Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough fuddiant personol nad yw'n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â pherfformiad ysgolion gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Trefynwy.
Datganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag unrhyw gyfeiriadau at Ysgol Gyfun Cas-gwent ac Ysgol Gynradd y Dell. Hefyd, mewn perthynas â Chynllun Busnes drafft y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) gan ei fod yn Llywodraethwr Awdurdod Addysg yn y ddwy ysgol ac yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y GCA.
Datganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â’r adroddiad ar berfformiad ysgolion a Chynllun Busnes y GCA gan ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Rogiet ac Ysgol Gyfun Cil-y-coed.
Datganodd y Cynghorydd Sir D. Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â pherfformiad a chyllidebau ysgolion oherwydd ei fod yn llywodraethwr Ysgol Gymraeg Y Fenni ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Crucorney.
Datganodd y Cynghorydd Sir P. Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â Chynllun Busnes y GCA a Deilliannau Ysgolion Sir Fynwy yr Arfer Categoreiddio Cenedlaethol gan ei bod yn llywodraethwr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan.
Datganodd y Cynghorydd Sir M. Powell fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chanlyniadau perfformiad ysgol gan ei bod yn llywodraethwr Ysgol Gyfun y Brenin Harri’r VIII.
Datganodd Mr. M. Fowler Jones fuddiant personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â Deilliannau Ysgolion Sir Fynwy yr Arfer Categoreiddio Cenedlaethol gan ei fod yn llywodraethwr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan.
|
||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 171 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 12fed Ionawr 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd yn amodol ar y gwelliant canlynol:
Cofnod 4, tudalen 3, y pwynt bwled cyntaf dan Craffu Aelodau – tynnu ‘Mewn ymateb’ o ddiwedd y frawddeg hon.
|
||
Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 Datganiad Rhagolwg Alldro Cyfnod 3. PDF 699 KB Cofnodion: Cyd-destun
Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgorau Dethol ar ddatganiad rhagolwg alldro'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 3 sy’n cynrychioli gwybodaeth ariannol 9 mis ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.
Argymhellion a gynigiwyd i’r Cabinet:
CraffuAelodau:
|
||
Adroddiad Perfformiad Terfynol ar Gyfnodau Allweddol 4 a 5. PDF 177 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyd-destun
Derbyn y data cyrhaeddiad addysgol diweddaraf gan ganiatáu i’r gwasanaeth gael ei ddwyn i gyfrif. Mae hyn yn cynnwys:
• Perfformiad disgyblion ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 4 a 5. • Dadansoddiad, lle mae’n bosibl, o berfformiad ar draws yr holl gyfnodau allweddol ar gyfer y grwpiau canlynol:
- Merched a Bechgyn. - Disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (PYDd).
MaterionAllweddol:
CyfnodAllweddol 4
· Gwelodd Sir Fynwy gynnydd o 0.1 pwynt canran yn y dangosydd pennawd Cyfnod Allweddol 4 i 67.0% – roedd Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg, o gymharu â 66.9% yn 2015 a 56.3% yn 2012. · Symudodd Sir Fynwy lawr i’r 3ydd safle o’r safle 1af yn rancio awdurdodau lleol Cymru ar gyfer Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg.
CyfnodAllweddol 5
· Gwelloddperfformiad yng nghanran y disgyblion yn cyflawni Trothwy Lefel 3, gyda 99.1% yn cyflawni’r meincnod, cynnydd o’r 97.9% yn 2015.
CraffuAelodau:
· BwlchPrydau Ysgol am Ddim (PYDd) – Yr hyn sy’n allweddol yw’r modd mae’r Awdurdod yn adnabod yr angen cynnar am y gefnogaeth sy’n ofynnol i ddisgyblion PYDd. Gan weithio gyda’r GCA mae bellach gynlluniau ymyrryd addas yn eu lle ar gyfer Saesneg a Mathemateg i’r holl ysgolion uwchradd.
· Nodwyd, mewn Saesneg, bod bechgyn yn tanberfformio, ac mae angen gwella hyn. Dylai’r newid yn y cwricwlwm sy’n arwain at fwy o gywirdeb technegol mewn iaith Saesneg, i’r gwrthwyneb i lenyddiaeth Saesneg, fod o gymorth i fechgyn. Y risg o gwmpas iaith Saesneg eleni yw ei fod yn gymhwyster newydd ac nad yw ysgolion wedi’i ddysgu o’r blaen.
· Hunan-arfarniad a gosod targedau - Roedd rhai o ysgolion Sir Fynwy yn nes at eu targedau nag ysgolion eraill. Mae gosod targedau’n broses ac rydym ni fel Awdurdod yn gweithio’n glos gyda’n hysgolion o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. Gwiriwyd targedau ac mae data lefel disgyblion wedi’u dadansoddi i sicrhau bod y targedau’n ddibynadwy.
