Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 6ed Ebrill, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ganmai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu cyn yr Etholiadau lleol a gynhelir ar 4ydd Mai 2017, dymunai'r Cadeirydd ddiolch i'r Rheolwr Craffu, y Tîm Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Dethol am eu mewnbwn a'u cefnogaeth yn ystod y pum mlynedd flaenorol.

 

 

2.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Datganodd Y Cynghorydd Sir S. Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 6 ar yr agenda – Diweddariad ynghylch ailbrisio ardrethi, gan mai hi yw Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru. Aeth o’r neilltu rhag cadeirio’r eitem agenda hon ond arhosodd yn y cyfarfod. Etholwyd Y Cynghorydd Sir A. Wintle i gadeirio eitem 6, gan nad oedd yr Is-gadeirydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Y Cynghorydd Sir S. Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed eitem 7 ar yr agenda - Diweddariad ar Y Prentis gan ei bod yn gweithio i sefydliad sy’n delio â thalwyr ardollau yn y diwydiant manwerthu.

 

 

3.

Cadarnhau'r cofnodion dilynol:

3.1

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dyddiedig 9 Chwefror 2017. pdf icon PDF 236 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

Wrthwneud hynny, nodwyd bod trefnwyr y velothon wedi cael eu gwahodd i gyfarfod heddiw ond nid oeddent yn gallu bod yn bresennol. Estynnwyd gwahoddiad i’r trefnwyr, gyda’r bwriad o’u gweld yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

Byddai’rRheolwr Craffu’n sicrhau bod yr adroddiad ar y datganiad buddsoddi ar gael i’r Pwyllgor Dethol.

 

 

3.2

Cydbwyllgor Dethol (Pob un o'r pedwar Pwyllgor Dethol) pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

 

 

4.

Cyflwyniad am Ddarpariaeth Band Eang yn Sir Fynwy.

Cofnodion:

Rhoesom groeso i’r cyfarfod i Vivien Collins, Rheolwr i Gyflymu Cymru i Fusnesau a David Elsmere, Rheolwr Partneriaeth i Gyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn derbyn y cyflwyniadau canlynol:

 

  • Diweddariad ar adleoli Cyflymu Cymru.
  • Diweddariad ar Gyflymu Cymru i Fusnesau.

 

 

Adleoli Cyflymu Cymru

 

Ystadegau’n ymwneud â Sir Fynwy:

 

  • Cyfanswm yr Adeiladau mewn Ardal Ymyrryd                        -  23,290
  • Cyfanswm yr Adeiladau a Basiwyd ar 24Mbps ac yn uwch   -            16,596
  • Adeiladau Cysylltiad Ffibr i’r Cabinet a Basiwyd                    -  15,481
  • Adeiladau Cysylltiad Ffibr i’r Adeilad a Basiwyd                     - 1,115                                      -           
  • Canran ALl mewn Ardal Ymyrryd yr ALl a Gwblhawyd     - 71.26 %
  • Y nifer a dderbyniodd Gysylltiad Ffibr i’r Cabinet              - 32.26%
  • Y nifer a dderbyniodd Gysylltiad Ffibr i’r Adeilad               - 21.45%
  • Cyfartaledd Cyflymdra’r Lawrlwytho                                   - 78Mbps

 

Wedi derbyn cyflwyniad ar adleoli Cyflymu Cymru, caniataodd y Cadeirydd i aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Llanofer i amlinellu’u pryderon a holi cwestiynau ynghylch y mater hwn.  Wrth wneud hynny codwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Roedd Llanofer wedi derbyn cyflwyniad gan BT y llynedd. Fodd bynnag, nid oedd un o’r addewidion a wnaed gan BT wedi’u gwireddu. Ymddengys nad oes unrhyw sancsiynau yn eu lle i sicrhau cwblhau’r addewidion a wnaed. Mewn ymateb, nodwyd bod gan BT dargedau chwarterol sydd yn rhaid cwrdd â hwy ond nad ydynt yn benodol i le. Fodd bynnag, mae’n rhaid i BT gwrdd â’r niferoedd a osodir. Os na ddigwydd hyn, gosodir cosbau ariannol yn eu lle.   

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch diffiniad ardal anghysbell, nodwyd nad oedd diffiniad. Fodd bynnag dywedodd Rheolwr Cyflymu Cymru, mewn perthynas â llefydd penodol sydd ar hyn o bryd yn profi problemau gyda’u cysylltiad band eang, byddai’n codi’r materion hyn gyda BT. 

