Mae'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf yn
sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion preswylwyr, gan hyrwyddo eu
hiechyd a'u llesiant. Rolau allweddol y pwyllgor yw:
•
Sicrhau fod y Cyngor yn cefnogi datblygu cymunedau newydd a
chynaliadwy ac yn cefnogi cryfder cymunedau presennol drwy gydlynu
ardal leol.
•
Adolygu a gwella cysylltiadau'r Cyngor gyda'r sector
gwirfoddol.
•
Craffu ar gyflenwi'r Cynllun Integredig Sengl, gan ddyrannu meysydd
craffu penodol i bwyllgorau dethol eraill lle’n briodol.
•
Craffu ar wasanaethau allweddol a ddarperir mewn partneriaeth i
gymunedau lleol i sicrhau y cyflwynir gweithredu aml-asiantaeth
effeithlon, yn cynnwys ymysg eraill:
o
Seilwaith a rhwydweithiau
o
Priffyrdd (yn cynnwys SWTRA), Trafnidiaeth a Rheoli Traffig
o
Goleuadau Stryd
o
Rheoli Gwastraff
o
Diogelwch y Gymuned
o
Stadau a Chynaliadwyedd
o
Rheoli Cyfleusterau a Llety
o
Ymgysylltu â Dinasyddion
o
Swyddogaeth y Prif Weithredwr.
o
Refeniw, Treth Gyngor, Trethi Annomestig a Chyllid.
o
Costau Corfforaethol / Ffioedd.
o
Priodoli (yn cynnwys costau dyled allanol gronfeydd cadw a
glustnodwyd, costau'n ganlyniad gwaredu ag asedau sefydlog).
o
Cyllido (yn cynnwys cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru, incwm y
dreth gyngor)
Canllawiau ~
Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Mae ein
cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen
i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech i rannu eich barn
ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau
Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau
drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
·
Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain
(uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;
·
Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word,
uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir
Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu
ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r
blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor
yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.
Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud,
bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu
yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd
yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y
cyfarfod.
Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n
Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy
e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk