Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd, 2019 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Craffu ar berfformiad diogelu plant. pdf icon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc er mwyn iddynt allu gwerthuso cynnydd blaenoriaethau diogelu allweddol y Cyngor yn ystod 2018/19 ac effeithiolrwydd diogelu yn Sir Fynwy yn gyffredinol.  Amlygodd yr adroddiad risgiau a chamau lliniaru ac amlinellodd gamau gweithredu allweddol ar gyfer gwella ymhellach.  Eglurodd y swyddog arweiniol, ar ôl adrodd bob chwe mis yn dilyn archwiliadau anfoddhaol blaenorol a'r awdurdod yn cael ei osod o dan 'fesurau arbennig', fod y Cyngor â llawer mwy o hyder yn y daith a wneir a bod y trefniadau adrodd yn y dyfodol i fod ar sail flynyddol.  Clywodd y Pwyllgor y bydd canlyniad arolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gyflwyno’n y dyfodol agos. Trafododd y swyddog arweiniol berfformiad y Cyngor yn fanwl, a gan gyfeirio at Atodiad 2 yr adroddiad, roedd y prif bwyntiau yn cynnwys:

 

·         Dylai diogelu gael ei wreiddio ym mhob gwasanaeth cyngor ac mae hunanasesiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o fewn pob Cyfarwyddiaeth.

 

·         Mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o risgiau sy'n dod i'r amlwg ar ddiogelu, enghreifftiau allweddol sef caethwasiaeth fodern a chamfanteisio'n rhywiol ar blant a sut mae gan adrannau eraill y Cyngor, fel trwyddedu, rôl allweddol o ran sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu. 

 

·         Mae gwasanaethau a gomisiynir yn allanol yn parhau i fod yn her gan fod angen gwirio pob gwasanaeth a gomisiynir yn drwyadl, felly o ran sgorio hunan-arfarnu, mae'r sgôr yn is hyd nes ein bod wedi sicrhau bod pob adran wedi gwneud hynny a bod yr archwiliad mewnol wedi dilysu bod hynny'n wir.

 

Her:

 

·         Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y camau mawr sydd wedi cael eu cymryd ers yr adeg pan ystyrid bod diogelu yn annigonol.  Y llynedd, daeth arolygiad ar y cyd gan Estyn, Gofal Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad bod arferion diogelu yn gadarn, ond bod angen i'r gwaith hwnnw barhau gyda rhai adrannau nad oes ganddynt, o bosibl, gysylltiad amlwg â diogelu.  Hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd ein bod yn gwneud hyn, a'n bod bellach wedi rhoi systemau gwell ar waith, ein bod yn ailedrych ar yr hen system i weld a yw pethau wedi llithro drwy'r rhwyd.

Mae llawer o haenau o ran sut rydym yn sicrhau ein hunain bod gennym y gwiriadau cywir mewn lle. Gallaf eich sicrhau bod y gwiriadau cyflogaeth mewn lle a bod y broses recriwtio fwy diogel yn sicrhau bod y bobl rydym yn eu cyflogi yn cael y gwiriadau cywir mewn lle.  Nid ydym wedi tynnu ein sylw oddi ar hynny. Mae'r elfen rydym yn ei chydnabod sydd o hyd yn drosiannol, ac mae felly'n cael ei hadlewyrchu drwy ein sgorio, yw'r elfen hyfforddi. Mae pob adran yn cwblhau hunan-asesiadau SAFE ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r rhaglen ddiogelu, felly mae ein sgôr hunan-werthuso yn cydnabod, o ran dull traws-gyngor o weithredu'r system hon, ein bod yn dal i fod heb gyrraedd y nod eto. Ar hyn o bryd rydym yn dibynnu ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar y newidiadau arfaethedig i'r Fformiwla Ariannu Ysgolion fel rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol. pdf icon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor er mwyn ceisio barn yr Aelodau ar y newidiadau arfaethedig i'r fformiwla ariannu ar gyfer pob ysgol, tra bod hyn dan gyfnod ymgynghori. Dywedodd y swyddog arweiniol fod yr adolygiad hwn yn adolygiad rheolaidd er mwyn sicrhau'r dosbarthiad tecaf o gyllid i ysgolion. Roedd y Fforwm Cyllido Ysgolion wedi gofyn i weithgor adolygu'r fformiwla ac ar ôl cynnal yr adolygiad, mae'r Fforwm wedi gwneud yr argymhellion a amlinellir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad. Eglurodd y swyddog fod y rhesymeg dros yr argymhellion wedi'i hamlinellu yn adran 3 y ddogfen ymgynghori sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw gynigion i leihau'r cyllid cyffredinol, ond bod yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnig ailddosbarthu arian mewn ffordd decach.  Byddai barn y Pwyllgor Dethol yn cael ei ystyried gyda'r ymatebion i'r ymgynghoriad pan fydd y Weithrediaeth yn gwneud penderfyniad.

