Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Croeso Cofnodion: Ar ran y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc, estynnodd y Cadeirydd groeso i Kerry Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili, i'r cyfarfod.
|
||
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Gwnaeth y Cyngorydd Sir P. Farley ddatganiad buddiant personol, heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 7 - cyflwyniad ar ysgolion gyda chyllideb ddiffyg a phroses cynllun adfer, gan ei fod yn Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol ar Ysgolion Cynradd The Dell a Cas-gwent.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir L. Guppy ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitemau agenda 5 - Cynllun Strategol Addysg Cymraeg, gan fod ganddi berthnasau sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir R. Harris ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â'r Cod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitemau agenda: 6 - Adroddiad blynyddol cwynion, sylwadau a chanmoliaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, 7 - Cyflwyniad ar ysgolion mewn cyllideb ddiffyg o'r cyfarfod blaenorol, gan y soniwyd am y Panel Maethu a'i fod yn aelod o'r panel hwn, defnyddiwyd Ysgol Gynradd Deri View fel enghraifft o adferiad llwyddiannus o gyllideb ddiffyg ac mae'n llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir D.W.H. Jones ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt eitem agenda 5 - Cynllun Strategol Addysg Gymraeg gan ei fod yn llywodraethwr Ysgol Gymraeg y Fenni, mae ei ferch yn gweithio yno a'i wyres yn mynychu'r ysgol. Mae hefyd yn llywodraethwr ar Ysgol Gynradd Llanfihangel Crucornau ac mae ei ?yr yn mynychu Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir P. Jones ddatganiad buddiant personol yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 6 -Adroddiad Blynyddol Cwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, gan ei bod yn aelod o'r Panel Mabwysiadu.
Gwnaeth y Cynghorydd M. Powell ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 8 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2016/17, gan ei bod yn llywodraethwr Ysgol Brenin Harri VIII.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir A. Easson ddatganiad buddiant personol heb fod yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, yng nghyswllt eitem agenda 7 - Cyflwyniad ar ysgolion mewn cyllideb ddiffyg a'r broses cynllun adfer, gan ei fod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gymraeg y Ffin.
|
||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 176 KB Cofnodion: Cafoddcofnodion cyufarfod y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 6 Hydref 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y gwelliant dilynol i Gyfnod 3 - Datganiad Rhagolwg All-dro Montiro Refeniw a Chyfalaf Cyfnod 201/17, casgliad y Pwyllgor, pwynt bwled 5 ar dudalen 5 y cofnodion:
Steve Davies (Llywodraeth Cymru)
|
||
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2016/17 (i ddilyn). PDF 1 MB Cofnodion: Cyd-destun
Rhoi'r data diweddaraf i Aelodau'r Pwyllgor Data yn dangos gwybodaeth ar gyrhaeddiad addysgol y maent ei angen i ddal gwasanaethau i gyfrif. Mae hyn yn cynnwys:
· Perfformiaddisgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
· Dadansoddiad, lle'n bosibl, o berfformiad ar draws pob cyfnod allweddol ar gyfer y grwpiau dilynol:
- Merched a Bechgyn.
- Disgyblionsy'n gymwys am brydau ysgol am ddim.
Maerionallweddol:
· Mae'radroddiad yn dod ynghyd â'r negeseuon pennawd o nifer o ddadansoddiadau mwy manwl.
· Mae'radroddiad yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth yn galluogi Aelodau i ddrilio lawr o ddata awdurdod lleol i ffigurau ar gyfer grwpiau o ddysgwyr penodol.
· Mae'rrhan fwyaf o ddarparwyr data yn rhoi cymariaethau yn ôl i 2011/12, sef y flwyddyn academaidd yn union cyn yr arolwg llawn diwethaf gan Estyn. Bu gwelliant amlwg mewn dangosyddion pennawd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
· Mae'radroddiad yn galluogi'r Pwyllgor Dethol i edrych tu hwnt i'r mesurau lefel uchel ar rai o'r manylion o dan hynny.
