Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Minutes of previous meeting Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10fed Mehefin 2024 yn gofnod cywir. Wrth wneud hynny, nodwyd bod y canlynol wedi'u hepgor ac y dylid eu hychwanegu at y cofnodion:
Cydnabu'r Pwyllgor waith Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor Safonau, Richard Stow, a'i wasanaeth hir ar y Pwyllgor.
|
|
Llythyr Blynyddol gan PSOW 2023/24 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023/24.
Nodwyd mai cynnydd bach sydd wedi bod yn nifer y cwynion neu’r cyswllt gyda’r Omdudsman o’i gymharu â llynedd. Dim ond dwy o'r cwynion oedd yn gwynion cod ymddygiad, penderfynwyd peidio ag ymchwilio i un ohonynt ac roedd yn destun gwrandawiad diweddar Panel y Pwyllgor Safonau.
Mynegwyd pryder bod MCC yn un o'r awdurdodau sydd ar waelod y rhestr o ran argymhellion wedi’u cyflawni ar amser, er mai dim ond 4 oedd angen ymdrin â hwy. Cyfeiriwyd at hyn yn y llythyr a thynnwyd sylw hefyd at y ffaith yr ymgynghorir â'r awdurdodau ar amserlenni cyn cyhoeddi'r rhain.
Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i gymryd hyn fel cam gweithredu a gwneud ymholiadau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.
|
|
Diweddariad y Cadeirydd: Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgor Cadeiryddion Safonau Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad er mwyn diweddaru aelodau wedi iddo fynychu’r Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ar 24 Mehefin 2024.
Roedd y Cadeirydd wedi derbyn y nodiadau a sleidiau’r cyflwyniad a byddant yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.
Amlygwyd bod esboniad o ran y mater mai proses bapur yn unig yw apeliadau. Y gobaith oedd y byddai eu gwefan yn cael ei diweddaru i wneud hyn yn glir.
Cytunodd y Swyddog Monitro i wneud ymholiadau ynghylch hyfforddiant Cod Ymddygiad Cyngor Tref a Chymuned, a'u haelodaeth o Un Llais Cymru. At hyn, penderfynu pa gamau sy'n cael eu cymryd o ran hyrwyddo hyfforddiant safonau mewn Cynghorau Tref a Chymuned.
Penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad i nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2023/24 ar gyfer ei gymeradwyo cyn adrodd arno i gyfarfod o'r Cyngor.
Nid oedd unrhyw sylwadau, a phenderfynodd y Pwyllgor Safonau dderbyn yr argymhelliad i gymeradwyo'r adroddiad blynyddol drafft.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf - 16 Rhagfyr 2024 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ddyddiad y cyfarfod nesaf.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Sir Catherine Fookes wedi rhoi gwybod iddi ei bod yn ymddiswyddo y bore hwnnw, a bod disgwyl i Arweinydd y Cyngor yn benodi cynghorydd Llafur newydd i'r Pwyllgor Safonau cyn y cyfarfod nesaf.
|