Skip to Main Content

Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc

Diben y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn sicrhau fod gwasanaethau yn berthnasol ac yn ymateb i anghenion pobl ifanc, gan ddiogelu a hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant, yn cynnwys y meysydd perthnasol dilynol ymysg eraill:

 

           Diogelu Plant, yn cynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd, gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd agored i niwed, Amddiffyn Plant, Plant mewn Gofal Cyhoeddus, Canfod Cartref, Canolfannau Teulu a Chymhorthion ac Addasiadau ar gyfer plant anabl.

           Cyfiawnder Ieuenctid a'r gwasanaeth troseddu ieuenctid.

           Clybiau ieuenctid a chyfleusterau hamdden ar gyfer pobl ifanc.

           Gwasanaethau Cefnogaeth Arbennig, Gwasanaethau Cefnogi Disgyblion.

           Addysg, yn cynnwys Rheoli Perfformiad Ysgolion, Rheoli Adnoddau, Rheoli, Cefnogaeth Llywodraethwyr, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Ariannol a TGCh, Cynllunio Ysgol, Cludiant, Derbyniadau, Grantiau Myfyrwyr a Phrydau Ysgol.

           Rheoli cyllidebau ysgolion unigol, cyllidebau a ddirprwywyd i ysgolion, cyllidebau ysgolion a reolir yn unigol yr Awdurdod.

 

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon



·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Aelodaeth

  • Vacant Seat (Roman Catholic Church)   
  • Vacant Seat (Co-optee)   
  • Fay Middleton (Trade Union)   
  • Elizabeth Thomas   
  • Maggie Harris   
  • Peter Strong NEU   

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Gwasanaethau Democrataidd.

Ffôn: 01633 644219