Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Iau, 8fed Rhagfyr, 2016 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir P. Farley ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 5 - Darpariaeth Chwarae Haf 2016, gan fod Cyngor Tref Cas-gwent yn buddsoddi yng nghynllun chwarae yr haf a'i fod yn aelod o Gyngor Tref Cas-gwent.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir P. Farley ddatganiad buddiant personol yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 6b - Perfformiad Chwarter 2 Gwasanaethau Plant, gan ei fod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd The Dell ac yn Ymddiriedolydd Ymddiriedolaeth Llesiant Pensiynwyr Cas-gwent.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir L. Guppy ddatganiad  buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 5 - Darpariaeth Chwarae Haf 2016, gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Rogiet sy'n cyfrannu at y ddarpariaeth chwarae.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir R. Harris ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt eitem agenda 5 - Darpariaeth Chwarae Haf 2016, gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref y Fenni a gyfrannodd gyllid yn 2016 ar gyfer y Cynllun. Mae gan y Cyngor Tref hefyd ddarpariaeth yn y gyllideb am gyfraniad yn 2017.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Sir M. Powell ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt eitem agenda 5 - Darpariaeth Chwarae Haf 2016 gan ei bod yn aelod o Gyngor Tref y Fenni sydd â darpariaeth yn y gyllideb i gefnogi’r ddarpariaeth yma.

 

 

 

 

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 196 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion cyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc 3 Tachwedd 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd. Wrth wneud hynny, nodwyd bod y Rheolwr Cyllid wedi siarad gyda'r Aelod Cynulliad, y Gweinidog Cyllid Cysgodol, parthed diffyg cyllid mewn Gwasanaethau Plant. Bydd y Rheolwr Cyllid yn paratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod y dyfodol o'r Pwyllgor Dethol yn amlinellu'r ymateb a gafwyd.

 

 

3.

Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ynghylch Cymwysterau Newydd.

Cofnodion:

Cyd-destun

 

Derbyniwydcyflwyniad gan Mr. E. Price, Prif Gynghorydd Her y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), parthed y cymwysterau newydd ar Gyfnod Allweddol 4 o haf 2017.

 

MaterionAllweddol:

 

O 2017 ymlaen, ni fydd un prif fesur i ganolbwyntio arno ar lefel ysgol. Yn lle hynny ystyrir cyfres o fesurau yn cynnwys:

 

·         Lefel 2 cynhwysol (mesurau Bagloriaeth Sylfaenol a Chenedlaethol Cymru o 2018)

·         TrothwyLefel 2 (2017 yn unig)

·         TrothwyLefel 1 (2017 yn unig)

·         Sgôrpwyntiau wedi'i gapio (mesur diwygiedig 'Cap 9' o 2017)

 

Mae'r newidiadau i fesurau perfformiad yn cyd-fynd gydag argymhellion Dyfodol Llwyddiannus a bydd yn cael yr effaith gadarnhaol o ledaenu dewis cwricwlwm.

 

Caiffpob diweddariad eu dodi ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

2016

 

·         Newid i garfan Blwyddyn 11 o'r cohort presennol seiliedig ar 15 oed.

·         Gwerthcyfwerth ag uchafswm o ddwy TGAU i unrhyw gymhwyster unigol heblaw TGAU wrth gyfrif pob mesur perfformiad.

 

2017

 

·         Nidoes angen Dangosydd Pwnc Craidd erbyn hyn.

·         Newidiadaui'r Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio.

·         Dim ond y cymwysterau diwygiedig newydd ar gyfer Saesneg/Cymraeg, mathemateg sy'n cyfrif tuag at ofynion y pynciau penodol hyn o fesurau (nid yw cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif mwyach).

·         Gwerthcyfwerth ag uchafswm o ddwy TGAU ar gyfer cyfanswm gwerth cyfraniad cymwysterau heblaw TGAU yn y mesurau trothwy.

·         Nidoes gan Sgiliau Hanfodol Cymru a Sgiliau Allweddol Ehangach mwyach werth cyfraniad mewn mesurau Cyfnod Allweddol 4 a dim ond ar gyfer cyflenwi ôl-16 y cânt eu cymeradwyo.

·         Cymwysterau o 60 hyd at 119 (cynhwysol) oriau dysgu wedi'i llywio yn gyfwerth â 0.5 TGAU

·         Dyfarnucymhwyster diwygiedig Bagloriaeth Cymru am y tro cyntaf.

 

2018

 

·         MesurauBagloriaeth Cymru yn disodli mesurau trothwy.

