Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Nodi penodiad Cadeirydd y Pwyllgor Dethol.
Cofnodion:
Nodwydpenodi’r Cynghorydd Sir Groucutt fel Cadeirydd.
|
2. |
Ethol Is-gadeirydd.
Cofnodion:
Penodwyd Y
Cynghorydd Sir L. Jones fel Is-gadeirydd.
|
3. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
Datganodd Y
Cynghorydd Sir L. Jones fuddiant personol,
nad yw’n rhagfarnu
yn unol
â Chod Ymddygiad yr Aelodau gan mai’i Mam
yw’r Aelod Cabinet dros
Ofal Cymdeithasol, Amddiffyn
ac Iechyd ac roedd yn bresennol yn y
cyfarfod.
Datganodd Y
Cynghorydd Sir mwnperthynas ag unrhyw gyfeiriadau M.
Powell fuddiant personol, nad
yw’n rhagfarnu yn
unol â Chod Ymddygiad yr
Aelodau mewn perthynas ag
unrhyw gyfeiriadau wnaed at
ysgolion uwchradd o fewn Sir
Fynwy, gan
ei bod yn
llywodraethwr Ysgol Gyfun
Harri’r VIII.
|
4. |
Fforwm Agored i'r Cyhoedd.
Cofnodion:
Nidoedd aelodau o’r
cyhoedd yn
bresennol.
|
5. |
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 190 KB
Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Dethol Plant a Phobl Ifanc
dyddiedig 16eg Chwefror 2017 ac fe’u llofnodwyd
gan y Cadeirydd.
|
6. |
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2017. PDF 2 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol 2017 – Gwella Canlyniadau Gwella
Bywydau.
Materion
Allweddol:
-
Mae’r adroddiad ar hyn o bryd mewn fformat
drafft.
-
Tynnu sylw at y materion yn nhermau Plant a Phobl
Ifanc a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.
-
Mae fformat yr adroddiad nawr wedi’i
ragnodi’n genedlaethol ac mae’n alinio â Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghymru.
-
Amserlennir yr adroddiad i’w gyflwyno
i’r Cyngor Llawn cyn diwedd Gorffennaf 2017 a chaiff ei
gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod yng Ngorffennaf
2017.
Craffu
Aelodau:
-
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch monitro
Amddiffyn Plant, nodwyd mai rheoli risg yw busnes gwasanaethau
cymdeithasol. Derbynnir atgyfeiriadau ac asesir y risg ar y pwynt
hwnnw. Ar gyfer plant lle mae angen
ymchwilio pellach, rheolir y risg mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r
Cyfarwyddwr naill ai’n gosod cynllun gofal a
chymorth yn ei le neu caiff y
risg ei reoli drwy benderfyniad amlasiantaethol ac ar y gofrestr
Amddiffyn Plant.
-
Mae mwy o blant yn cael eu rheoli drwy gynllun
Amddiffyn Plant.
-
Un o flaenoriaethau’r Gyfarwyddiaeth ar gyfer y flwyddyn hon
yw canolbwyntio’i wasanaethau cymorth teulu mewn dau le. Mae
un o’r rhain ar ffiniau gofal, yn
darparu opsiynau cymorth teulu dwys cyn i blant ddod i mewn
i’r system derbyn gofal. Yr agwedd arall yw canolbwyntio
adnoddau o gwmpas cymorth teulu, sydd cyn y gofrestr amddiffyn
plant.
-
Felly, mae’n well ymgysylltu gyda theuluoedd
yn gynt i reoli risg cyn cofrestru amddiffyn plant.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor
Dethol ynghylch y diffyg data mewn rhai adrannau o’r
adroddiad, hysbysodd y Prif Swyddog y Pwyllgor fod yr adroddiad yn
dal mewn fformat drafft a diben dwyn yr adroddiad i’r
Pwyllgor Dethol yn y cyfnod hwn yw ymgorffori unrhyw sylwadau a
allai fod gan y Pwyllgor Dethol fel bod y fersiwn derfynol yn
adlewyrchu’r sylwadau hynny a wnaed.
-
Nodwyd bod adroddiad blynyddol yn ogystal ynghylch
cwynion yn y Gwasanaethau a ddaw o flaen y Pwyllgor
Dethol.
-
Parthed fformat yr adroddiad, mae’r Ddeddf
rydym yn glynu ati yng Nghymru, a ddaeth i fod o Ebrill 2017, yn
cyfeirio at bobl yn hytrach nag oedolion neu blant. Mae’r
adroddiad, felly, yn canoli ar bobl, yn hytrach nag ar blant neu
bobl ifanc yn unig.
