Manylion y penderfyniad

RHYBUDD COSB BENODOL AM DDYLETSWYDD GOFAL GWASTRAFF CARTREF

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Y dylid rhoi awdurdod i Swyddogion o fewn yr adran Diogelu’r Cyhoedd, o dan Adran 34ZB o’r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, i weithredu’r ddeddf ac ymgymryd â’u dyletswyddau. Mae enwau’r swyddogion penodol a fyddai’n cael yr awdurdod, i’w gweld yn Atodiad 1.

 

Bod y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion o fewn Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio gan y Swyddog Monitro i adlewyrchu’r newid yn 2.1.

 

Cytunwyd i roi’r cyfrifoldebau gorfodaeth am Rybudd Cosb Benodol fel y’u gwelir yn Atodiad 1.

 

Mabwysiadwyd y dull cyffredinol o hysbysu Rhybudd Cosb Benodol yn ôl gofynion y Rheoliadau, fel y’u gwelir ym mholisi gorfodaeth yr Awdurdod ar faw ci / ysbwriel sydd wedi ei ddarparu’n Atodiad  2.

Awdur yr adroddiad: Cabinet Member for Social Justice and Community Development

Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 26/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/06/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Accompanying Documents: