Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Chwefror, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir Laura Wright fuddiant personol sy’n rhagfarnu yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/01525, oherwydd bod ganddi berthynas eisoes ag un o’r prif wrthwynebwyr, fel yr amlinellwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 14eg Ionawr 2025. Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio, mae’r eitem hon wedi’i hystyried gan Bwyllgor Amgylchedd y Fenni, ond ni chymerodd y Cynghorydd Sir Wright ran yn y drafodaeth yn y Fenni er ei bod ar y Pwyllgor ac nid oedd wedi pleidleisio ar yr eitem. Gadawodd y Cynghorydd Sir Wright gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio ar y cais hwn.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir Fay Bromfield fuddiant personol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â chais DM/2022/01525 gan fod yr ymgeisydd yn hysbys iddi. Mae hi'n cyfrannu'n rheolaidd iddo yn ei rôl o fewn Clwb Rotari. Er mwyn bod yn dryloyw, nid oedd yn teimlo ei bod yn briodol pleidleisio ar y cais hwn.

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 14eg Ionawr 2025 a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

3.

Cais DM/2024/00557 - Datblygiad arfaethedig o 50 o anheddau fforddiadwy, cynigion draenio cynaliadwy, plannu tirwedd, parcio ceir a gwaith cysylltiedig. Tir oddi ar Tudor Road, Wyesham, Trefynwy. pdf icon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

https://www.youtube.com/live/0B1ijl0r5pI?si=FXy9Ix2ZzKciZHeP&t=126

 

Ymataliodd y Cynghorydd Sir Jill Bond rhag pleidleisio ar y cais hwn gan ei bod wedi ymuno â’r cyfarfod yn hwyr oherwydd anawsterau technegol.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna rhag pleidleisio ar y cais hwn gan ei bod wedi gadael y cyfarfod am gyfnod byr oherwydd anawsterau technegol yn ystod y drafodaeth cyn ailymuno â’r cyfarfod.

 

Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid caniatáu cais DM/2024/00557 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

O’u rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau fel a ganlyn:

 

O blaid             -           14

Yn erbyn                    -            0 

Ymwrthod rhag pleidleisio       - 0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/00557 yn amodol ar yr amodaua amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

 

 

4.

Cais DM/2022/00235 - Stablau ac ysgubor. Tir gerllaw Upper Maerdy Farm, Red Hill i'r B4235, Llangyfyw, Brynbuga. pdf icon PDF 57 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/0B1ijl0r5pI?si=RUOuGPoC6LJtqhmh&t=2971

 

Wrth nodi manylion y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnel y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00235 gyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad gyda dau amod ychwanegol, sef:

 

·         Cyflwyno a chymeradwyo cynllun gwella ecolegol cyn dechrau'r datblygiad.

 

·         Cynllun rheoli gwastraff (tail) i'w gyflwyno a'i gytuno gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn.

 

O’u rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau fel a ganlyn:

 

O blaid             -           11

Yn erbyn                    -            3

Ymwrthod rhag pleidleisio       - 2

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2022/00235 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad gyda dau amod ychwanegol, sef:

 

 

  • Cyflwyno a chymeradwyo cynllun gwella ecolegol cyn dechrau'r datblygiad.

 

  • Cynllun rheoli gwastraff (tail) i'w gyflwyno a'i gytuno gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn cychwyn

 

 

5.

Cais DM/2022/01525 - Adeiladu byngalo arfaethedig gyda pharcio ar dir y tu cefn i 11 Park Close. Y tu cefn i 11 Park Close., Y Fenni, NP7 5SU. pdf icon PDF 173 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd i'w gwrthod am y rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar 14 Ionawr 2025 gydag argymhelliad i’w ganiatáu. Fodd bynnag, nid oedd y Pwyllgor Cynllunio yn cytuno â’r argymhelliad hwn ac wedi gohirio ystyried y cais tan gyfarfod Chwefror 2025 o’r Pwyllgor Cynllunio gydag argymhelliad i’w wrthod am y rheswm a ganlyn:

 

·         Mae'r fynedfa 3m o led arfaethedig sy'n gwasanaethu tri eiddo, yn wyriad sylweddol oddi wrth Safonau Cyffredin Cymru a byddai'n arwain at ddirywiad mewn safonau priffyrdd ac yn effeithio'n andwyol ar ddefnyddwyr y briffordd gyhoeddus gyfagos yn groes i Bolisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig.

 

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ionawr 2025, roedd yr ymgeisydd wedi darparu Cynllun Safle wedi’i ddiweddaru (A101 Rev C) i’w adolygu, yn dangos man troi yn dangos sut y gall cerbyd fynd i mewn a gadael mewn gêr blaen.

 

https://www.youtube.com/live/0B1ijl0r5pI?si=z4s5mZbZeP-M1_ny&t=6658

 

Cynhaliwyd pleidlais electronig. Fodd bynnag, oherwydd agosrwydd y bleidlais lle’r oedd y canlyniad o fewn dwy bleidlais neu lai, defnyddiwyd paragraff 27.27.6 o Gyfansoddiad Cyngor Sir Fynwy:

Pan fydd y canlyniad yn 2 bleidlais neu lai neu pan fydd angen i'r Cadeirydd ystyried bwrw pleidlais derfynol, bydd galw cofrestr yn cael ei chynnal yn yr un arddull â phleidlais wedi'i recordio fel bod y canlyniad y tu hwnt i amheuaeth. Bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer pob opsiwn yn cael ei nodi yn y cofnodion.

 

Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Su McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid gwrthod cais DM/2022/01525 am y rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

O blaid gwrthod           -           6

Yn erbyn gwrthod       -           7

Ymwrtyhod                 -           1

 

Ni phleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd gohirio ystyried cais DM/2022/01525 i'w ailgyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio gydag argymhelliad gwreiddiol y swyddog i'w ganiatáu, yn amodol ar y cynllun diwygiedig yn dangos man troi yn dangos sut y gall cerbyd ddod i mewn a gadael mewn gêr blaen.

 

 

6.

Cais DM/2024/00422 - Datblygiad arfaethedig ar gyfer anheddau preswyl a thirlunio a seilwaith cysylltiedig. Tir Masnachol ym Mabey Bridge, Ffordd Gorsaf Mabey Bridge Cas-gwent, Sir Fynwy. pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

https://www.youtube.com/live/0B1ijl0r5pI?si=ZIpNgpmXbG8bPd3Y&t=8384

 

Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Sue Riley y dylid cymeradwyo cais DM/2024/00422 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.

 

O’u rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau fel a ganlyn:

 

O blaid             -           16

Yn erbyn                    -            0 

Ymwrthod rhag pleidleisio       - 0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/00422 yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106.