Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2016 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd P.S. Farley ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau parthed unrhyw fater yn cyfeirio at Ysgol Cas-gwent ac Ysgol Gynradd The Dell, gan ei fod yn llywodraethwr y ddwy ysgol.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 236 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 7 Gorffennaf 2016 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd gyda'r newidiadau dilynol:

 

           Roedd y Cynghorydd Sir M Hickman wedi cofrestru ei ymddiheuriadau am y cyfarfod ond nid yw hyn yn y cofnodion.

 

           Cofnod 4.1, Casgliad Pwyllgor - Newid y frawddeg gyntaf fel sy'n dilyn:

 

-           Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am ddod â'r adroddiad i'r Pwyllgor a gwerthfawrogai fod hyn yn ddechrau taith hir.

 

           Cofnod 4.2, Casgliad y Pwyllgor - Newid yr ail frawddeg fel sy'n dilyn:

 

-           Roedd hefyd yn cynyddu'r angen i ddatblygu gweithlu hyderus a chymwys, a gefnogir yn llawn gan y Pwyllgor.

 

           Cofnod 4.3, Is-bennawd Craffu Aelodau:

 

-           Paragraff cyntaf: Dileu 'ffisiolegydd' a rhoi 'seicolegydd'.

 

-           Chweched paragraff: Dileu 'Mountain' a rhoi 'Mounton'.

 

 

3.

Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 Datganiad Darogan Alldro Cyfnod 1. pdf icon PDF 703 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Rhoi gwybodaeth ar ragolwg sefyllfa alldro refeniw'r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 1 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Argymhellion a gynigir i'r Cabinet:

 

(i)            Bod y Cabinet yn nodi maint y rhagolwg o orwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.

 

(ii)           Bod y Cabinet yn gofyn i Brif Swyddogion  roi gwybodaeth ar sut y deuir â’r sefyllfa gorwariant yn ôl o fewn y gyllideb, yn cynnwys cynlluniau amgen i sicrhau'r £301,000 o arbedion gorfodol yr adroddwyd na fedrid eu cyflawni yn yr adroddiad monitro nesaf.

 

(iii)         Bod y Cabinet yn gofyn i Gyfarwyddwyr adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd gwneud iawn sydd angen eu hadrodd cyn adroddiadau mis 6.

 

(iv)         Bod y Cabinet yn gwerthfawrogi maint y defnydd a ragwelir o gronfeydd cadw ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa diffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

(v)           Bod y Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf sydd ond yn dangos amrywiad bach i'r gyllideb fel canlyniad i gymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.

 

(vi)         Bod y Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn a ragwelir a'r potensial i hyn gael pwysau sylweddol ar refeniw os oes oedi gyda derbyniadau ac y gall fod angen benthyca dros dro.

Craffuaelodau:

 

·        Mewn ymateb i faterion a godwyd yng nghyswllt cyllideb ddiffyg 13 o ysgolion Sir Fynwy, nodwyd bod gan 6 o'r 13 ysgol gyllideb ddiffyg o lai na £20,000. Ystyriwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar wahân i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol yn amlinellu'r ysgolion â chyllideb ddiffyg a manylion eu cynlluniau adferiad.

 

·        Mae angen cynyddu'r gyllideb Diogelu Plant a Plant sy'n Derbyn Gofal gan ei bod yn tueddu i fod mewn diffyg parhaus oherwydd natur amrywiol a chyfnewidiol y gwasanaeth. Fodd bynnag, nodwyd fod y gwasanaeth yn dal i gael ei ddarparu'n effeithiol er bod y gyllideb wedi gostwng y gwasanaeth. Bu'r cynllun comisiynu yn ei le ers mis Gorffennaf 206 ac mae angen amser i ymsefydlu. Bydd gennym maes o law well dealltwriaeth o'r cyllid sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Pwyllgor Dethol am gyllidebau ysgolion a'u cynlluniau adfer, nodwyd fod gweithio partneriaeth rhwng adrannau yn opsiwn ar gyfer dynodi cyllid. Sefydlir cynllun adferiad tair blynedd ar gyfer ysgol gyda chyllideb ddiffyg. Edrychir ar ostwng staff asiantaeth. Hefyd, mae cynllun gwella llys yn ei le ar gyfer dynodi ffyrdd o weithio'n fwy effeithol gyda llysoedd a dynodi ffyrdd o ostwng costau cyfreithiol.

