Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Iau, 19eg Mai, 2016 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

I nodi apwyntiad o Gadeirydd Pwyllgor Craffu Plant a phobl ifanc.

Cofnodion:

Nodwyd penodiad y Cynghorydd Sir P. Jones fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.

 

2.

Apwyntiad o Is- Gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir P. Farley fel Is-gadeirydd Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy fuddiant personol, manteisiol yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau parthed cofnod 5 – Taclo Tlodi yn Sir Fynwy a chofnod 6 -  Craffu Rhaglenni Cymorth i Deuluoedd.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 17eg Mawrth 2016 a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd.

 

5.

Taclo tlodi yn Sir Fynwy. pdf icon PDF 296 KB

Adults Select Committee Members are invited to attend the Select Committee meeting to scrutinise this agenda item, as it affects both the Children and Young People Select Committee and the Adults Select Committee.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Darparu trosolwg o Raglen o Fwriad Taclo Tlodi yn Sir Fynwy.

 

·         Tynnu sylw at y gweithgarwch cyfredol sy’n digwydd ar draws Sir Fynwy sy’n cyfrannu at daclo tlodi.

 

·         Darparu trosolwg o’r agwedd gyfredol at daclo tlodi, sy’n cyflinio i Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy. 

 

Materion Allweddol:

 

Trosolwg o Raglen o Fwriad Taclo Tlodi yn Sir Fynwy.

 

 

Mae tlodi’n arwain at ganlyniadau addysgol ac iechyd gwaeth ar gyfer unigolion, yn lleihau cyfleoedd-bywyd ac yn atal pobl rhag cyflawni’u potensial. Mae tlodi hefyd yn gosod costau aruthrol ar y gymdeithas a galw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus. Yn Sir Fynwy mae tlodi’n aml yn cael ei guddio neu mae mewn pocedi bychain. Y ffocws yw dynodi’r rheiny gaiff eu heffeithio gan dlodi a darparu ystod gynhwysfawr a chlir o wasanaethau sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas ac ymhél ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. 

 

Bwriedir i hyn gael ei wneud drwy ganolbwyntio ar y canlynol:

 

§  Atal Tlodi drwy roi i bobl y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Torri’r cyswllt rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol, tangyflawni addysgiadol a chyfleoedd andwyol bywyd.  

 

§  Helpu pobl i wella’u sgiliau, cyfoethogi perthnasedd eu cymwysterau a symud  rhwystrau i gyflogaeth.

 

§  Lleihau effaith tlodi drwy ddarparu rhaglen glir o gefnogaeth wedi’i thargedu tuag at y rheiny sydd dan anfantais tlodi.

 

Edrychir ar Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy 2013-17 fel prif gyfrwng mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thaclo tlodi. Wrth weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned, darparwyr gwasanaeth a chyflogwyr, cydnabyddir bod taclo tlodi yn thema drawstoriadol lle mae cydweithredu’n hanfodol wrth gyflawni’r Cynllun i sicrhau bod: Neb yn cael ei adael ar ôl, mae Pobl yn Hyderus, yn Alluog ac yn Cymryd rhan ac mae’n Sir yn Ffynnu. 

 

Cydnabu’r Asesiad o Anghenion Strategol, a gyflawnwyd i hwyluso cynhyrchu’r Cynllun Integredig Sengl, y gwahaniaeth mewn cyfoeth ar draws y sir ac mewn ffactorau allweddol megis disgwyliad bywyd.  Mae’n amlwg feysydd y gellir eu dynodi yn ein trefi lle mae pobl dan anfantais ac mae hyn yn creu synnwyr o ‘bocedi o amddifadedd’.

 

Nodweddir natur tlodi yn Sir Fynwy hefyd gan gyfansoddiad gwledig y sir. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif ei bod yn costio 10-20% yn fwy i gyrraedd safon byw sylfaenol ddigonol mewn ardaloedd gwledig na threfol, yn bennaf oherwydd costau cynyddol cludiant a gwresogi. 

 

Er mwyn taclo tlodi fe’n gyrrir gan uchelgais i alinio mentrau cenedlaethol a lleol i gyflawni ystod eglur o wasanaethau sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da ac sy’n hygyrch. 

 

Mae nifer o bartneriaethau’r BGC wedi’u dynodi sy’n cyflenwi mewn tri maes: 

§  Atal Tlodi: Fe’i cefnogir gan raglen Dechrau’n Deg, Rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf, Tîm o Amgylch y Teulu,  Partneriaeth Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chynnig Ieuenctid Integredig.

 

§  Helpu pobl i mewn i waith: Mae wedi cefnogiGr?p Cyflogadwyedd 16+, Cynnig Ieuenctid Integredig, a Rhaglen   Teuluoedd yn Gyntaf.

 

§  Lleihau Effaith Tlodi: Fe’i cefnogir gan Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol, Economaidd a Digidol, Dechrau’n Deg, Rhaglen a Chynnig Ieuenctid Integredig. 

 

Grwpiau Partneriaeth,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Archwiliad o Raglenni Cymorth Teuluol. pdf icon PDF 411 KB

Adults Select Committee Members are invited to attend the Select Committee meeting to scrutinise this agenda item, as it affects both the Children and Young People Select Committee and the Adults Select Committee.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

·         Darparu trosolwg o ddarpariaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir Fynwy a deilliannau perfformiad perthnasol.

 

·         Canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi teuluoedd mewn tlodi i fynd i’r afael â’u hanghenion.

 

·         Teuluoedd yn Gyntaf yw un o raglenni allweddol gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, wedi’i chysylltu’n glos  â rhaglenni Dechrau’n Deg a Chefnogi Pobl. Mae’i ffocws ar ymyrryd yn gynnar ac mae’n dibynnu ar weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i ymgysylltu â theuluoedd i atal esgyn i argyfwng neu’r angen am ymyrraeth gan y gwasanaethau  cymdeithasol. Yn Sir Fynwy, mae gennym Dîm o Amgylch y Teulu ac ystod o brosiectau a gomisiynwyd sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cymysgedd briodol o ddarpariaeth i gefnogi teuluoedd i fynd i’r afael â’u hanghenion.

 

·         Mae Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) yn ddull o weithredu drwy Gymru gyfan a gyflenwir drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Nod TAT yw cefnogi teuluoedd yn Sir Fynwy i ostwng y lefel o angen y gallent fod yn ei phrofi: gwneir hyn drwy deilwra cefnogaeth gyda thîm o bobl broffesiynol a all ddarparu gwasanaethau i gefnogi teulu. Mae proses TAT yn galluogi teuluoedd i weithio gyda’i gilydd i gyflenwi gwasanaethau a adeiledir o gwmpas anghenion teulu, a nod TAT yw gweithio gyda theuluoedd i ddynodi’r gefnogaeth gywir gan y bobl gywir ar yr amser cywir. 

 

Deilliannau Teuluoedd yn Gyntaf fel yr amlinellwyd hwy gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16:

 

·                Mae pobl mewn teuluoedd incwm isel yn elwa, ac yn gwneud cynnydd o fewn cyflogaeth.

·                Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cyflawni’u potensial.

·                Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn iach ac yn mwynhau lles.

·                Mae teuluoedd yn hyderus, yn ddiddig, yn wydn ac yn ddiogel.

Mae prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf yn cyfrannu at Gynllun Integredig Sengl Sir Fynwy: 

 

·                Thema 2: Mae pobl yn Hyderus, yn Alluog ac yn Cymryd Rhan.

·       Deilliant 5: Cefnogir Teuluoedd. 

·                Mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at daclo tlodi yn Sir Fynwy.

 

 

 

 

 

Materion Allweddol:

 

Trosolwg o’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf

 

Yn Rhagfyr 2015 darparodd Llywodraeth Cymru hysbysiad mai’r gyllideb ddangosol ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn 2016-17 yw £651,179, sef gostyngiad o £86,081 o 2015-16.  Mae hyn yn cynnwys swm a glustnodir o £50,937 ar gyfer cymorth anabledd.

 

Er mwyn rheoli’r gostyngiad yn y gyllideb cyflawnwyd adolygiad o’r Rhaglenni  Teuluoedd yn Gyntaf a’r model TAT yn Ionawr 2016.  O ganlyniad i’r adolygiad, dynodwyd bod angen cynyddu nifer yr achosion TAT yn Sir Fynwy. Gallai’r Ddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd o bosib gynyddu nifer y ‘Plant Mewn Angen’ a allent gael eu trosglwyddo i’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a TAT.  Yn y cyd-destun hwn, roedd yr her o reoli’r gostyngiad o £86,081 yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf tra roedd ymgais i ddod o hyd i arbedion ychwanegol i ariannu adnodd gweithiwr TAT.

 

Mae Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf a’r dyraniad cyllido fel a ganlyn:

 

Tîm o Amgylch y Teulu (TAT)                    Cyllid 2016-17: £138,390

 

Gyda chynnydd yng Nghyllideb TAT ar gyfer 2016-17, bydd mwy o gapasiti o fewn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglenni Gwaith. pdf icon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom raglen waith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’n ofynnol craffu ar y Cynllun Busnes ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) ond dylai’r atodiad ddod gerbron y Pwyllgor Dethol at ddibenion craffu.

 

·         Mae’r Rhaglen Waith i gael ei diweddaru i gwrdd â gofynion Penaethiaid pedair ysgol gyfun Sir Fynwy.

 

·         Dylai’r Pwyllgor Dethol graffu polisïau ysgolion pan fydd hynny’n angenrheidiol.

 

·         Derbyn diweddariad ar JEG gan yr Aelod Cabinet bob dau fis.

 

·         Cynhelir cyfarfod arbennig Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar  15fed Mehefin 2016 am 2.00pm ynghylch Taith Tuag at Welliant  Gwasanaethau Plant.

 

·         Trefnir cyfarfod ar y cyd rhwng Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a Phwyllgor Dethol oedolion i graffu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adroddiad Diogelu. Cytunwyd dyddiad dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn i’w gynnal ar 20fed Mehefin 2016 am 2.00pm.

 

·         Cynhelir cyfarfod ar y cyd rhwng Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a Phwyllgor Dethol Economi a Datblygiad yng Ngorffennaf 2016.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd, y Pwyllgor Dethol a’r swyddogion am eu cefnogaeth i gwblhau’r gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Dethol yn 2015/16.

 

Penderfynasom dderbyn Rhaglen Waith y Pwyllgor Dethol gan nodi’r

     wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Rheolwr Craffu.

 

8.

Council and Cabinet Business Forward Plan

Cofnodion:

Penderfynasom dderbyn a nodi Blaengynllun Busnes y Cyngor a’r Cabinet.