Skip to Main Content

Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Cynllunio

Diben y Pwyllgor

 

Rôl y Pwyllgor Cynllunio yw llywio'r cyngor wrth ffurfio polisïau'n ymwneud â Chynllunio Tref a Gwlad a gweithredu pwerau a dyletswyddau'r cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio. Mae 16 cynghorydd ar y pwyllgor.

 

Y Pwyllgor Cynllunio sy'n penderfynu ar geisiadau dan Ddeddf Cynllunio Tref a Gwlad 1990 a deddfwriaeth gysylltiedig yn ymwneud â'r dilynol:

 

           Ceisiadau cynllunio ar gyfer alldynnu mwynau neu waredu â gwastraff heblaw am weithiau graddfa fach presennol sy'n ategol i gyfleuster gwaith mwynol neu waredu â gwastraff ;

           Ceisiadau cynllunio sydd â Datganiad Effaith ar yr Amgylchedd;

           Ceisiadau cynllunio sy'n ymadawiad sylweddol i'r Cynllun Strwythur neu Bolisi Cynllun Lleol;

           Ceisiadau cynllunio sydd, drwy eu maint, natur neu leoliad, â goblygiadau sy'n ymestyn tu hwnt i ffiniau'r ardal y maent wedi'u lleoli ynddynt.

 

Siarad mewn Pwyllgor Cynllunio

 

Er mwyn asesu os ydych yn gymwys i siarad yng nghyswllt cais cynllunio, gofynnir i chi ddarllen y protocol siarad gan y cyhoedd i ddeall y rheolau a'r meini prawf a all fod yn eich caniatáu neu beidio i wneud sylwadau.

 

Protocol ar gyfraniadau gan y cyhoedd mewn Pwyllgorau Cynllunio

Aelodaeth

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Democratic Services.

Ffôn: 01633 644219