Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Dim.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 125 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Chwefror 2024 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio ar 1af Mawrth 2022 ac roedd wedi cael ei gymeradwyo yn amodol ar Asesiad Priodol (AP) llawn, a ddaeth i'r casgliad na fydd nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg (ACA) yn cael eu heffeithio'n andwyol gan y datblygiad a byddant yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac fel y'u diwygiwyd mewn gohebiaeth hwyr.
https://www.youtube.com/live/lZmILQ2Gemk?si=zx8dShWoOIFINSs_&t=93
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sirol Maureen Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol Jan Butler bod cais DM/2020/00400 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau diwygiedig a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) priodol.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 13 Yn erbyn - 0 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei dderbyn.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00400 yn amodol ar yr amodau diwygiedig a amlinellir yn yr adroddiad a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) priodol.
|
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais ac argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor Cynllunio ar 10fed Ionawr 2024 gydag argymhelliad i wrthod. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi ystyried peidio â chytuno â'r argymhelliad hwn ac, yn unol â hynny, cyflwynir y cais i'w gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
https://www.youtube.com/live/lZmILQ2Gemk?si=1rCr-rG0r1K5BtW5&t=1084
Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sirol Sue McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol Fay Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2023/01329 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 13 Yn erbyn - 0 Ymatal - 0
Cafodd y cynnig ei dderbyn.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2023/01329 yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd: |
|
The Cedars, Lôn y Capel, Pwllmeurig. PDF 209 KB Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliadau safle a gynhaliwyd yn The Cedars, Lôn y Capel, Pwllmeurig. ar 17eg a 31ain Ionawr 2024.
Nodom fod yr apêl wedi'i gwrthod.
https://www.youtube.com/live/lZmILQ2Gemk?feature=shared&t=1250
|