-
Parthed cwynion ynghylch materion Amddiffyn Plant,
mae'r Gyfarwyddiaeth yn dysgu fel gwasanaeth ac yn gweithio gyda
staff i’w cefnogi i ddatrys mwy o faterion yng Nghyfnod 1
o’r weithdrefn gwyno a chwtogi nifer y cwynion sy’n
mynd ymlaen i gyfnod 2. Fodd bynnag, os gwneir cyhuddiad sydd angen
ymchwiliad, cyflawnir hyn mewn ffordd amlasiantaethol gyda Heddlu
Gwent. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn effeithiol mewn datrys a chau
lawr y math hwn o ymchwiliad yn gyflym. Lle bu llai o gefnogaeth i
deuluoedd yw pan fydd y
Gyfarwyddiaeth wedi mynd drwy broses o Amddiffyn Plant a’r plant
heb fod bellach yn byw gyda’u teuluoedd, mae proses sylweddol
o alaru y mae’n rhaid i’r teulu hwnnw fynd drwyddi a
phrin iawn yw’r gwasanaethau a ddarperir yn y cyfnod hwn,
Felly, gall hyn arwain at gwynion yn cael ...
view the full Cofnodion text for item 6.
|
7. |
Polisi Diogelu Corfforaethol. PDF 93 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyd-destun:
Hysbysu’rPwyllgor Dethol ynghylch
cyflwyno’r PolisiAmddiffyn Corfforaethol newydd.
MaterionAllweddol:
-
Mae amddiffyn plant
ac oedolion
sydd mewn
perygl yn
flaenoriaeth o’r radd
uchaf gan y
Cyngor.
-
CydnabyddirAmddiffyn, dan
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, fel cyfrifoldeb
pawb a gwnaed cynnydd
sylweddol dros y pum mlynedd ddiwethaf i
wneud diwylliant, gwybodaeth
ac arfer amddiffyn
yn rhan
systematig o’n gwead.
-
Mae’rholl staff, sy’n
cael eu
talu neu
heb gael eu
talu, a Chynghorwyr yn
rhannu cyfrifoldeb yn
gorfforaethol ac yn unigol i
sicrhau y caiff plant ac
oedolion sydd mewn perygl eu trin â pharch
a’u hamddiffyn rhag
niwed.
-
Tramae
polisi amddiffyn yn
ei le gan y
Cyngor mae
e’n canolbwyntio’n sylweddol ar
leoliadau addysg a gwasanaethau
plant a theuluoedd eraill. Mae amddiffyn,
felly, wedi’i wreiddio’n gadarn
mewn rhai
Cyfarwyddiaethau a meysydd gwasanaeth.
Fodd bynnag, mae amrywiol
lefelau o ddealltwriaeth parthed
disgwyliadau mewn rhannau
eraill o’r sefydliad.
-
Bydd y polisi hwn yn fecanwaith i werthuso
dealltwriaeth, systemau a hyfforddiant
drwy’r Cyngor cyfan a
sicrhau bod amddiffyn â throedle cadarn ac
yn greiddiol i waith y
Cyngor.
CraffuAelodau:
-
Nodwyd
y dylai’r
holl Aelodau gael eu
hyfforddi i o leiaf Lefel 1
mewn amddiffyn.
-
Bydd y mecanweithiau ynghlwm wrth y
polisi yn
helpu’r awdurdod i lynu at y
PolisiAmddiffyn Corfforaethol. Mae’r Polisi’n cyfeirio
at y broses hunanwerthusiad y
bydd yn
ofynnol i bob maes ei chyflawni.
-
Wrthymgymryd â’r hunan-arfarniadau, mae’n galluogi
meysydd gwasanaeth unigol
a’u timoedd rheoli
adrannol i werthuso lle
maent ac i osod cynlluniau
gweithredu yn eu lle i fynd i’r afael
â’r meysydd lle
mae
angen gwelliant. Disgwylir
i’r hunan-arfarniadau hyn
gael
eu cwblhau
31ain Gorffennaf
2017.
-
Parthedhyfforddiant ar
gyfer Aelodau, cynhelir
sesiwn yng
Ngorffennaf 2017. Cedwir cofrestr o’r
Aelodau nad ydynt yn gallu mynychu’r
sesiwn gyda’r bwriad o
gynnal sesiwn arall
er mwyn
sicrhau bod yr holl Aelodau’n derbyn
hyfforddiant.
-
Sefydlircynllun hyfforddiant i
sicrhau y gallai staff dderbyn
hyfforddiant priodol, y mwyafrif
ohonynt yn
cael eu
cynnal yn
eu lleoliadau gwaith.