 

Her:

 

·           Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â thegwch. Rwy'n awyddus i bawb gael eu trin yn gyfartal ac rwy'n credu, pryd bynnag y cawn gyfle i ystyried cyllid, y dylem fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais.  Mae rhai ysgolion yn gorfod gwario llawer o adnoddau ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, felly byddwn yn dawelach fy meddwl pe gallem rywsut gydnabod effaith amddifadedd.

Mae'n anodd, yn y bôn yr un gronfa arian ydyw ac rydym yn ei ailddosbarthu mewn ffordd decach, ond byddwn yn ystyried hyn. Ceir grantiau gan Lywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael ag amddifadedd ac mae'r grantiau amddifadedd disgyblion sy'n mynd i ysgolion yn un o'r rhain, ond byddwn yn ystyried hyn.

·           Allwch chi gynnig mwy o esboniad i'r rhesymeg dros y newidiadau, y cyfiawnhad ac esbonio'r effeithiau ar ysgolion?

Disgrifiodd y swyddog yn fanwl y rhesymeg dros yr argymhellion, gan esbonio bod rhai ysgolion yn derbyn ffrydiau ariannu ar gyfer gwasanaethau nad oeddent bellach yn eu gweinyddu a bod adborth pob ysgol, drwy ymgynghori, wedi cael ei ystyried wrth wneud yr argymhellion.

 

 

 

Canlyniadau a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Cefnogodd y Pwyllgor y cynigion i newid y fformiwla cyllido ysgolion yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion adolygiad y Fforwm Cyllido Ysgolion. Roeddent yn cydnabod nad yw'r cyllid cyffredinol ar gyfer ysgolion yn cael ei leihau, ond bod arian yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd decach.  Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

 

·         Bod y swyddog yn ystyried y ffordd orau o adlewyrchu materion amddifadedd.

·         Bod y cytundeb lefel gwasanaeth ar y gyflogres yn cael ei anfon drwy e-bost at y Pwyllgor.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor y gall pob aelod etholedig fwydo eu sylwadau unigol drwy'r broses ymgynghori.

 

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 90 KB

Cofnodion:

Roedd rhai diwygiadau i'w gwneud o ran presenoldeb yn y cyfarfod a gofynnwyd i'r Gwasanaethau Democrataidd ailystyried y daflen bresenoldeb a gwneud y diwygiadau angenrheidiol. Roedd Peter Strong, Fay Middleton a Maggie Harris, sy’n Aelodau Cyfetholedig, yn bresennol ond nid ydynt wedi'u rhestru. Yn ogystal, mae'r Cynghorydd Paul Pavia wedi'i restru fel Aelod Pwyllgor pan nad yw'n aelod ac mae'n mynychu er mwyn arsylwi.

 

 

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 387 KB

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwr Craffu'r blaenraglen a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

 

7.

Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 291 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Nodwyd.