Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Nidoedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 209 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion cyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 8fed Rhagfyr 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Drafft Gynigion Cyllideb Gyfalaf 2017/18 i 2020/21. PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyd-destun:
Craffu’rgyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.
MaterionAllweddol: Materionyn ymwneud â’r Cynllun Cyfalaf Ariannol Tymor Canolig (CATC):
- PwllTrefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu’r pwll yn Nhrefynwy o ganlyniad i Raglen Ysgolion y Dyfodol.
- Hyb Y Fenni - ymrwymiad i ail-ddarparu’r llyfrgell gyda’r Siop Un Stop yn Y Fenni i gwblhau creu hyb ym mhob un o’r trefi.
- GrantiauCyfleusterau i’r Anabl – mae’r galw am grantiau ar hyn o bryd yn llawer mwy na’r gyllideb. Mae gwaith yn cael ei gyflawni i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fwyafu’r effaith a’r budd i’r rheiny sy’n derbyn y grantiau.
- Y Fargen Ddinesig - Mae 10 Awdurdod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd â’u golygon ar Fargen Ddinesig bosib o £1.2 biliwn. Ceisir cytundeb ar draws y rhanbarth i ymrwymo i’r rhaglen hon yn Ionawr 2017 ac felly byddai’n effeithio ar y CATC. Modelir yr effaith bosib ar gyllidebau awdurdodau unigol ar y blaen i benderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn i awdurdodau ddechrau meddwl am yr ymrwymiad yn eu CATCiau..
- Bloc J ac E – Mae rhaglen resymoli’r swyddfa’n cael ei hystyried i weld a oes ateb a fyddai’n galluogi safleoedd Magwyr a Brynbuga i gael eu hatgyfnerthu, gan ryddhau cyllid i dalu am y buddsoddiad angenrheidiol i ddod â’r blociau nôl i’w defnyddio.
- Rhestrhir o bwysau wrth gefn – isadeiledd, eiddo, gwaith Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Ni chynhwysir ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Drafft Gynigion Cyllideb 2017/18 er ymgynghoriad. PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyd-destun:
MaterionAllweddol:
Craffodd y Pwyllgor Dethol ar gynigion cyllideb y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc, fel yr amlinellir yn Atodiad 3B yn yr adroddiad, a oedd yn cyfateb i arbediad o £245,461.
CraffuAelodau:
|
|
Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. PDF 70 KB Cofnodion: Derbyniasom a nodwyd gennym y rhestr o gamau gafodd eu cwblhau yn codi o gyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 8fed Rhagfyr 2016.
Wrthwneud hynny, nodwyd bod Nick Ramsay, AC, wedi mynychu cyfarfod fforwm o fewn y Gwasanaethau Plant yn Nhachwedd 2016, lle trafodwyd y diffyg cyllid ym maes gwasanaethau plant. Dywedodd y Gweinidog Cyllid y bydd yn rhyddhau cofnodion y cyfarfod hwn maes o law.
|
|
Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. PDF 183 KB Cofnodion: Penderfynasomdderbyn Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
- Yradroddiad perfformiad terfynol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf ynghylch ffigurau Cyfnod Allweddol 4 a 5.
- CynllunBusnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer 2017/18. |
|
Cyngor a Blaengynllun Busnes y Cabinet. PDF 462 KB Cofnodion: Penderfynasomdderbyn Blaengynllun Gwaith Busnes y Cyngor a’r Cabinet gan nodi’i gynnwys.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Bydd y cyfarfod cyffredin nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 16 Chwefror, 2017 am 2.00pm. Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod cyffredin nesaf yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Brynbuga, ar ddydd Iau, 16eg Chwefror 2017 am 2.00pm.
|