-
Mae’nofynnol i holl
lywodraethwyr Sir Fynwy ymgymryd
â’r hyfforddiant gaiff
ei fonitro
drwy gyfrwng proses hunanwerthuso ysgolion
unigol.
-
Darperirhyfforddiant gan y
Byrddau Amddiffyn rhanbarthol.
-
Mynegwydpryder nad oedd
ysgolion yn
cael eu
darparu â’r wybodaeth gyflawn
mewn perthynas â’r Strategaeth Ataliol ac
felly heb gael eu gwneud yn ymwybodol o’i
phwysigrwydd. Nodwyd bod ysgolion
wedi bod drwy’r hyfforddiant ac y dylent, felly, fod
yn ymwybodol o’r
strategaeth hon.
Casgliad
y Pwyllgor
- Dymafaes lle
mae’r Cyngor wedi
gweithredu’n briodol wedi i
wendidau gael eu dynodi mewn perfformiad
yn flaenorol.
-
Ar ran y Pwyllgor Dethol, diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion
baratoi a chyflwyno’r adroddiad.
|
|
8. |
Diweddariad ar drefniadau Diogelu - Cynllun Kerbcraft. PDF 162 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyd-destun:
Cynei gyflwyno i’r
Cabinet ar 5ed Gorffennaf 2017, darparu Aelodau’r
Pwyllgor Dethol Plant a Phobl
Ifanc â diweddariad ar y
cynllun
gweithredu a gymeradwywyd gan y
Cyngor ar
20fed Mawrth 2017 (atodiad 2 o’r
adroddiad yn dwyn y teitl ‘Adroddiad
Swyddfa Archwiliad Cymru
ar amddiffyn o fewn
cynllun kerbcraft yng
Nghyngor Sir Fynwy’).
MaterionAllweddol:
-
Yndilyn adolygiad gan
SwyddfaArchwiliad Cymru (SAC)
o ddarpariaeth hyfforddiant kerbcraftgan staff Cyngor Sir Fynwy
ar ran Llywodraeth Cymru,
hysbyswyd y Cyngor o’r
cynllun gweithredu ar
20fed Mawrth 2017.
-
Mae Atodiad 1 o’r
adroddiad yn atgynhyrchu’r
cynllun gweithredu ond
mewn llythrennau italaidd
dan benawdau perthnasol
darperir diweddariad.
-
Mae un o’r camau
gweithredu’n gofyn am baratoi a
gweithredu gweithdrefnau newydd
ar gyfer
darparu hyfforddiant kerbcraft
ac y dylid hysbysu’r Cabinet o’r model gweithredu yn y
dyfodol, Mae cyfle gan y
PwyllgorDethol Plant a Phobl
Ifanc adolygu’r
adroddiad cyn ei fod yn cael ei gyflwyno i’r
Cabinet.
-
Ynystod Mawrth ac Ebrill 2017,
adolygodd Swyddogion y trefniadau
gwaith blaenorol a chyfredol a
datblygodd weithdrefn newydd
ar gyfer
darparu hyfforddiant kerbcraft.
-
Darperir y gweithdrefnau
newydd polisi a gwaith
yn atodiadau 2, 3 a 4 o’r adroddiad.
-
Gwendidmawr y tynnwyd sylw
ato gan SAC
oedd rheoli
a recordio gwirfoddolwyr a gefnogodd Gyngor Sir
Fynwy wrth
hyfforddi plant ymhob ysgol,
-
Ersi’r SAC fynegi pryder
dros reoli
gwirfoddolwyr yn Awst 2016,
ni
ddefnyddiwyd un gwirfoddolwr a darparwyd pob
hyfforddiant kerbcraft gan
hyfforddwyr kerbcraft yng
Nghyngor Sir Fynwy, yn achlysurol gyda
chymorth gan staff cymorth
ysgol.
-
Mae’rweithdrefn
newydd yn
cyfyngu ar
y defnydd o wirfoddolwyr i chwech
ar unrhyw
un adeg
felly fe ddaw gwirio a
chofnodi gwybodaeth amddiffyn
mewn perthynas â gwirfoddolwyr yn
llawer mwy
syml (cyn
hynny roedd
angen cofnodion hyd at 80 o
wirfoddolwyr).
-
Mae’rnewid hwn mewn gweithdrefn, ynghyd
â chyfarwyddiadau clir ar y modd mae’r
cynllun yn
mynd i gael
ei gyflenwi, yn
cynnig mwy
o hyder bod amddiffyn yn
cael ei
reoli yn y
ddarpariaeth hon o wasanaeth .