· Nidydym lle byddem yn dymuno bod parthed y canlyniadau a gyflawnwyd yr haf diwethaf. Mae’r gwaith a wneir eleni’n ein gosod yn y cyfeiriad cywir i fwrw’r 70%. Yr her fydd y cymwysterau newydd a gallai hyn gael effaith ar draws Cymru gyfan.
· Mae’rAwdurdod yn parhau i weithio gyda’i ysgolion. Mae ganddo berthynas glos gyda’i ysgolion cynradd ac uwchradd.
· Grant Amddifadedd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||
Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) 2017-2020 (Drafft ymgynghori). PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyd-destun
DerbyniasomGynllun Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru 2017-2020. Mae’r cynllun yn gosod y blaenoriaethau, y rhaglenni a’r deilliannau i’w cyflawni gan y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg ar ran Consortiwm De-ddwyrain Cymru. Mae’r ystyriaeth hon gan bartneriaid allweddol yn rhan o wead y cynllun.
MaterionAllweddol:
Mae’nofynnol i Gonsortiwm De-ddwyrain Cymru gyflwyno i Lywodraeth Cymru gynllun busnes tair blynedd a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol. Dyma’r pedwerydd iteriad o’r cynllun a gyflwynwyd yn gyntaf yn 2013. Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu cyfnod 2017-2020. Mae Cynllun Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru yn amlinellu pedair blaenoriaeth. Gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol ond culhau’r bwlch rhwng y disgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) a’r rheiny nad ydynt yn gymwys; codi cyrhaeddiad mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Mae’r rhain yn flaenoriaethau craidd ar gyfer y gwasanaeth ac mae’r holl weithgareddau a’r rhaglenni eraill nawr yn cefnogi cyrhaeddiad y deilliannau hyn. Mae’rGwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) ar gyfer De-ddwyrain Cymru wedi paratoi’r Cynllun Busnes hwn ar gyfer 2017-2020 i amlinellu’r rhaglen waith sy’n ofynnol i gyflawni deilliannau gwell i blant a phobl ifanc. Mae’r fersiwn hon yn adeiladu ar y Cynllun Busnes cyfredol ar gyfer y gwasanaeth (2016-2019) ond mae’n ystyried fframwaith polisi newydd Llywodraeth Cymru (LlC), yn arbennig:
Mae’rrhaglenni gwaith wedi’u targedu’n glos at gyflawni gwelliant lle mae’;r anghenion fwyaf. Nod y GwasanaethCyflawniad Addysg (GCA) mewn partneriaeth gyda’r Awdurdodau Lleol yw:
Mae ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r holl randdeiliaid a fydd yn arwain at gyhoeddi fersiwn derfynol y Cynllun Busnes o fewn y graddfeydd amser a gytunwyd yng Nghylch Cynllunio Busnes y GCA. Rhannwyd y fersiwn ddrafft derfynol gyda Chyfarwyddwr Addysg pob awdurdod lleol ac mae’n ystyried y camau gweithredu a’r cyflawniadau y gwnaed cais amdanynt.
Mae crynodeb cynhwysfawr o’r prif gamau gweithredu o fewn y Cynllun Busnes ac adran ar Fesurau Atebolrwydd. Yn ychwanegol, mae cynlluniau cyflenwi manwl ac adolygiadau manwl o gynnydd ar gyfer y Cynllun Busnes blaenorol.
Mae’rCynllun Busnes yn amlinellu’r blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain ac yn ychwanegol atodiad sy’n canolbwyntio’n benodol ar y blaenoriaethau a’r rhaglenni ar gyfer pob awdurdod lleol yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||
Canlyniadau Ysgolion Sir Fynwy yr Ymarfer Categoreiddio Cenedlaethol. PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyd-destun
Cynghori’rPwyllgor Dethol o ganlyniadau ymarfer categoreiddio cenedlaethol blynyddol.
MaterionAllweddol:
Mae categoreiddio ysgolion yn faromedr defnyddiol blynyddol o’r cynnydd mae ysgolion Sir Fynwy’n ei wneud mewn dau faes allweddol, eu perfformiad academaidd a’u gallu i wella.
CraffuAelodau:
|
||
Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. PDF 7 KB Cofnodion: Derbyniasom a nodwyd gennym y rhestr o gamau gweithredu a gafodd eu cwblhau yn codi o gyfarfod y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 12tfed Ionawr 2017.
|
||
Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. PDF 184 KB Cofnodion: Penderfynasomdderbyn BlaengynllunGwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Wrth wneud hynny nodwyd y pwyntiau canlynol:
|
||
Cyngor a Blaengynllun Busnes y Cabinet. PDF 472 KB Cofnodion: Penderfynasomdderbyn Blaengynllun Gwaith Busnes y Cyngor a’r Cabinet gan nodi’i gynnwys.
|
||
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cynhelir y cyfarfod cyffredin nesaf ar 23 Mawrth 2017 am 2.00pm. Cofnodion: Pwyllgorar y cyd gyda’r Pwyllgor Dethol Oedolion fydd y cyfarfod nesaf a gynhelir ar ddydd Iau 23ain Mawrth 2017 am 2.00pm.
|