Cyfnod Sylfaen
· Gwelodd Sir Fynwy ostyngiad bach o 0.1 pwynt canran yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen gyda 91.7% o ddisgyblion yn cyflawni'r Dangosydd Cyfnod Sylfaen, o gymharu gyda 91.8% yn 2014/15 a 86.8% yn 2011/12.
· Er y gostyngiad mewn perfformiad, mae Sir Fynwy wedi symud i fyny un lle i fod yn 1af yn safle awdurdodau lleol Cymru ar gyfer y Dangosydd Cyfnod Sylfaen.
· Yn 2015 mae perfformiad wedi gostwng ar y lefel ddisgwyliedig (O5+), ac eithrio cynnydd mewn Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Gymraeg ar O5+. · Mae'rperfformiad ar y lefel ddisgwyliedig (O6+) wedi cynyddu ar draws pob dangosydd.
· Mae Sir Fynwy yn parhau i fod ymysg y tri awdurdod sy'n perfformio orau yng Nghymru ar gyfer pob maes dysgu ac eithrio Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Cymraeg Iaith Gyntaf.
CyfnodAllweddol 2
· Mae perfformiad yn parhau i wella, gyda 94.1% o ddisgyblion yn cyflawni dangosydd pwnc craidd Cyfnod Allweddol 2 yn 2014/15, o gymharu â 86.3% yn 2011/12 a 92.5% yn 2015. Mae Sir Fynwy yn dal i fod y 1af yng Nghymru ar gyfer dangosydd pwnc craidd Cyfnod Allweddol 1.
· Mae perfformiad mewn Saesneg, Cymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth yn parhau i wella ar lefel 4+ y cwricwlwm a ddisgwylid a lefel uwch 5+.
· Mae Sir Fynwy yn y safle 1af yng Nghymru ar gyfer pob dangosydd ac eithrio Cymraeg Iaith Gyntaf.
CyfnodAllweddol 3
· Mae perfformiad yn parhau i wella er ar gyfradd arafach nag ar draws Cymru yn gyffredinol. Yn 2015/16 cyflawnodd 91.9% o ddisgyblion Ddangosydd Pwnc Craidd Cyfnod Allweddol 3 o gymharu gyda 90.8% yn 2015 a 77.7% yn 2011/12.
· Mae Sir Fynwy bellach yn 3ydd yng Nghymru ar gyfer Dangosydd Pwnc Craidd Cyfnod Allweddol 3.
· Mae perfformiad ar draws Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn parhau i wella ar lefel 5+ ddisgwyliedig y cwricwlwm ac ar lefel uwch 6+.
· Mae Sir Fynwy bellach yr 2il yng Nghymru ar gyfer Saesneg ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||
Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 Datganiad Rhagolwg Alldro Cyfnod 2. PDF 702 KB Cofnodion: Cyd-destun:
· Rhoigwybodaeth ar raolwg sefyllfa all-dro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 2 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 6 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.
· Asesuos yw'r gyllideb yn cael ei monitro'n effeithlon.
· Monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â'r gyllideb a'r fframwaith polisi a gytunwyd.
· Herio os yw amcan gorwariant neu danwariant yn rhesymol.
· Monitro cyflawni enillion effeithiolrwydd a ragwelir neu gynnid yng nghyswllt cynigion am arbedion.
Argymhellion a gynigiwyd i'r Cabinet:
· Bod y Cabinet yn nodi maint rhagolwg gorwariant refeniw ar gyfnod 2 o £839,000, gwelliant o £529,00 ar y sefyllfa a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 1.
· Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng faint o sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd o fis 6 ymlaen.
· Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint amcan defnydd cronfeydd wrth gefn ysgolion a disgwyliad y bydd pedair ysgol arall mewn sefyllfa ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.
· Bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd gydag amodau o gronfeydd cadw i gyllido £318,000 o gostau tribiwnlys cyflogaeth os na all cyllideb y Cyngor amsugno effaith y gwariant anghyffredin hwn dros chwe mis gweddilliol y flwyddyn ariannol.
· Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, gorwariant a thanwariant penodol, a bod y Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn gwerthu a'r potensial i hyn gael pwysau sylweddol ar refeniw os caiff derbyniadau eu gohirio ac y gall fod angen benthyca dros dro.
Craffuaelodau:
· Pan mae ysgol yn cau, daw unrhyw gyllideb dros ben yn ôl i'r awdurdod lleol i gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion addysgol.
· Mae Ysgolion Cynradd Drenewydd Gellifarch a Thryleg yn cario symiau eithaf sylweddol ymlaen. Nodwyd y bu Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch yn eithaf llwyddiannus yn cynhyrchu incwm, sicrhawyd arbedion a bu'r ysgol yn ddarbodus wrth ddyrannu adnoddau. Mae swyddogion wedi cwrdd â'r ysgol i drafod sefydlu cynllun buddsoddi ar gyfer y gwarged. Bu Ysgol Gynradd Tryleg yn llwyddiannus gyda'i grantiau hefyd. Mae'r ysgol, ynghyd ag Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch, yn rhan o rwydwaith ysgolion arloesi lle maent yn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fedru datblygu'r cwricwlwm. Mae ysgolion Cil-y-coed a Gilwern hefyd yn rhan o'r rhwydwaith ysgolion arloesi'r fargen newydd, felly gallai fod peth amrywiad yng nghyllidebau'r ysgolion hyn hefyd.
· Mae 10 o ysgolion Sir Fynwy yn debyg o fod mewn cyllideb ddiffyg. Fodd bynnag, mae'r swyddogion wedi codi'r drafodaeth ar ysgolion yn dal cyllidebau gwarged mawr. Ym mis 9 gobeithir y gwelir gwelliant lle bydd ysgolion gobeithio yn derbyn mwy o grantiau. Mae'r awdurdod lleol wedi cael gwybodaeth well gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) yng nghyswllt cyllid y mae'n ei ddosbarthu i ysgolion Sir Fynwy. Rhagwelir y bydd cynlluniau gwariant yr ysoglion yn newid drwy gydol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||
Cynllun Strategol Addysg Gymraeg (i ddilyn). PDF 389 KB Cofnodion: Cyd-destun
· Craffuar Ddrafft Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020 Cyngor Sir Fynwy.
· Ymgynghorigyda'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc parthed yr adroddiad fel rhan o'r cyfnod ymgynghori wyth ysgol statudol gyda phob partner allweddol ac ymgyngoreion statudol.
MaterionAllweddol:
· GweledigaethLlywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru erbyn 2050 ac er mwyn cyflawni hyn bydd angen y camau dilynol: - mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. - gwellcynllunio yng nghyswllt sut mae pobl yn dysgu'r iaith. - mwy o gyfleoedd hygyrch i bobl ddefnyddio'r iaith. - seilwaithcryfach a chwyldro i wella darpariaeth ddigidol yn y Gymraeg. - newidyn y ffordd y siaradwn amdani.
· Mae addysg yn un o'r sbardunau allweddol i wireddu'r weledigaeth hon drwy sicrhau fod plant yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg yn ifanc i greu siaradwyr newydd y dyfodol.
· WESP yw'r ddogfen strategol allweddol ar gyfer awdurdodau lleol i gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf.
· Mae WESP yn parhau i fod â ffocws ar y pum deilliant yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2000 sef :
- mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng Gymraeg fel canran o gohort Blwyddyn 2. - mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith pan fyddant yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. - mwy o ddysgwyr yn astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. - mwy o ddysgwyr 16-19 oed yn astudio Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. - mwy o ddysgwyr gyda sgiliau gwell yn y Gymraeg.
· Yn ychwanegol, mae angen i awdurdodau lleol drin safonau cyrhaeddiad yn y Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith, darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol a chynllunio gweithle, a datblygiad proffesiynol parhaus.
· Mae'nrhaid cyflwyno cynllun WESP terfynol i Lywodraeth Cymru erbyn 20 Rhagfyr 2016, i'w weithredu o 1 Ebrill 2017.