 

·        Nodwyd fod rhai athrawon cyflenwi ar y gyflogres a'n bod yn annog ysgolion i ddefnyddio'r cyflenwr a ffafrir gan yr Awdurdod.

 

·        Gofynnwyd i'r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid os bu effaith niweidiol ar y Gwasanaeth Ieuenctid oherwydd bod staff wedi ymwneud â gwaith cynhyrchu incwm y gofynnodd yr Awdurdod amdano. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid y cafodd y baich ariannol ei godi am y flwyddyn ariannol hon. Mae'r gwasanaeth mewn cynllun adfer  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Blynyddol Cynnig Ieuenctid Integredig Sir Fynwy. pdf icon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

           

Derbyniwydyr Adroddiad Blynyddol ar gynnydd a'r hyn a gyflawnodd gr?p Cynnig Integredig i Ieuenctid Sir Fynwy.

 

MaterionAllweddol:

 

·         Cadwydmonitro a chraffu chwarterol ar raglenni gwaith is-gr?p gan sicrhau y caiff dangosyddion perfformiad y Cynllun Integredig Sengl eu cyflawni.

 

·         Mae gan y Cynnig Integredig i Ieuenctid strwythurau llywodraethiant ac adrodd clir drwy Fwrdd Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

·         Mae gan y Cynnig Integredig i Ieuenctid brotocolau ar ddiogelu ac mae ganddo gronfa ddata o holl aelodau'r gr?p ar gyfer cliriad gan y DBS, hyfforddiant a pholisïau a weithredir, ac mae'n gyfredol ac yn ddilys.

 

·         Aelodaeth o'r Cynnig Integredig i Ieuenctid wedi ei gynnal a thyfu i ysgogi momentwm. Mae cynrychiolaeth dda o bob partner ar y gr?p llawn a'r is-grwpiau sy'n galluogi rhannu'r gwaith a gweithredu gweledigaeth y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a blaenoriaethau'r Cynllun Integredig Sengl.

 

·         Mae gwaith parhaus y gr?p Cynnig Integredig i Ieuenctid wedi arwain at ostwng dyblygu a gwella darpariaeth gwasanaethau gyda ffocws i bobl ifanc.

 

·         Parhau i ddatblygu 'prosiectau cymunedol' mewn ardaloedd lle mae prosiectau arbenigol wedi'u targedu yn cefnogi pobl ifanc, yn arbennig ar faterion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweithgaredd troseddol a bwlio.

 

·         Parhau i gyfrannu tuag at gynnydd cyrhaeddiad a phresenoldeb rhai yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 ar draws Sir Fynwy a pharhau i ddarparu gwasanaethau sy'n gostwng y ffigurau heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth - sy'n 1.7% ar hyn o bryd.

 

·         Gyda'i gilydd, mae'r holl wasanaethau cefnogaeth ieuenctid, fel rhan o'r Cynnig Integredig i Ieuenctid, wedi gweithio gyda 6907 o bobl ifanc unigol rhwng 11-25 oed yn 2015/16 (39.9% o'r boblogaeth 11-25).

 

·         Mae'rCynnig wedi casglu gwybodaeth gan bartneriaid i'w bwydo i'r Cynllun Integredig Sengl i roi tystiolaeth glir ar y canlyniadau a gyflawnwyd.

 

·         Mae'rPrif Swyddog a hefyd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn mynychu ac yn derbyn gwybodaeth bob chwarter ar waith y Cynnig Integredig i Ieuenctid.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid yr wybodaeth ddilynol i'r Pwyllgor Dethol parthed deilliannau cadarnhaol y Gwasanaeth Ieuenctid dros y flwyddyn flaenorol:

 

·         Parhau i ddatblygu a chydweithredu i sicrhau y cedwir y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc

 

·         Cynydduprosiectau cymunedol drwy weithio partneriaeth.

 

·         Cynnaldigwyddiad ymwybyddiaeth diogelwch ffordd yn yr haf yn y Fenni gyda nifer dda o'r cyhoedd a chyrff gwasanaethau cyhoeddus yn bresennol.

 

·         Cynnal digwyddiad gwirfoddoli aml-asiantaeth yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent yn Ebrill 2016 gyda 31 o sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fel canlyniad, mynegodd 97 o wirfoddolwyr ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc.

 

·         Parhau i ddarparu gwasanaethau arbenigol i'r bobl ifanc fwyaf bregus yn Sir Fynwy.

