Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Mawrth, 27ain Medi, 2016 1.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaeth Aelodau unrhyw ddatganiadau buddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

2.1

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - 9 Mehefin, 2016 . pdf icon PDF 276 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Cyflwynirdiweddariad ar Skutrade i gyfarfod mis Tachwedd o'r Pwyllgor Ethol Economi a Datblygu.

 

  • Cynhelir seminar am 2.00pm ar 3 Hydref 2016 ar ledaenu band eang cyflym iawn.

 

 

2.2

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - 14 Gorffennaf, 2016 . pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Derbynnir y ffocws Twristiaeth yng nghyfarfod mis Hydref y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu fydd yn cynnwys craffu ar ddata STEAM a thrafodaeth ar arwyddion brown.

 

  • Rhoddirdiweddariad ar gynllunio Lle Cyfan i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 

3.

Adroddiad Arolygiad Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy. pdf icon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

           

Amlinelludiben, canfyddiadau allweddol a chasgliadau ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor Cynllunio i fynychu'r cyfarfod ynghyd â'r Pwyllgor Dethol i graffu'r adroddiad

 

MaterionAllweddol:

 

CafoddCynllun Datblygu Lleol 2011-2021 Sir Fynwy ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 27 Chwefror 2014. Mae angen i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol fel rhan o broses statudol y cynllun datblygu.

 

 Yr Adroddiad Monitro Blynyddol

 

YrAdroddiad Monitro Blynyddol yw'r sail ar gyfer monitro effeithlonrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ac yn y pen draw benderfynu os oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun. Mae'n anelu dangos i ba raddau y caiff strategaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol eu cyflawni a ph'un ai yw polisïau'r Cynllun yn gweithio'n effeithlon. Mae hefyd yn galluogi'r Cyngor i asesu'r effaith a gaiff y Cynllun Datblygu Lleol ar lesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Sir ac yn dynodi unrhyw newidiadau cyd-destunol sylweddol a all ddylanwadu ar weithredu neu adolygu'r cynllun.

 

Hwnyw'r Adroddiad Monitro Blynyddol ers mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy ac mae'n seiliedig ar y cyfnod 1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth 2016.

 

FframwaithMonitro'r Cynllun Datblygu Lleol

 

Mae polisi'r Cynllun Datblygu Lleol a fframweithiau monitro gwerthuso cynaliadwyedd yn ffurfio sail yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu sut mae polisïau strategol y Cynllun a pholisïau cefnogi cysylltiedig yn perfformio ar y targedau monitro allweddol a ddynodwyd a'r canlyniadau a ph'un ai yw strategaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni. Mae hyn wedi galluogi'r Cyngor i ffurfio barn wybodus am gynnydd y Cynllun wrth gyflawni'r targedau/monitro canlyniadau a pholisïau yn ystod y cyfnod monitro yma.

 

CanfyddiadauAllweddol

 

Mae Adran 5 yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhoi asesiad o berfformiad y Cynllun. Mae canlyniadau'r broses monitro yn dangos y caiff llawer o'r targedau dangosydd a chanlyniadau monitro eu cyflawni. Rhai o'r canfyddiadau mwyaf sylweddol yng nghyswllt hyn yw:

 

·         Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud tuag at weithredu'r strategaeth ofodol.

·         Caiff targedau polisi tai fforddiadwy a nodir ym Mholisi S4 eu cyflawni fel arfer yng nghyswllt caniatâd cynllunio a roddwyd yn y prif drefi a'r prif bentrefi.

 

·         Mae gan y Cyngor gyfanswm o 41.8ha o dir cyflogaeth ar gael, gan ddangos y cedwir digon o dir cyflogaeth i gyflawni'r gyfradd defnydd a ddynodwyd.

 

·         Bu cynnydd yn nhermau caniatâd cyflogaeth o fewn y Sir, gyda chaniatâd wedi ei roi ar gyfer ystod o ddefnyddiau cyflogaeth ar safleoedd busnes a diwydiannol a ddynodwyd (SAE1), safleoedd cyflogaeth a ddiogelwyd (SAE2) a safleoedd heb eu dyrannu (cyfanswm o 4.48 hectar). Roedd y rhain yn bennaf yng Nglannau Hafren. Rhoddwyd caniatâd hefyd ar gyfer 3.72 hectar o dir yn safle defnydd cymysg strategol y Cynllun Datblygu Lleol yn Heol Wonastow, Trefynwy.

 

·         Cymeradwywydnifer o gynlluniau arallgyfeirio gwledig a menter gwledig (10).

 

·         Cymeradwyodd y Cyngor gynigion ar gyfer cyfanswm o 10 cyfleuster twristiaeth, 8 ohonynt yn ymwneud â llety  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Sir Fynwy 2015-16. pdf icon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

           

Rhoiadroddiad ar berfformiad y gwasanaeth Cynllunio am y cyfnod 2015-16.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor Cynllunio i fynychu'r cyfarfod wrth ochr y Pwyllgor Dethol i graffu'r adroddiad.

 

MaterionAllweddol:

 

Mae gwaith y gwasanaeth cynllunio'n cysylltu'n uniongyrchol gydag amcan Cyngor Sir Fynwy o sicrhau cymunedau cynaliadwy a chydnerth. Mae'r gwasanaeth yn ymwneud yn uniongyrchol gyda phrosiectau corfforaethol ehangach fel Ysgolion 21ain Ganrif, rhesymoli ein portffolio stadau ac mae'n rhan ganolog o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar Dyfodol Sir Fynwy.

 

Mae meysydd allweddol gwaith ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys:

 

           Darparu cyngor cyn gwneud cais i gwsmeriaid.

