Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Chwefror 2025 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/q9SBCHDpe24?si=K5kl5Fa1dZp4v07C&t=109
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Meirion Howells fod cais DM/2023/01204 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad, gydag amod 3 yn cael ei diwygio fel sy’n dilyn: · Ni chaiff dim o’r goleuadau a gymeradwyir drwy hyn eu troi ymlaen rhwng 21.00 o’r gloch a 07.00 o’r gloch, yn cynnwys ar benwythnosau.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Dros gymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01204 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad, gydag amod 3 yn cael ei diwygio fel sy’n dilyn:
· Ni chaiff dim o’r goleuadau a gymeradwyir drwy hyn eu troi ymlaen rhwng 21.00 o’r gloch a 07.00 o’r gloch, yn cynnwys ar benwythnosau.
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i’w gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.
Amod 14 ychwanegol i’w hychwanegu fel yr amlinellir mewn gohebiaeth hwyr: · Serch y cynlluniau a gymeradwyir drwy hyn, caiff manylion llawn yr arwyneb caled i’w ddefnyddio ar gyfer yr ardal â chroeslinellau i’r fynedfa fel y dangosir ar Ddarluniad P01 E eu cyflwyno a’u cymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle.
Caiff yr arwyneb caled a gymeradwyir ei weithredu yn llawn cyn dod ag unrhyw annedd a gymeradwyir drwy hyn i ddefnydd buddiol.
Rheswm: sicrhau mynediad diogel a chyfleus i’r safle yn unol â Pholisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd.
https://www.youtube.com/live/q9SBCHDpe24?si=XgdojhotbBkWNFhK&t=1009
Wrth nodi manylion y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliodd y Cynghorydd Sir Laura Wright fod cais DM/2023/01474 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.
Amod 14 ychwanegol i gael ei hychwanegu fel yr amlinellir mewn gohebiaeth hwyr:
· Serch y cynlluniau a gymeradwyir drwy hyn, caiff manylion llawn yr arwyneb caled i’w ddefnyddio ar gyfer yr â chroeslinellau i’r fynedfa fel y dangosir ar Ddarluniad P01 E eu cyflwyno a’u cymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle.
Caiff yr arwyneb caled a gymeradwyir ei weithredu yn llawn cyn dod ag unrhyw annedd a gymeradwyir drwy hyn i ddefnydd buddiol.
Rheswm: sicrhau mynediad diogel a chyfleus i’r safle yn unol â Pholisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd.
Pan roddwyd y mater i’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Dros gymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01474 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.
Amod 14 ychwanegol i gael ei hychwanegu fel yr amlinellir mewn gohebiaeth hwyr:
· Serch y cynlluniau a gymeradwyir drwy hyn, caiff manylion llawn yr arwyneb caled i’w ddefnyddio ar gyfer yr â chroeslinellau i’r fynedfa fel y dangosir ar Ddarluniad P01 E eu cyflwyno a’u cymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle.
Caiff yr arwyneb caled a gymeradwyir ei weithredu yn llawn cyn dod ag unrhyw annedd a gymeradwyir drwy hyn i ddefnydd buddiol.
Rheswm: sicrhau mynediad diogel a chyfleus i’r safle yn unol â Pholisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd Cofnodion: |
|
Penderfyniad Apêl - The Boat Inn, Cas-gwent Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn The Boat Inn, The Back, Cas-gwent, Sir Fynwy ar 21 Ionawr 2025.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Penderfyniad Costau - The Boat Inn, Cas-gwent Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio oedd yn cyfeirio at y penderfyniad costau ynghylch The Boat Inn, The Back, Cas-gwent, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau.
|
|
Penderfyniad Apêl - Tanglewood Close, Y Fenni Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 4 Tanglewood Close, y Fenni ar 17 Rhagfyr 2024.
Nodwyd y cafodd yr apêl ei chaniatáu ac y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer estyniad cefn ac estyniad porth blaen yn 4 Tanglewood Close, y Fenni, NP77 5RJ, yn unol â thelerau’r cais, Cyf DM/2024/00845, dyddiedig 30 Mehefin 2024, gyda’r amodau a nodir yn yr atodlen i lythyr y penderfyniad.
|
|
Penderfyniad Apêl - Millers Arms, Merthyr Tewdrig Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Millers Arms, Heol Matharn, Matharn, Sir Fywy ar 14 Ionawr 2025.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
Penderfyniad Cost - Millers Arms, Merthyr Tewdrig Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad costau yng nghyswllt Millers Arms, Heol Matharn, Matharn, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau.
|
|
Penderfyniad Apêl - Badger's Walk, Gwndy Cofnodion: Cafwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 6 Badgers Walk, Gwndy ar 14 Ionawr 2025.
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|