CraffuAelodau:
· Mae WESP yn gynllun tair blynedd. Mae'n uchelgeisiol ond mae'n rhaid i'r Awdurdod geisio annog cynifer o rieni ag sydd modd i o leiaf ystyried y gwerthoedd y medrid eu cyflawni o addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach nag addysg Saesneg yn unig.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am bryderon rhieni yng nghyswllt yr angen a'r gost o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, nodwyd fod yn rhaid i ni fel Awdurdod dderbyn os nad ydym yn hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg, yna y byddai'n dybiaeth resymol na fyddai rhieni yn gwerthfawrogi addysg cyfrwng Cymraeg yn yr un ffordd â siroedd eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, unwaith mae hynny'n digwydd, mae'r gwir alw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n eithaf cyflym. Mae mwy o rieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd manteision bod yn ddwyieithog.
· Fel Awdurdod, mae'n rhaid i ni gydymffurfio gyda'r gofynion statudol sy'n bodoli yng nghyswllt darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dyma'r hyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
||
Cyflwyniad ar ysgolion mewn cyllideb ddiffyg a’r broes cynllun adfer. Cofnodion: Cyd-destun
Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad am wybodaeth ar y broses cynllun adfer ar gyfer ysgolion Sir Fynwy.
MaterionAllweddol:
Mae'rCynllun ar gyfer cyllido ysgolion - diweddarwyd Hydref 2016 yn dweud:
Llemae gan ysgol falans diffyg ar ddiwedd y flwyddyn, caiff diffyg o'r fath ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu roi adroddiad i'r awdurdod ar y mesurau y mae'r ysgol yn bwriadu eu cymryd i ddileu'r diffyg, dros uchafswm o dair blynedd. Gall yr Awdurdod gytuno i gynyddu'r cyfnod i alluogi ysgolion i gael adferiad, fodd bynnag, bydd angen i hyn gael ei gytuno gyda'r Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc. Mae'n rhaid cyflwyno'r cynlluniau hyn o fewn tair wythnos ar ôl adrodd diffyg i'r awdurdod yn gyntaf. Caiff y cynllun ei fonitro o leiaf bob tymor ond mewn achosion sylweddol caiff hyn ei fonitro'n fisol. Mae gan yr awdurdod hawl i ddileu'r gyllideb ddirprwyedig a phwerau'r corff llywodraethu os na ddilynir y cynllun.
Aiffymlaen i ddweud:
Ni fydd yr awdurdod yn dileu balans diffyg mewn unrhyw ysgol.
Craffuaelodau:
· Ysgolion gyda chyllideb gwarged - nodwyd y gall yr Awdurdod adfachu cyllid o ysgolion gyda gwargedion uchel a defnyddio'r arian hwn ar gyfer dibenion addysg. Dylai ysgolion gyda gwarged fod yn gwario'r gyllideb a ddyrannwyd iddynt yn llawn yn synhwyrol.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod cyllideb nodweddiadol ar gyfer ysgol gynradd 210 rhwng £600,000 a £700,000 y flwyddyn a chyllideb nodweddiadol ysgol uwchradd rhwng £4,000,000 a £6,000,000 y flwyddyn. Mynegwyd pryder am y ffyrdd y caiff ysgolion eu llywodraethu a'r anfanteision a brofant sy'n aml yn gadael cyrff llywodraethu gyda 'eu dwylo wedi clymu'.
|
||
Adroddiad Blynyddol Cwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant. PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyd-destun
Rhoitrosolwg o nifer a mathau cwynion, sylwadau a chanmoliaeth a gafodd eu derbyn a'u trin parthed Gwasanaethau Cymdeithasol Plant o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016.
MaterionAllweddol:
· Mae'n ofynnol i Wasanaethau Cymdeithasol pob awdurdod lleol ddilyn Rheoliadau Gweithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014.
· Cyhoeddircanllawiau hefyd dan Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio gydag ef.
· Derbyniwydpedwar sylw am Gwasanaethau Plant.
· Derbyniwyd 14 neges canmoliaeth yn ymwneud â Gwasanaethau Plant.