 

  • Nodwyd y byddai 96% o’r eiddo yng Nghymru’n derbyn mynediad i fand eang ac eithrio’r ardaloedd anghysbell o fewn Cymru. Mae Sir Fynwy’n Sir wledig, fodd bynnag, nid yw’n anghysbell.

 

  • Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg gwybodaeth a ddangoswyd gan BT pan fydd peiriannydd yn ymweld ag Llanofer. Yn aml, mae peirianwyr yn dibynnu ar wybodaeth leol i’w goleuo ynghylch lleoliad blychau a pha eiddo sy’n gysylltiedig â pha flwch. Mae hyn yn digwydd yn rheolaidd. Ymddengys na chaiff y wybodaeth hon ei chadw ar gyfer y tro nesaf y bydd peiriannydd yn ymweld â lleoliad penodol. Dywedodd Rheolwr Cyflymu Cymru y byddai’r mater hwn yn cael ei ddwyn  yn ôl i BT.

 

  • Mae eiddo yn Llanofer â their llinell BT ar gyfer tri busnes gwahanol. Fodd bynnag, nid yw un o’r llinellau’n derbyn darpariaeth band eang dibynadwy. Mae hyn yn effeithio effeithiolrwydd y busnesau. Lleolir yr eiddo ddwy filltir yn unig o’r brif briffordd. Mae’r preswylydd yn talu am ddwy linell band eang ond nid yw’n derbyn gwasanaeth digonol.      Cytunodd Rheolwr Cyflymu Cymru gymryd manylion yr eiddo a byddai’n derbyn ymateb oddi wrth BT.

 

  • Nodwyd bod angen i’r gymuned ffermio gael darpariaeth band eang dibynadwy gan na ellir cyflwyno rhai data a hawliadau grant i’r llywodraeth ond ar-lein yn unig.

 

5.

Craffu Cynnig Addysg Ieuenctid - Menter. pdf icon PDF 383 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu’rCynllun Gweithredu ar gyfer CraffuCynnig Addysg Ieuenctid - Menter 2017/18.

 

MaterionAllweddol:

 

Codi ymwybyddiaeth o’r CynnigAddysg Ieuenctid - Menter a’i ddatblygu drwy weithio gydag ysgolion, colegau a phartneriaid eraill i wella’r ddarpariaeth gyfredol mewn modd mwy cydlynol. Bydd y cynnig yn defnyddio cyfleoedd menter ac entrepreneuriaeth sy’n bodoli eisoes yn Sir Fynwy.

 

Darparucyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd drwy gyflawni rhaglenni Inspire2Achieve (I2A) ac Inspire2Work (I2W) CGE (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) ar gyfer personau 11-24 oed, gan weithio tuag at flaenoriaeth 3 CGE – Cyflogaeth Ieuenctid Amcan 1 PenodolLleihau’r nifer o ieuenctid  16 -24 oed Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET) ac Amcan 2 PenodolLleihau nifer y rheiny ddaw yn ieuenctid Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET) ymhlith y rheiny o 11 -24 oed.

 

Cynnalpobl drwy wneud y dewisiadau cywir a chefnogi ymyriadau.

 

Gweithio’nglos gyda phartneriaid i weithredu pecyn cymorth i’r rheiny rhwng 16-24 oed sydd fwyaf agored i niwed er mwyn ehangu’u sgiliau a’u diddordebau, a lleihau digartrefedd drwy hyrwyddo byw’n annibynnol.

 

Ceisiocynyddu ymgysylltiad rhwng pobl ifanc a busnesau lleol drwy ysgogi llwybrau gyrfa yn y dyfodol a chyfleoedd gwell i gynulleidfa leol a chydweithio gyda chyflogwyr lleol.

 

Darparuprofiad /lleoliad gwaith, cyfleoedd ar gyfer hyfforddeiaeth a phrentisiaeth o fewn fframwaith polisi, gan gefnogi rhaglen brentisiaeth Y Prentis.  

 

CraffuAelodau:

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch gofalwyr ifanc, nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at bobl ifanc sy’n agored i niwed, sy’n cynnwys gofalwyr ifanc.

 

  • Roeddyn hanfodol bod pob person ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial. Ar gyfer rhai pobl ifanc, roedd cynlluniau prentisiaeth yn hanfodol i’w galluogi i wireddu’u hamcanion.

 

  • Byddai’nbriodol adolygu cynnydd y cynllun gweithredu drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys astudiaethau achos llwyddiannus.

 

  • Ceisiocael mwy o fusnesau i ymgysylltu.

 

  • Dygir y Cynnig i mewn i ysgolion a cholegau gyda’r bwriad o agor i fyny fwy o gyfleoedd i bobl ifanc. Gwahoddir busnesau i mewn i ysgolion hefyd gan wahodd deialog agored rhwng ysgolion / colegau a busnesau.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Penderfynasom:

 

(i)            gefnogiCynllun Gweithredu’r Cynnig Addysg Ieuenctid - Menter i alluogi ymgysylltu parhaus rhwng pobl ifanc, ysgolion a phartneriaid.

 

(ii)          fodAelodau’n hyrwyddo’r Cynnig Addysg Ieuenctid - Menter yn eu swyddogaeth fel cynrychiolwyr yn eu wardiau ar draws Sir Fynwy.

 

(iii)         ymweldâ’r Mentoriaid Busnes.

 

 

 

6.

Diweddariad ar ailbrisio trethi. pdf icon PDF 366 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Darparudiweddariad ynghylch ailbrisio ardrethi busnes o 1af Ebrill 2017.

 

MaterionAllweddol:

 

  • Daeth y gwerthoedd ardrethi newydd i rym ar 1af Ebrill 2017.

 

  • Mae’r Cyngor yn defnyddio’r gwerth ardrethol i gyfrifo’r biliau ardrethi busnes drwy’i luosi â phuntdal ardreth a osodir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.  

 

  • Ar gyfer 2017/18 mae’r puntdal hwnnw yn 0.499. Dengys biliau ardrethi newydd y gwerth ardrethol diwygiedig a’r swm sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.

 

  • Canlyniad yr ymarfer ailbrisio fu newidiadau arwyddocaol mewn gwerth ardrethol ar gyfer rhai busnesau ac mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod angen amser ar fusnesau i addasu i gynnydd yn eu hatebolrwydd ardrethol ac felly mae wedi cyflwyno rheoliadau newydd i ddarparu cynllun rhyddhad trosiannol. Nid oes angen gwneud caisBydd y cyngor yn cymhwyso’r rhyddhad hwn yn awtomatig i fusnesau sy’n gymwys fel a ganlyn:

 

-       2017/18 75% o’r cynnydd mewn pris.

-       2018/19 50% o’r cynnydd mewn pris.

-       2019/20 25% o’r cynnydd mewn pris.

Cymhwysterar gyfer Rhyddhad Trosiannol

 

        Talwyrardrethi sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethol i Fusnesau Bach (SBRR) ar 31ain Mawrth 2017 sydd o ganlyniad i gynnydd mewn gwerth ardrethol yn dilyn yr ailbrisio.

 

        Mae’nrhaid i’r adeilad busnes gael ei ddangos ar y Rhestr Ardrethi ar 31ain Mawrth 2017.

 

        Mae’nrhaid i’r cynnydd mewn atebolrwydd ardrethol fod yn fwy na £100.

 

        Mae’nrhaid i’r eiddo fod wedi’i feddiannu.

 

        Mae’nrhaid i’r talwr ardreth barhau i fod yr un person ag a oedd yn atebol ar 31ain Mawrth 2017.

 

        Mae’nrhaid i’r talwr ardreth fod heb dderbyn rhyddhad dan S44A (mae’n gymwys ar gyfer eiddo gaiff ei feddiannu’n rhannol am gyfnod byr o amser yn unig).

 

  • Os yw rhywun yn gymwys ar gyfer rhyddhad trosiannol, fe fydd yn eglur ar y bil ardrethi.

 

RhyddhadArdrethol i Fusnesau (SBRR)

 

Bydd y cynllun SBRR yn parhau i mewn i 2017/18. Mae eiddo â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn talu dim. Mae eiddo â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad graddedig. Gallai busnesau sy’n derbyn SBRR hefyd elwa o gynllun rhyddhad trosiannol.

 

Osyw rhywun yn gymwys ar gyfer rhyddhad i fusnesau bach fe fydd hyn yn eglur ar y bil ardrethi.

 

CynllunRhyddhad Ardrethol yn Targedu’r Stryd Fawr 

 

Ynddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £10 miliwn i’w ddosbarthu rhwng y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn darparu mwy o gymorth i rai busnesau manwerthu gan gynnwys y rheiny sydd wedi gweld eu hardrethi’n cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r ailbrisio.  Seilir y cynllun ar y Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru blaenorol, gan ddefnyddio’n fras yr un meini prawf eithriadau a chymhwyster i ddiffinio’r hyn yw eiddo manwerthu.

