdod lleol cyn gwneud gwaith ar yr isadeiledd, gan arwain at gyfnodau cynllunio estynedig, a dyna paham y gallai prosiectau fod wedi’u hoedi.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, er mwyn gwella cyfathrebu, byddai’n fuddiol i Gynghorwyr dderbyn gohebiaeth ynghylch diweddariadau yn eu wardiau. Cynghorodd y Pennaeth Gweithgareddau ein bod, fel awdurdod priffyrdd, yn cyhoeddi rhestr wythnosol o waith o fewn priffyrdd, a byddai’n sicrhau y dosberthid y rhestr hon i’r Aelodau.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Fenter siom parthed y sylw a wnaed yn awgrymu nad oedd CSF wedi ymddangos â diddordeb mewn manteisio ar y cyflwyno. Hysbyswyd ni bod CSF wedi bod ar flaen y gad o’r cychwyn i sicrhau bod Sir Fynwy ar flaen y rhaglen. Roedd yr Aelod Cabinet wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ffioedd Parcio Ceir - Craffu ar gynnydd ar argymhellion y Pwyllgor Dethol - (GWAHODDIR POB AELOD) pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasomadroddiad gan y Pennaeth Gweithgareddau er mwyn i Aelodau graffu’r adborth sy’n codi o’r ymarfer ymgynghori statudol mewn perthynas â’r gorchymyn parcio ceir arfaethedig newydd ar gyfer meysydd parcio cyhoeddus CSF a gwneud sylwadau fel y gwêl aelodau’n gymwys.

 

MaterionAllweddol:

 

Yn 2014 craffodd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad gynigion i gyflwyno newidiadau niferus i weithdrefn parcio ceir CSF.

 

Yndilyn aeth cynigion craffu i’r Cabinet i’w gymeradwyo ym Medi 2014.

 

Cymeradwywydamrywiol argymhellion (meysydd parcio ceir newydd, cynnydd mewn taliadau) gan gynnwys drafftio gorchymyn maes parcio ceir newydd.

 

Cyhoeddwyd y gorchymyn parcio ceir arfaethedig ac mae e ar hyn o bryd mewn cyfnod ymgynghori statudol, y broses ymgynghori ffurfiol yn cau ar 22ain Ebrill 2016. Dangosodd yr adborth o’r ymarfer ymgynghori rai themâu amlwg:

 

  • Codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas: mae 24 o’r 62 o ddarnau o ohebiaeth wedi’u derbyn. Yr ymateb cyson fu bod codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas yn annheg. Mewn rhai amgylchiadau awgrymwyd lliniaru ar yr amodau gan ganiatáu’r awr gyntaf o barcio’n rhad ac am ddim.

 

  • Creumeysydd parcio tymor byr (dim dychwelyd o fewn 2 awr) Mae tynnu nôl y cyfle i barcio drwy’r dydd mewn maes parcio arhosiad byr yn golygu bod yn rhaid i’r rheiny sy’n dymuno parcio drwy’r dydd nawr ddefnyddio maes parcio amgen a allai fod yn llai cyfleus.

 

  • Codi tâl (Dydd Llun i ddydd Sadwrn) yn Lôn Byefield, Y Fenni.

Pryder bod hyn yn cael gwared â’r unig barcio rhad ac am ddim yn Y

Fenni (ar wahân i ddydd Mawrth) yn arwain at y rheiny sy’n

            defnyddio’r maes parcio’n symud i barcio ar y stryd i osgoi taliadau

            parcio.

 

·         Codi tâl am barcio ym maes parcio’r orsaf, Cas-gwent: pryder y gallai hyn atal teithwyr rhag defnyddio’r trên ac ysgogi gyrwyr i barcio ar y stryd i osgoi taliadau parcio.

 

 

CraffuAelodau:

 

Nododd y Cadeirydd y derbynnid adroddiad cynnydd ar ddyddiad yn y dyfodol. Rhoddid i ni nawr gyfle i bori dros yr ymatebion o’r ymgynghori. Ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd heddiw, dylai aelodau benderfynu a ydynt am wneud sylwadau pellach cyn i’r gorchymyn drafft gael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Mynegoddyr Aelodau bryder ynghylch y mater o godi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau glas am barcio ceir, yn enwedig gan mai un o flaenoriaethau’r Cyngor yw amddiffyn pobl fregus. Yn ardal Y Fenni roedd pryderon oddi wrth yr heddlu y gallai hyn arwain at barcio ar linellau melyn, gan wneud sefyllfa sydd eisoes yn rhwystredig yn fwy anodd fyth. Argymhellwyd bod y Cabinet yn ystyried y gwerthoedd a’r cyfraniadau, ac yn ailystyried yn ddwys yr angen i godi tâl  ar ddeiliaid bathodynnau glas.

 

Egluroddyr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol fod y mater wedi creu penbleth,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaenraglen Waith Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu pdf icon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y byddai’r cyfarfod cyffredin nesaf ar ddydd Iau 9fed Mehefin 2016 am 2.00pm i drafod:

 

  • Diweddariad ar ddigwyddiadau
  • Diweddariad ar Fenter a Busnes Sir Fynwy
  • Adroddiad Blynyddol Posib y Prif Swyddog

 

 

Cadarnhawyd y cynhelid Brecwast Busnes yn Neuadd y Sir, 4ydd Mai 2016.

 

 

 

 

 

7.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Nodwyddyddiad y cyfarfod nesaf fel dydd Iau 9fed Mehefin 2016, 2.00pm.