 

·         Mae'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn gynllun ar y cyd rhwng Gwasanaethau Hamdden, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid a'r Gwasanaeth Ieuenctid. Cyflwynwyd hyn yn y pedair ysgol gyfun ac Ysgol T? Mounton dros y 12 mis blaenorol. Daeth y rhaglen hon i ben erbyn hyn. Mae'r prosiect ar gael ar gyfer ysgolion os dymunant hynny ond bydd yn rhaid iddynt dalu am y rhaglen.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Derbyniwydblaenraglen waith y  Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

           Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ei bod hi, Is-gadeirydd y Pwyllgor Dethol, Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad, y Rheolwr Cyllid, Pennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwella a'r Aelod Cabinet wedi cwrdd gyda phennaeth Ysgol T? Mounton parthed pryderon a godwyd yn flaenorol. Roedd y Pennaeth wedi mynegi pryderon am y toriad yng nghyllideb yr ysgol. Bu'n gyfarfod cadarnhaol iawn a dywedodd y Pennaeth ei bod yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth gan yr awdurdod lleol. Cafodd mesurau eu rhoi ar waith sy'n helpu'r ysgol i symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol. Trefnwyd cyllideb yr ysgol i weddu'n well i anghenion yr ysgol. Fodd bynnag, nodwyd fod adolygiad o'r ysgol yn dal i fynd rhagddo a phan gaiff ei orffen, cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Dethol ar gyfer craffu.

 

           Dywedodd y Rheolwr Cyllid wrth y Pwyllgor Dethol fod cynllun adfer Ysgol T? Mounton  am bedair blynedd ac na fydd yr ysgol yn cynyddu’r diffyg eleni. Mae'r Pennaeth yn gweithio gyda swyddogion perthnasol y Cyngor Sir ar nifer o faterion yn yr ysgol. Rhagwelir y bydd yr ysgol yn gwneud arbediad o £50,000 ar gyfer cyllideb 2018/19. Deuir â'r cynllun adfer yn ôl i'r Pwyllgor Dethol pan fydd wedi ei orffen.

 

           Dywedodd Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad bod swyddogion yn dal i fod yn ymchwilio rhai meysydd yng nghyswllt yr adolygiad ehangach. Felly, cyflwynir gwybodaeth am yr adolygiad i'r Pwyllgor Dethol maes o law.

 

           Cyflwynir Adroddiad Prif Swyddog y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc i gyfarfod arbennig ar y cyd o'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a Phwyllgor Dethol Oedolion ar 22 Tachwedd 2016, i ddechrau am 10.00am.

 

           Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - Estynnwyd gwahoddiad i aelodau'r Pwyllgor Dethol i fynychu ymweliad i'r Gwasanaethau Carchar gydag Aelodau Pwyllgor Dethol Oedolion cyn derbyn yr eitem yma yn y cyd-gyfarfod arbennig o'r Pwyllgorau Dethol ar 22 Tachwedd 2016.

 

           Cyfarfod Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc - 8 Rhagfyr 2016. Ychydig o eitemau sydd ar yr agenda ar hyn o bryd. Bydd y Rheolwr Craffu yn ymchwilio os byddai'n ymarferol symud rhai o'r eitemau agenda o gyfarfod Pwyllgor Dethol 3 Tachwedd 2016 i gyfarfod mis Rhagfyr.

 

           Mae'n annhebyg y bydd angen trefnu mwy o gyfarfodydd arbennig eleni.

 

           Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ei bod hi a'r Pennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwella wedi derbyn cyflwyniad ar y newid mewn cymwysterau. Felly, ystyriwyd fod y Pwyllgor Dethol angen arbenigydd ar y mater i ddod i gyfarfod o'r Pwyllgor Dethol yn y dyfodol i roi gwybodaeth i Aelodau ar y newidiadau arfaethedig.

 

 

 

 

 

6.

Busnes Cyngor a Chabinet – Blaengynllun. pdf icon PDF 419 KB

Cofnodion:

Penderfynwydderbyn Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a'r Cabinet a nodi ei gynnwys.

 

Wrthwneud hynny, nodwyd fod rhaglen waith y Cabinet ar gyfer Mawrth 2016 yn cyfeirio at y cynnig i gau Ysgol Gynradd Deri View. Dylid diwygio'r geiriad fel sy'n dilyn: 

 

           Adolygu'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Deri View.

 

7.

Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf – 3 Tachwedd 2016 am 10.00am.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 3 Tachwedd 2016 am 10.00am.