CraffuAelodau:
-
Mewnymateb i gwestiwn gan
Aelod o’r Pwyllgor
Dethol, nodwyd ar y foment, y
gallai’r Awdurdod straffaglu
os caiff y
model newydd ei dderbyn.
Fodd bynnag, byddai’r
Awdurdod yn
gallu defnyddio’r chwe
gwirfoddolwr ar draws yr
ardal ond
gyda mwy o
adnoddau o ffynonellau mewnol;
dylai hyn
fod yn
gyraeddadwy. Gobeithir y gallai’r gwirfoddolwyr craidd
ddarparu’u gwasanaethau ar
fwy o achlysuron, h.y.
llai o wirfoddolwyr ond
yn gallu
darparu mwy
o’u hamser yn
hwy.
-
Arbediramser sylweddol
wrth gwtogi’r rhaglen
o 12 i 9 wythnos. Mae Swyddogion wedi
hysbysebu drwy’r rhwydwaith
wirfoddoli ac mae nifer o bobl
wedi mynegi
diddordeb i ddod yn un o’r chwe
gwirfoddolwr craidd.
-
Byddmonitro’r Cynllun Kerbcraft
yn dangos
pa fath o gynnydd a fu.
Mae’r wybodaeth a adroddir yn
ôl ar
hyn o bryd
i Lywodraeth Cymru yn gyfyngedig. Fodd
bynnag ...
view the full Cofnodion text for item 8.
|
9. |
Datganiad All-dro 2016/17 Monitro Refeniw a Chyfalaf. PDF 805 KB
Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyngwybodaeth ar sefyllfa
refeniw alldro’r Awdurdod
ar ddiwedd
cyfnod 4 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol
alldro ar
gyfer blwyddyn 2016/17.
Argymhellion
a gynigir
i’r Cabinet:
-
Bod Aelodau’n
ystyried tanwariant refeniw net
alldro o £884,000, gwelliant o £805,000 ar ragfynegiadau
alldro chwarter 3.
-
Bod Aelodau’n
ystyried gwariant cyfalaf
alldro o £40.03 miliwn yn erbyn cyllideb
ddiwygiedig o 40.98 miliwn, wedi
llithriad arfaethedig o £17.5 miliwn, gan
arwain at danwariant net o £951,000.
-
Ystyried
a chymeradwyo
llithriad cyfalaf a argymhellwyd
o £17.5 miliwn, gan dalu sylw i’r
cynlluniau hynny a ddisgrifir
ym mharagraff 3.3.6 o’r adroddiad
lle gwnaed
cais am lithriad gan y
rheolwr gwasanaeth ond
nad yw’n cael
ei argymell
i lithro (£198,000).
-
Ystyried
y defnydd o gronfeydd wrth
gefn a gynigir ym mharagraff 3.4.1 o’r adroddiad.
-
Cefnogirhannu’r tanwariant cyffredinol
i ategu
lefelau’r cronfeydd wrth
gefn fel y
disgrifir isod, h.y.:
CronfaBuddsoddi â Blaenoriaeth
£570,000
Dileu swydd
& Chronfa Bensiwn wrth
Gefn
£114,000
Cronfa wrth
Gefn Trawsnewid TG
£100,000
Cronfa Wrth
Gefn Cynhyrchu Derbyniadau
Cyfalaf £100,000
Cyfanswm
£884,000
-
Mae Aelodau’n
nodi y bydd
y lefel isel o gronfeydd
wrth gefn a
glustnodir yn lleihau’n
sylweddol yr hyblygrwydd
sydd gan y
Cyngor I gwrdd â heriau
adnoddau prin yn y dyfodol.
-
Mae Aelodau’n
nodi’r gostyngiad arwyddocaol
yng ngweddill cyffredinol
cyllideb ysgolion ar
ddiwedd 2016/17 ac yn cefnogi’r gwaith
parhaus gydag ysgolion i
sicrhau y cyfarfyddir â gofynion Cynllun
Ariannu Tecach y Cyngor ac y
bydd gweddill cyffredinol
ysgolion yn
dal yn gadarnhaol yn
2017/18.
CraffuAelodau:
-
Mae Ysgol Gyfun Cas-gwent
wedi gwneud
gwelliannau sylweddol wrth
gwtogi’i diffyg yn y
gyllideb.
-
Bu lleihad sylweddol yng
nghronfeydd wrth gefn cyllideb ysgolion
ar draws y Sir yn y flwyddyn ariannol
hon.
-
Nodwydmai cyfrifoldeb
llywodraethwyr ysgol oedd gosod cyllideb
eu hysgolion. Cydnabuwyd
bod costau sefydlog o fewn
ysgolion. Fodd bynnag,
lle mae meysydd
lle gall ysgolion wneud
arbedion, mae Swyddogion
yn gweithio’n glos
gydag ysgolion i sicrhau bod
yr arbedion
yn cael
eu defnyddio.
-
Mae nifer o brosiectau ar
hyn o bryd
o fewn ysgolion yn
edrych ar
ffyrdd lle
gallai’r ysgolion fod
yn gallu
arbed arian.
-
Mae Swyddogion
yn gweithio’n glos
gyda’r CLlLC ac maent
yn edrych
ar fodel y
Rheolwr Busnes gyda’r
bwriad o dderbyn peth
cyllid.
-
Mynegwydpryder bod rhai
cyfrifoldebau ychwanegol yn
mynd i mewn
i ysgolion ond nid oedd y cyllid
ar gyfer y
cyfrifoldebau ychwanegol hyn
yn cyrraedd. Dywedodd y
Rheolwr Cyllid bod yn
rhaid iddi
edrych i mewn i’r mater
hwn sy’n digwydd
ar draws yr
awdurdod ac nid dim ond
yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.
-
Mewnymateb i gwestiwn ynghylch
Cyfnod 3 o Adolygiad Anghenion
Dysgu Ychwanegol, mewn
perthynas ag
Ysgol Mounton House, nodwyd i gynllun
adfer dair
blynedd gael ei ganiatáu i’r ysgol.
Parthed Ysgol Gynradd Deri
View, mae
canolfan Adnoddau Anghenion
Arbennig yn
dal yno. Fodd bynnag,
gwnaed yr
arbedion oedd eu hangen drwy
gwtogi nifer y staff ...
view the full Cofnodion text for item 9.
|
10. |
Rhestr camau gweithredu yn deillio o gyfarfod blaenorol. PDF 9 KB
Cofnodion:
Derbyniasom a
nodwyd y rhestr o gamau
gweithredu a
oedd wedi’u cwblhau,
yn codi o
gyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a
Phobl Ifanc
ar 16eg Chwefror 2017.
Wrth wneud
hynny, nodwyd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rCadeirydd wedi
cwrdd â’r Prif
Swyddog ar
gyfer Plant a Phobl Ifanc a
gyda Phrif
Swyddog Iechyd a Gofal
Cymdeithasol i drafod materion
i’w craffu yn y
dyfodol.
·
Byddtrafodaeth yn digwydd ar ddiwedd cyfarfod y Pwyllgor
Dethol yng
Ngorffennaf 2017 mewn perthynas â
nodi blaenoriaethau’r Pwyllgor a llunio’r blaengynllun gwaith.
|
11. |
Blaenraglen Waith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. PDF 163 KB
Cofnodion:
Derbyniasomflaengynllun gwaith y Pwyllgor
Dethol. Wrth wneud hynny, nodwyd y
pwyntiau canlynol:
Gorffennaf
2017 Cyfarfod y
Pwyllgor Dethol:
-
Adroddiadgan y Rheolwr
Craffu ynghylch dewisiadau
cyfethol i’r Pwyllgor
Dethol.
-
Trafodaethar y Rhaglen
Waith.
Medi 2017 Cyfarfod y Pwyllgor Dethol:
-
Trafodaethgydag Ymgysylltu i
Newid (E2C – cyngor ieuenctid y
Cyngor).
|
12. |
Blaenraglen Gwaith y Cabinet a'r Cyngor. PDF 366 KB
Cofnodion:
DerbyniasomFlaenraglen Waith y Cyngor
a’r Cabinet gan nodi’i
chynnwys.
Hysbysodd y
Rheolwr Craffu’r pwyllgor
Dethol mai
cyfrifoldeb y Swyddogion yw
awgrymu eitemau i’w
gosod ymlaen i’r
Cabinet ac yna cyfrifoldeb y Gwasanaethau Democrataidd yw
poblogi’r dyddiadur digwyddiadau.
Rydymar hyn o
bryd ar
ddechrau gweinyddiaeth newydd a
thynnwyd sylw Swyddogion at
yr angen i
boblogi’r dyddiadur digwyddiadau
yn y dyfodol.
|
13. |
Trafodaeth ynglyn â'r amserau cyfarfodydd Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn y dyfodol.
Cofnodion:
Penderfynasombarhau i gwrdd am 10.00am, fel
yr amlinellir yn
nyddiadur y Cyngor.
|