·         Ar gyfer gwyddoniaeth, dim ond cymwysterau TGAU sy'n cyfrif tuag at ofynion pwnc penodol y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio; nid yw cymwysterau gwyddoniaeth heblaw TGAU bellach yn cyfrif tuag at elfennau gwyddoniaeth ond gallant gyfrif tuag at 'bedwar cymhwyster gorau arall' y dysgwr.

 

Ni chaiff unrhyw un mesur ei danlinellu ar lefel ysgol. Bydd gan y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio statws tebyg i fesurau Lefel 2 cynhwysol a Bagloriaeth Cymru. Dylid defnyddio cyfres o fesurau i ystyried perfformiad ysgolion o wahanol onglau. Bydd pa fesurau i'w defnyddio yn dibynnu ar y cwestiynau neilltuol a gaiff eu gofyn.

 

Crynodebnewidiadau  2017

 

·         Bydd unrhyw gymhwyster Lefel 1 neu Lefel 2 heblaw TGAU yn werth uchafswm o ddwy TGAU. Gellir dal i gymryd cymwysterau presennol ond bydd cap o gyfwerth â dwy TGAU ar werth perfformiad.

 

·         Ni chaiff y Dangosydd Pwnc Craidd bellach ei gyhoeddi fel mesur perfformiad.

 

 

·         Defnyddir y TGAU dilynol newydd fel elfennau llythrennedd a rhifedd mesur Cynhwysol Lefel 2:

 

- Iaith Saesneg/Iaith Gymraeg.

- Mathemateg neu Rifedd Mathemateg (p'un bynnag y mae'r dysgwr orau ynddo).

 

·         Ni fydd cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif tuag at ofynion llythrennedd mesurau ond gallant ddal i gyfrif tuag at fesurau penodol dim-pwnc.

 

Y Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio 'newydd'  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Darpariaeth Chwarae Haf 2016. pdf icon PDF 762 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyndiweddariad ar y model diwygiedig ar gyfer darpariaeth chwaraeon wedi'i staffio a weithredwyd ar gyfer cyfnod haf 2016.

 

MaterionAllweddol:

 

Tuag at ddiwedd 2015, roedd y Pwyllgor Dethol wedi derbyn adroddiad ar nifer o faterion cysylltiedig â chwarae yn cynnwys newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth chwarae wedi'i staffio ar gyfer 2016 ac amserlen ar gyfer cynhyrchu'r Archwiliad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae ar gyfer 2016/17.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol mae'r Cyngor wedi darparu cynlluniau chwarae gwyliau haf yn y pedair canolfan hamdden ynghyd â darpariaeth "lloeren" yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark, gyda'r ddarpariaeth olaf hon yn cael ei rhedeg ar ran Cyngor Tref Cas-gwent oedd hefyd yn talu amdano. Yn ymarferol, roedd y cynlluniau chwarae yn fath o ofal plant a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) oedd yn cyflenwi darpariaeth chwarae wedi'i staffio am bedair wythnos yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer plant rhwng 5 a 11 oed.

 

Y cynnig pan gafodd y mater hwn ei graffu ddiwethaf gan y Pwyllgor Dethol oedd symud i fodel o ddarpariaeth chwarae yn haf 2016 oedd yn cynnwys dwy brif elfen - gwersylloedd chwaraeon ym mhedair canolfan hamdden a sesiynau chwarae mynediad agored a gynhelid mewn nifer o safleoedd cymunedol ar draws y sir. Roedd darparu chwarae mynediad agored yn ddibynnol ar ganlyniad ymgynghoriadau gyda phartneriaid, yn fwyaf arbennig y cynghorau tref a chymuned oherwydd y ddibyniaeth ar eu cyllid i alluogi'r cynlluniau hyn i ddigwydd. Bu'r trafodaethau gyda'r cynghorau tref a chymuned yn llwyddiannus a chytunodd pob un ohonynt i gadw (ac mewn rhai achosion gynyddu) eu cyfraniadau ar y lefelau presennol.

 

Cafodd y gwersylloedd chwaraeon (Gemau Sir Fynwy) eu rhedeg gan Gwasanaethau Hamdden fel cynlluniau hunan-ariannu ar sail ddyddiol dros gyfnod o bump wythnos (25 Gorffennaf i 26 Awst 2016) rhwng 9.00am a 3.00pm. Nid oedd yn rhaid cofrestru'r rhain gyda AGGCC gan eu bod yn cael eu hystyried fel gweithgareddau chwaraeon yn hytrach na darpariaeth chwaraeon.

 

Cafodd y sesiynau chwarae mynediad agored eu trefnu a'u rheoli ar ran y Cyngor gan Wasanaeth Chwarae Torfaen (TPS). Cawsant eu cynnal dros gyfnod 19 diwrnod (1 i 25 Awst 2016).

 

Roedd presenoldeb yn y sesiynau mynediad agored yn rhad ac am ddim ac yn hollol gynhwysol ar gyfer plant gydag anableddau/anghenion cymorth ychwanegol. Oherwydd bod y sesiynau'n parhau am ychydig dan ddwy awr yr un, nid oedd angen i'r sesiynau hyn gofrestru gyda AGGCC chwaith.

 

Cafodd y cynlluniau chwarae mynediad agored eu staffio gan gyfuniad o staff cyflogedig yn bennaf a rhai gwirfoddolwyr ac yn union cyn dechrau'r cynlluniau cafodd yr holl staff wythnos lawn o hyfforddiant pan gyflwynwyd dros 40 gwahanol fodiwl i sicrhau fod gan y staff y sgiliau angenrheidiol i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

 

Wrthgyflwyno'r cynlluniau mynediad agored, cydymffurfiodd TPS gyda'r holl bolisïau a gweithdrefnau diogelu yn unol â Chyngor Sir Fynwy a Bwrdd Diogelu De Ddwyrain Cymru, oedd yn un o'r darpariaethau yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y ddau awdurdod.

 

Roedd gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Amcanion Gwella a Dangosyddion perfformiad - 2016/17 Chwarter Diweddariad 2. pdf icon PDF 401 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn data perfformiad chwarter 2 ar gyfer yr Amcanion Gwella sydd o fewn cylch gorchwyl Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc: 

 

·         AmcanGwella 1 - Gwella ar bob cyfnod allweddol o addysg.

 

·         Amcan Gwella 2 - Diogelu pobl, p'un ai’n hen neu ifanc, tra'n gostwng dibyniaeth pobl ar ofal cymdeithasol.

 

Derbyn y perfformiad diweddaraf ar ddangosyddion perfformiad cenedlaethol allweddol sydd dan gylch gorchwyl y pwyllgor.

 

MaterionAllweddol:

 

Caiff Amcanion Gwella eu gosod yn flynyddol gan y Cyngor i gyflawni blaenoriaethau, caiff y rhain eu gosod yng Nghynllun Gwella 2016/17. Er bod ffocws amcanion ar yr hirdymor, mae'r gweithgareddau penodol sy'n eu cefnogi â ffocws neilltuol ar y flwyddyn i ddod.

 

Mae gweithgaredd sy'n cyfrannu at gyflawni rhai amcanion yn gorgyffwrdd â chylchoedd gorchwyl Pwyllgorau Dethol a rhoddir adroddiad ar y rhain hefyd i bwyllgor(au) eraill perthnasol.

 

Adroddwyd y cynnydd ar y rhan fwyaf o gamau gweithredu a dangosyddion perfformiad sy'n ffurfio rhan o amcan Gwella 1 i Bwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc fel rhan o adroddiad Prif Swyddog y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc. Oherwydd pwysigrwydd bod Aelodau'n craffu ar gynnydd penodol ar y camau gweithredu, dangosyddion perfformiad a thargedau a nodir yng Nghynllun Gwella 2016/17, cafodd diweddariad cynnydd llawn ar amcan gwella 1 hefyd ei orffen.

 

Caiff yr Amcanion Gwella eu gwerthuso ar ddiwedd y flwyddyn (2016/17) yn seiliedig ar fframwaith hunanwerthuso y Cyngor, a nodir yng Nghynllun Gwella 2016-17. Rhoddir adroddiad ar y perfformiad arnynt i'r Pwyllgor Dethol ac yng Ngham 2 y Cynllun Gwella a gyhoeddir ym mis Hydref bob blwyddyn.

 

Mae'n debyg mai hyn fydd cylch blynyddol olaf Cynllunio Gwella yn y ffurf yma. Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal dau asesiad sylweddol o angen a llesiant o fewn y Sir fel canlyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi tystiolaeth sylfaen llawer dyfnach o lesiant yn y Sir a chaiff ei defnyddio i adolygu amcanion gwella presennol y Cyngor i baratoi ar gyfer cyhoeddi amcanion llesiant y Cyngor erbyn 31 Mawrth 2017.

