Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.

Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

26/06/2019 - SWTRA AGREEMENT - SIGNATURE AND SEAL ref: 610    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/06/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2019

Effective from: 26/06/2019

Penderfyniad:

Bod gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yr awdurdod i arwyddo a selio cytundeb SWTRA (atodiad 1) ar ran Cyngor Sir Fynwy. 

Wards affected: (All Wards);


26/06/2019 - RHYBUDD COSB BENODOL AM DDYLETSWYDD GOFAL GWASTRAFF CARTREF ref: 609    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/06/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2019

Effective from: 26/06/2019

Penderfyniad:

Y dylid rhoi awdurdod i Swyddogion o fewn yr adran Diogelu’r Cyhoedd, o dan Adran 34ZB o’r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, i weithredu’r ddeddf ac ymgymryd â’u dyletswyddau. Mae enwau’r swyddogion penodol a fyddai’n cael yr awdurdod, i’w gweld yn Atodiad 1.

 

Bod y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion o fewn Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio gan y Swyddog Monitro i adlewyrchu’r newid yn 2.1.

 

Cytunwyd i roi’r cyfrifoldebau gorfodaeth am Rybudd Cosb Benodol fel y’u gwelir yn Atodiad 1.

 

Mabwysiadwyd y dull cyffredinol o hysbysu Rhybudd Cosb Benodol yn ôl gofynion y Rheoliadau, fel y’u gwelir ym mholisi gorfodaeth yr Awdurdod ar faw ci / ysbwriel sydd wedi ei ddarparu’n Atodiad  2.

Wards affected: (All Wards);