Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc - Dydd Mawrth, 11eg Gorffennaf, 2017 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc dyddiedig 22ain Mehefin 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 

 

4.

Adroddiad perfformiad 2016/17. pdf icon PDF 918 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu’r wybodaeth ar berfformiad 2016/17 sydd dan gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, mae hyn yn cynnwys:

 

·                Adrodd nôl ar ba mor dda y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn yr amcanion a osododd y Cyngor blaenorol ar gyfer 2016/17.

 

·                Gwybodaeth o’r modd y perfformiodd yr Awdurdod yn erbyn ystod o fesurau a osodwyd yn genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a ddefnyddir gan bob Cyngor yng Nghymru.

 

Materion Allweddol:

 

Mae gan y Cyngor ar hyn o bryd fframwaith perfformiad ac o’i fewn mae’r Awdurdod yn trosi’i weledigaeth – adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn – i mewn i weithredu a sicrhau bod pawb yn tynnu yn yr un cyfeiriad i gyflawni canlyniadau real a gweladwy. 

 

Dros y blynyddoedd i ddod mae ffurf y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n debygol o newid yn sylweddol dan ddylanwad dau ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth Gymreig, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ynghyd â phwysau ariannol, newidiadau demograffig, newidiadau mewn anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid a newidiadau mewn rheoliadau a pholisi. Mae angen i wasanaethau barhau i feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau, ceisio osgoi problemau cyn iddynt godi a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig.   

 

Mae’r Cyngor yn ddiweddar wedi cwblhau dau asesiad sylweddol o angen o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon. Mae’r wybodaeth hon wedi darparu sail tystiolaeth lawer dyfnach o lesiant yn y Sir ac, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, defnyddiwyd hi i gynhyrchu amcanion a datganiad y Cyngor  2017.

 

Mae’r gogwydd mewn ffocws yn yr amcanion llesiant yn golygu y bydd angen i weithgareddau ganolbwyntio ar heriau tymor hwy ar lefel gymunedol yn hytrach na rhai o faterion ac allbynnau’r broses fewnol y gellid dod o hyd iddynt weithiau yn ei ragflaenydd, y Cynllun Gwelliant. Wrth ddelio â heriau cymdeithasol mwy cymhleth fe gymer fwy o amser i newid y gellir ei fesur ddigwydd ac yn hwy fyth i allu tystio i’r newidiadau hynny mewn ffordd ystyrlon. Yn y tymor byr fe ddeil cerrig milltir y gellir eu defnyddio i olrhain siwrnai welliant yr Awdurdod. Caiff hon ei chefnogi gan ystod o adroddiadau perfformiad y gall pwyllgor dethol wneud cais amdanynt fel rhan o’i raglen waith ac adolygir strwythur yr adroddiadau perfformiad a dderbyniwyd gan y pwyllgor i adlewyrchu’r pwyslais hwn.

 

Mae Atodiad 2 o’r adroddiad yn amlinellu’r camau gweithredu a’r mesurau perfformiad a gymeradwywyd gan y Cyngor ym Mai 2016 fel rhan o’r Cynllun Gwelliant. Ynghyd â chael eu cyflwyno i’r pwyllgorau dethol cynhwysir yr amcanion ochr yn ochr â gwerthusiadau pellach o berfformiad yn  2016/17 a gaiff eu hadrodd i’r Cyngor a’u cyhoeddi erbyn mis Hydref 2017. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gynlluniau i ddiddymu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 sy’n golygu ei bod yn debyg mai hwn fydd y cynllun terfynol a’r adroddiad yn y diwyg hwn. 

 

Mae Atodiad 3 o’r adroddiad yn darparu cerdyn adroddiad ar berfformiad yn 2016/17. Mae hwn yn cyflwyno data o’r fframwaith mesur newydd a gyflwynwyd yn 2016/17 fel rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

I benodi cynrychiolydd o blant a phobl ifanc Mae pobl yn dewis Pwyllgor Dethol i eistedd ar y fforwm cyllideb ysgolion. pdf icon PDF 187 KB

Cofnodion:

Penderfynasom benodi’r Cynghorydd Sir M. Groucutt i gynrychioli’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar Fforwm Cyllideb Ysgolion.

 

6.

Adroddiad rhaglen waith. pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Mae angen ‘agwedd wedi’i chynllunio’ at Raglennu Blaenraglen Craffu er mwyn mwyafu effeithioldeb  a gwerth ychwanegol  gweithgarwch craffu, gan sicrhau y canolbwyntir ar bynciau o’r flaenoriaeth fwyaf i’r Cyngor a’r rheiny sy’n adlewyrchu’r diddordeb cyhoeddus.   

 

Materion Allweddol:

 

Mae cyfarfodydd trafod rhaglenni gwaith wedi digwydd rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Dethol a’r prif swyddogion perthnasol ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol a thynnwyd sylw at y pynciau canlynol y gallai fod angen eu craffu.  

 

·         Rhaglen Welliant Gwasanaethau Plant ~ maes gweithlu, Llety Pobl Ifanc, Anghenion Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal, Fframwaith Maethu Cenedlaethol. 

 

·         Gwasanaeth Integredig Rhanbarthol Awtistiaeth .

 

·         Strategaeth Rhieni Corfforaethol.

 

·         Pwysau Cyllideb o fewn gwasanaethau.

 

·         Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.

 

·         Cyflawni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

·         Trafodaeth gyda Fforwm Ieuentid ‘Engage 2 Change’ ar eu blaenoriaethau.

 

·         Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

·         Cyrhaeddiad Ysgol.

 

Craffu Aelodau:

Dynodwyd y pynciau canlynol gan Aelodau’r Pwyllgor Dethol ar gyfer craffu:

 

·         Diweddariad ar yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus

 

·         Diweddariad ar gynnydd ysgolion.

 

·         Iechyd Meddwl Plant / gwasanaeth cynghori, gordewdra mewn Plant  ac anorecsia  – Dyma rai o’r pynciau gaiff eu cyflwyno i’r Pwyllgor Dethol drwy gyfrwng yr adroddiad ar Lesiant Plant.

 

·         Gofalwyr Ifanc a’r Cyngor Ieuenctid.

 

·         Gofal a chynllunio amlasiantaethol mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i ffoaduriaid Syria, yn enwedig i’r plant sydd wedi symud i mewn i Sir Fynwy. Mae’n bosibl ymgymryd â rhyw fath o waith ar y cyd  gyda Phwyllgor Dethol Cymunedau Cadarn mewn perthynas â’r mater hwn..

 

Dynodwyd y pynciau canlynol gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc:

 

Cofnodi Cyffredinol:

 

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - Adolygiad a darpariaeth  / Mesur ADY / Parodrwydd a hyfforddiant.

 

·         Ysgolion – dangosyddion ansawdd o fframwaith newydd arolygu / EIB a Monitro Ymyrraeth.

 

·         Perfformiad – canlyniadau ar ddiwedd cyfnodau allweddol / grwpiau / presenoldeb / eithrio.

 

·         Pwysau.

 

·         Adroddiadau Hunanwerthuso (AH) diweddariadau ar bwyntiau cytûn.

 

·         Diweddariadau cynhwysiant – llesiant / agweddau at ddysgu / llais disgybl.

 

·         Nas cynhelir / blynyddoedd Cynnar – darpariaeth / canlyniadau / cynnig gofal plant.

 

·         Categoreiddio Cenedlaethol / canlyniadau Estyn  / Cynnydd tuag at fynd i’r afael ag argymhellion.

 

·         Darpariaeth addysg ôl-16 / ymgysylltu a datblygiad.

 

Diweddariad blynyddol:

 

·         Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).

 

·         Archwiliad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.

 

·         Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

 

Seminar Aelodau:

 

·         Fframwaith newydd Estyn.

 

Ychwanegol:

 

·         Gr?p Cyfeirio Allanol.

 

Dynodwyd y pynciau canlynol gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant:

·         Diweddariad ar y Cynllun Gwelliant ar gyfer Gwasanaethau Plant.

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor Dethol a’r swyddogion am gyflwyno’r pynciau i’w hystyried gan y Pwyllgor Dethol.

 

Penderfynasom fabwysiadu’r broses a amlinellir yn yr adroddiad i ddatblygu rhaglen waith y Pwyllgor Dethol, gan ystyried:

 

·         Y cyfrifoldeb i graffu perfformiad a pheryglon allweddol er mwyn darparu heriau effeithiol i Fwrdd Gweithredol y Cyngor;

 

·         Y ddyletswydd i graffu gwasanaethau cyhoeddus ehangach a ddarperir ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy o ganlyniad i’r pwerau a roddir iddynt drwy’r Mesur Llywodraeth Leol;

 

·         Cynhwysiant / adnoddau wrth flaenoriaethu pynciau i’w craffu a chytuno’u cynnwys yn y rhaglen waith.

 

 

7.

Rhestr o gamau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 9 KB

Cofnodion:

Derbyn a nodi rhestr y camau gweithredu a gafodd eu cwblhau yn codi o gyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2017.

 

8.

Rhaglen mae plant a phobl ifanc Pwyllgor Dethol ymlaen yn ei waith. pdf icon PDF 146 KB

Cofnodion:

Derbyn a nodi blaenraglen waith y Pwyllgor Dethol. 

 

9.

Cyngor a chabinet busnes-y blaengynllun. pdf icon PDF 381 KB

Cofnodion:

Derbyn a nodi Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a’r Cabinet a nodi’i chynnwys.

 

10.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Thursday 14th September 2017 at 10.00am.

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Brynbuga, ar ddydd Iau 14eg Medi 2017 am 10.00am.