 

Mae Atodiad C yr adroddiad yn nodi mwy o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol o'r set o Ddangosyddion Perfformiad Cenedlaethol sydd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor. Y prif ddiben yw amlygu'r perfformiad a gyflawnwyd hyd yma yn 2016/17. Mewn rhai achosion gall hyn arwain at ddyblygu'r dangosyddion a gafodd eisoes eu cynnwys mewn adrannau eraill o'r adroddiad. Lle mae dangosyddion yn cyfeirio at berfformiad gwasanaethau sydd dan gylch gorchwyl mwy na un pwyllgor, rhoddir adroddiad ar hyn hefyd i'r pwyllgor(au) arall perthnasol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Argyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, caiff gwybodaeth cohort ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

·         Mae 80% o gam cyntaf uwchraddio seilwaith TGCh ysgolion wedi'i gwblhau.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), nodwyd fod Estyn yn 2012 wedi dynodi rhai diffygion a heriau o fewn darpariaeth yr Awdurdod. Cynhaliwyd adolygiad cyflym o ADY yn syth  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Gwasanaethau Plant Chwarter 2 Perfformiad. pdf icon PDF 609 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Darparucerdyn adroddiad sy'n ystyried perfformiad chwarter 2 mewn gwasanaethau cymdeithasol plant.

 

MaterionAllweddol:

 

Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i rym o fis Ebrill 2016 ac mae wedi newid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu yng Nghymru:

 

·         Mae'rDdeddf yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i gyflawni llesiant.

 

·         Mae pobl yn greiddiol i'r system newydd drwy roi llais cyfartal iddynt yn y gefnogaeth a gânt.

 

·         Mae partneriaeth a chydweithredu yn hybu darpariaeth gwasanaeth.

 

·         Byddgwasanaethau yn hyrwyddo atal cynnydd mewn angen ac mae'r help cywir ar gael ar yr amser cywir.

 

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gael trefniadau ar waith i gasglu a dychwelyd y data ar y mesurau perfformiad statudol a fanylir yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru o fis Mai 2017 ymlaen. Mae'r mesurau perfformiad yn gyfuniad o ddata meintiol (rhifyddol) a data ansoddol sy'n cynnwys gofyn i bobl am eu profiad o wasanaethau cymdeithasol a ph'un ai yw wedi cyfrannu at wella eu llesiant.

 

Cesglir data ansoddol drwy holiaduron i rieni a phlant Yn chwarter 2 mae'r broses hon yn dal i fynd rhagddi, felly rhan o'r holl gasgliad yw'r ymatebion yn yr adroddiad yma.

 

Chwarter 2 yw'r casgliad llawn cyntaf o'r mesurau newydd ac mewn llawer o achosion nid oes data llinell sylfaen na chymharol ar gael. Gosodwyd targedau lle'n ymarferol ond bydd gwybodaeth well pan sefydlir data llinell sylfaen a lle mae data awdurdod lleol arall ar gael.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed ymatebion i'r holiaduron gan blant, nodwyd yr ystyriai 68% eu bod wedi derbyn yr wybodaeth neu gyngor cywir pan oeddent ei angen. Fodd bynnag, mae'r mater yma'n dal i gael ei ddadansoddi. Cynhelir mwy o ddadansoddiad pan dderbyniwyd mwy o ddata.

 

·         Mae plant sy'n derbyn gofal bob amser yn flaenllaw mewn penderfyniadau. Y ddelfryd ym mhob achos yw bod ymyriad yn digwydd yn ddigon cynnar fel y dynodir achosion yn ddigon cynnar a chynhelir gwaith ataliol.

 

 

·         Ystyriwyd y dylai'r data a gyflwynir i gyfarfodydd o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol fod ar gael yn rhifyddol wrth ochr y gwerth canran.

 

·         Ar ôl gweld y data'n ymwneud â'r canran o blant sy'n derbyn gofal sy'n profi symud ysgol heb fod yn pontio a'r canran o blant sy'n derbyn gofal gyda thri neu fwy o leoliadau, nodwyd mai un o'r heriau yn Sir Fynwy yw daearyddiaeth y sir a allai effeithio ar leoliad y plentyn felly, mae'r adroddiad yn dangos fod y niferoedd yn uwch nag yr hoffai'r Awdurdod ei weld oherwydd bod yr Awdurdod eisiau gweld sefydlogrwydd yn nhermau addysg y plant.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am yr holiadur, nodwyd y caiff canlyniadau'r holiadur eu hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd hefyd opsiwn i ychwanegu geiriad rhydd yn ogystal ag ateb y cwestiynau gosod. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o'r hyn a ofynnwyd a manylion y cyfraddau ymateb. Bwriedir y defnyddir yr holiadur  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Asesiad Risg Strategol 2016. pdf icon PDF 705 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Rhoitrosolwg o'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod ar hyn o bryd.

 

MaterionAllweddol:

 

Mae'rasesiad risg yn sicrhau:

 

·         Y caiff risgiau strategol eu dynodi a'u monitro gan yr awdurdod.

 

·         Bod dulliau rheoli risg yn briodol a chymesur.

 

·         Bod uwch reolwyr ac Aelodau etholedig yn adolygu'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod mewn modd systematig.

 

Cafodd y risgiau presennol ar yr Asesiad Risg Strategol eu diweddaru yn seiliedig ar dystiolaeth oedd ar gael yn 2016. Cafodd newidiadau i bolisi rheoli risg y Cyngor eu cymeradwyo gan y Cabinet ym Mawrth 2015 ac maent yn parhau i gael eu gweithredu i'r gofrestr risg strategol. Y newidiadau hyn yw:

 

·         Cynyddusgorau risg cyn-lliniaru ac ôl-lliniaru, roedd hyn hefyd yn argymhelliad allweddol o graffu asesiad risg 2014.

 

·         Sicrhaumwy o eglurdeb ar eiriad risg fel bod pob datganiad yn cynnwys digwyddiad, achos ac effaith.

 

Dim ond risgiau lefel uchel a chanolig a gynhwysir yn yr asesiad risg. Ni chaiff risgiau gweithredol lefel is eu cofrestru os na ragwelir y byddant yn cynyddu o fewn y tair blynedd a gynhwysir. Mae angen i'r rhain gael eu rheoli a'u monitro drwy gynlluniau gwasanaeth timau. Caiff y lefelau risg cyn ac ôl lliniaru eu cyflwyno ar wahân. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae camau lliniaru yn arwain at newid i'r tebygrwydd o'r risg mai nod cyffredinol ein gweithredoedd yw gostwng y cyfle o ddigwyddiad negyddol yn digwydd yn hytrach na lleihau ei effaith. Mae'n amlwg y bydd eithriadau.

 

Yn dilyn cyflwyniad i'r pwyllgorau dethol, caiff yr asesiad risg ei gyflwyno i'r Cabinet i gael ei lofnodi. Mae'r asesiad risg yn ddogfen fyw a bydd yn esblygu dros y flwyddyn fel y daw gwybodaeth newydd i'r amlwg. Mae log risg cyfredol ar gael i Aelodau ar fewnrwyd y Cyngor - The Hub. Bydd hyn yn sicrhau, yn ogystal â chraffu penodol parhaus yr asesiad risg yn flynyddol, y gall pwyllgorau dethol ailedrych ar yr wybodaeth ar unrhyw adeg yn y flwyddyn i ail-flaenoriaethu eu cynllun gwaith fel sy'n briodol.

 

CraffuAelodau:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol parthed datgeliadau diweddar am rai hyfforddwyr chwaraeon ar draws Prydain, nodwyd y byddai'r mater yma'n aros gyda Gr?p Diogelu Awdurdod Cyfan.

 

·         Byddai data ar salwch ac absenoldeb athrawon ar gael i'r Pwyllgor Dethol. Mae lefelau salwch athrawon yn well na lefelau salwch ehangach staff y Cyngor. Hefyd, gellid dod â lefelau salwch athrawon o gymharu â lefelau salwch disgyblion yn ôl i'r Pwyllgor Dethol

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o'r Pwyllgor Dethol am p'un ai a gynhaliwyd asesiad risg yng nghyswllt newid posibl yng ngweinyddiaeth yr Awdurdod ym Mai 2017, oherwydd yr etholiadau lleol sydd ar y gweill, nodir fod cyflenwi blaenoriaethau gwleidyddol yn cael ei gynnwys yn fras drwy un o'r risgiau a ddynodir yn yr adroddiad, h.y. y blaenoriaethau gwleidyddol a gyflenwir. Fodd bynnag, ni ddynodwyd risg penodol yng nghyswllt newid posibl yng ngweinyddiaeth yr Awdurdod.

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Rhoddodd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 67 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd y rhestr o'r camau gweithredu a gwblhawyd yn deillio o gyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2016. 

 

9.

Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Penderfynwydderbyn Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a nodi ei gynnwys.

 

10.

Cyngor a Busnes y Cabinet - Blaengynllun. pdf icon PDF 456 KB

Cofnodion:

Penderfynwydderbyn Blaengynllun Gwaith Busnes y Cyngor a'r Cabinet a nodi ei gynnwys.

 

11.

Cyfarfod Nesaf.

Dydd Iau 12 Ionar 2017 am 2.00pm.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, ddydd Iau 12 Ionawr 2017 am 2.00pm.