· Derbyniwyd 25 cwyn yn ymwneud â Gwasanaethau Plant.
CraffuAelodau:
· Roeddyn dda nodi mai dim ond 25 cwyn a dderbyniwyd o ystyried fod Gwasanaethau Plant yn wasanaeth prysur iawn gyda phroblemau cymhleth.
· Yndilyn yr adroddiad, mae'r Prif Swyddog yn adolygu'r cwynion gyda golwg ar ganfod ffyrdd i ostwng nifer y cwynion yn y dyfodol.
· Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol, nodwyd fod gan blant fynediad i wasanaethau eiriolaeth.
· Mae'nbwysig fod llais gan bobl ifanc.
|
||
Rhestr camau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod blaenorol. PDF 74 KB Cofnodion: Cafwyd y rhestr o gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2016. Drwy wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:
MonitroRefeniw a Chyfalaf 2016/17 Datganiad Rhagolwg All-dro Cyfnod 1.
Bydd y Cadeirydd a Nikki Wellington, Rheolwr Cyllid, yn cwrdd ar ôl y cyfarfod i ffurfio rhai cwestiynau yng nghyswllt y diffyg cyllid parthed y gyllideb Diogelu Plant a Plant sy'n Derbyn Gofal.
Bydd y Cadeirydd hefyd yn cwrdd gyda Tyrone Stokes, Rheolwr Cyllid, i lunio llythyr at Lywodraeth Cymru i amlygu pryderon y Pwyllgor Dethol ar gyfer y dyfodol.
AdroddiadBlynyddol Cynnig Integredig i Ieuenctid Sir Fynwy
Arôl y cyfarfod, bydd y Cadeirydd a'r Pwyllgor Craffu yn cwrdd gyda Josh Klein, Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid newydd, i drafod y broses craffu.
Cyfarfodarbennig - Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a Phwyllgor Dethol Oedolion - 22 Tachwedd 2016.
Trafod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol, yn neilltuol Rhan 11, sy'n cyfeirio at y dimensiwn carchar.
Busnesychwanegol i gael ei drafod:
• Monitro cyllideb ar gyfer cylch gorchwyl Pwyllgor Dethol Oedolion. • Adroddiad y Prif Swyddog Addysg.
|
||
Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc (i ddilyn). PDF 173 KB Cofnodion: DerbyniwydBlaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Drwy wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:
• Cynhelir cyfarfod arbennig ar y cyd o'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Dethol Oedolion ar 22 Tachwedd 2016 am 10.00am.
• Cynhelir cyfarfod cyffredin nesaf y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 8 Rhagfyr 2016 am 2.00pm.
• Cynhelir cyfarfod o'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 12 Ionawr 2017 i graffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2017/18.
• Ar 24 Ionawr 2017 bydd cyfarfod ar y cyd o bob un o'r pedwar Pwyllgor Dethol i graffu ar y Model Darparu Gwasanaeth Amgen.
• Cynhelir seminar Aelodau ar 14 Rhagfyr 2016 parthed yr agwedd Llywodraethiant.
• Ar 6 Chwefror 2017 bydd cyd-gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Dethol Oedolion i graffu ar y drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth ar gyfer Sir Fynwy.
• Ar 16 Chwefror 2017 cynhelir cyfarfod cyffredin o'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.
• Bydd y Pwyllgor Craffu yn e-bostio'r adroddiad a'r cyflwyniad i'r Pwyllgor Dethol am y diweddariad Ysgolion 21ain Ganrif oedd i'w ystyried gan y Pwyllgor Dethol mewn cyfarfod blaenorol ond lle nad oedd cworwm.
|
||
Busnes y Cyngor a’r Cabinet - Blaengynllun. PDF 434 KB Cofnodion: Penderfynwydderbyn Blaengynllun Busnes y Cyngor a'r Cabinet a nodwyd ei gynnwys.
|
||
Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Dydd Iau 8 Rhagfyr 2016 am 2.00pm.
Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 8 Rhagfyr 2016 am 2.00pm.
|