 

          Penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â pholisi a fabwysiadwyd ac ystyriaethau cynllunio sylweddol, gan roi ystyriaeth i sylwadau rhanddeiliaid ac amcanion corfforaethol.

 

          Sicrhau cyfraniadau ariannol gan ddatblygwyr i wrthbwyso gofynion seilwaith datblygiadau newydd a diwallu'r angen am dai fforddiadwy.

 

          Diogelu 2400 Adeilad Rhestredig a 31 Ardal Gadwraeth y Sir, ardaloedd o sensitifrwydd archeolegol, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardaloedd Diogelu Arbennig ac Ardaloedd Arbennig Cadwraeth Ewropeaidd.

 

          Cymryd camau gweithredu gorfodaeth cadarn yn erbyn datblygiad annerbyniol heb awdurdod.

 

          Codi ymwybyddiaeth o rôl statudol a phwysigrwydd fframwaith cynllunio defnydd tir, gan adeiladu ar y lefelau uchel o ymgysylltu sy'n sail i'r broses Cynllun Datblygu Lleol.

 

          Paratoi canllawiau cynllunio atodol (SPG) i gynorthwyo gyda gweithredu a dehongli polisi'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

          Gweithredu Cynllun Datblygu Lleol y Cynllun drwy ymgysylltu a gweithio gyda chymunedau, a gweithio partneriaeth gyda phartneriaid mewnol ac allanol i feithrin cyd-greu a thwf menter a llesiant cymunedol ac amgylcheddol. Bydd hyn yn cynnwys ymwneud gyda gwaith Lle Cyfan a'r Cynllun Llesiant Lleol.

 

          Monitro a gwerthuso polisïau'r Cynllun a'r broses o baratoi'r Cynllun.

 

 

Adborthgwasanaeth cwsmeriaid

 

Rhwng 2010 a 2012 cynhaliwyd adolygiad Meddwl Systemau ar wasanaeth cynllunio'r Cyngor. Ceisiodd yr adolygiad fynd â'r swyddogaeth yn ôl i'r egwyddorion cyntaf: yr hyn sy'n bwysig i'n cwsmeriaid a sut y gellir dileu gwastraff (gweithredoedd neu weithdrefnau nad ydynt yn ychwanegu gwerth i'r canlyniad). Cafodd yr adolygiad seiliedig ar dystiolaeth yma ei weithredu'n llawn, er bod rhan o'r dull Meddwl Systemau angen i wasanaethau gael eu hadolygu'n gyson a'u monitro'n agos.

 

Dynododdyr arolwg fod y pethau dilynol yn bwysig i gwsmeriaid:

 

          Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi cyngor cyn gwneud cais a chyngor pan fydd y cais yn cael ei ystyried.

 

          Maent eisiau i swyddogion fod yn hygyrch a chyfathrebu agored ac onest.

 

          Maent eisiau cysondeb mewn cyngor cyn gwneud cais ac wrth ddilysu ceisiadau.

 

          Maent eisiau i'r Pwyllgor Cynllunio ddilyn argymhelliad y swyddog ac yn gwerthfawrogi medru cael dialog gydag Aelodau cyn penderfyniad.

 

          Nid ydynt eisiau gosod gormod o amodau ar benderfyniadau, a phan osodir amodau, dylent fod yn berthnasol a rhwydd eu gweithredu.

           

              Maentyn gwerthfawrogi medru cyflwyno cais ar-lein a chwilio am geisiadau a gwybodaeth ar-lein.

 

           Mae trydydd partïon  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Datganiad Rhagolwg Alldro Cyfnod 1 2016/17 Arolygu Cyllid a Chyfalaf pdf icon PDF 703 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Rhoi gwybodaeth ar ragolwg sefyllfa alldro refeniw'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 1 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17. Daethpwyd â rhagolygon refeniw a chyfalaf ymlaen gan fis yn erbyn yr amserlen arferol i roi gwybodaeth ariannol berthnasol i Aelodau cyn gwyliau'r haf.

 

Argymhellion a gynigiwyd i'r Cabinet

 

(i)            Bod y Cabinet yn nodi maint rhagolwg gwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.

 

(ii)           Bod y Cabinet yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Swyddogion roi gwybodaeth ar sut y deuir â'r sefyllfa gorwariant yn ôl o fewn y gyllideb, yn cynnwys cynlluniau amgen i sicrhau'r arbedion o £301,000 o orfodwyd y dywedir na fedrir eu cyflawni yn yr adroddiad monitro nesaf.

 

(iii)         Bod y Cabinet yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddwyr adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd cyn mis adroddiadau mis 6.

 

(iv)         Bod y Cyngor yn gwerthfawrogi maint y defnydd o ragwelir o gronfeydd cadw ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

(v)           Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf sy'n arddangos amrywiad bach yn unig i'r gyllideb fel canlyniad i gymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.

 

(vi)         Bod y Cabinet yn cydnabod y risg yn gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn a ddisgwylir a'r potensial i hyn gael pwysau refeniw sylweddol os caiff derbyniadau eu hoedi ac y gall fod angen benthyca dros dro.

 

Craffuaelodau:

 

Arôl ystyried yr Adroddiad, mynegodd y Pwyllgor Dethol ei gefnogaeth ar gyfer yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cabinet.

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

Bod yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

 

 

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Craffwyd ar Flaenraglen gwaith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. Wrth wneud hynny, ychwanegid yr eitemau dilynol at y rhaglen waith.

 

  • Diweddariadar y Ddêl Dinas.
  • Diweddariad Skutrade.
  • Diweddariadar CMC2 - cyfarfod y Pwyllgor Dethol ar 24 Tachwedd 2016.

 

 

7.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cynhelircyfarfod nesaf y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu ddydd Iau 13 Hydref 2016 am 10.00am.