 

Dim ond newydd gael eu cwblhau mae rhai manylion y cynllun ond bydd yn darparu dwy haen o ryddhad. Hyd at £500 (haen 1) a £1,500 (haen 2)  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Y Prentis. pdf icon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu Cynllun Busnes ’Y Prentis’ 2016-18. 

 

MaterionAllweddol:

 

Sefydlwyd Y Prentis yn 2012 gan CMC2 a Chartrefi Melin fel cwmnina fyddai’n gwneud elw’, cyfyngedig drwy warrant, Y Prentis yw unig gyflenwr cydnabyddedig rhannu prentisiaethau mewn adeiladu yn Ne-ddwyrain Cymru i’r Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB). Ei weledigaeth ywdarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor i helpu pobl ifanc fwyafu’u potensiala’i nod yw recriwtio  50 o brentisiaid newydd wedi’u noddi gan CITB bob blwyddyn a 10 prentis wedi’u noddi gan Y Prentis bob blwyddyn.

 

Mae blaenoriaethau Y Prentis yn glir, sef:

  • Cyflenwi mwy o brentisiaethau i gwrdd ag angen diwydiant.

 

  • Cadw cyflenwad y newydd ddyfodiaid i lifo.

 

  • Datblygu cynnig o yrfa sy’n hyrwyddo’r sector adeiladu fel llwybr i ffyniant economaidd i bobl o bob cefndir.

 

  • Gweithio gyda CITB, ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflenwyr hyfforddiant eraill i sicrhau ein bod yn datblygu’u gwybodaeth, a’u dealltwriaeth o ofynion y sector adeiladu. 

 

  • Darparu cefnogaeth i helpu busnesau i wella’u min cystadleuol a chymryd mantais o gyfleoedd newydd.

 

  • Gweithiogyda’r CITB, diwydiant a’r llywodraeth i helpu i gyflenwi prosiectau seilwaith.

 

CraffuAelodau:

 

  • Hydyn hyn, mae Y Prentis wedi galluogi dros 160 o bobl ifanc i gael mynediad i brentisiaethau cynaliadwy sy’n cynnig cyflog byw ac mae 12 o’r rhain o Sir Fynwy.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol, nodwyd bod manylion yr ardoll yn dal i gael eu datblygu. Mae Swyddogion yn disgwyl fframweithiau a chyngor Llywodraeth Cymru. 

 

  • Mae’rgalw eisoes yn uchel ac mae’n argoeli i barhau’n uchel yn y blynyddoedd i ddod parthed y sgiliau sydd yn ofynnol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae Y Prentis yn y lle delfrydol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

 

  • Mae astudiaeth ar y gweill drwy gyfrwng y Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) yn nhermau anghenion ar gyfer y sector arlwyo. Mae’n debygol y bydd cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn y maes hwn ac mewn sawl maes arall.

 

  • Gall Model Y Prentis fod yn gymwys i wahanol sectorau ond mae’n gweddu i’r dim i’r diwydiant adeiladu a hefyd peirianneg.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol, nodwyd bod gan Y Prentis wyth coleg sy’n bartneriaid. Mae Y Prentis wedi’i bartneru gyda 60 o gontractwyr ac mae ganddo oddeutu 30 o gleientiaid. Mae’r ddeialog gyda cholegau ynghylch yr hyn sy’n ofynnol yn un barhaus ons mae angen ei chymryd ymhellach.  

 

  • Mae’nofynnol i’r math o addysg sydd angen ei gosod yn ei lle ym mhob ysgol a choleg allu darparu ar gyfer y mathau o brentisiaethau a gaiff eu cynnig. Mae’r strategaeth addysg ar hyn o bryd yn cael ei hadolygu. Felly, dyma gyfle da i fynd i’r afael â’r materion hyn.

 

8.

Blaenraglen Waith Craffu Economi a Datblygu. pdf icon PDF 169 KB

Cofnodion:

Aethomati i graffu Rhaglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu.

 

Wrthwneud hynny, byddai’r rhaglen waith yn cael ei diwygio i gynnwys gwahodd trefnwyr y velothon i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

Penderfynasomdderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.

 

 

 

9.

Blaenraglen Gwaith y Cabinet a'r Cyngor. pdf icon PDF 337 KB

Cofnodion:

Penderfynasomdderbyn BlaenraglenWaith y Cabinet a'r Cyngor a’i nodi.

 

 

10.

Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Dydd Iau 8 Mehefin 2017 am 10.00am.

Cofnodion:

Cynhelircyfarfod nesaf y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu ar ddydd Iau 8fed Mehefin 2017 am 10.00am.