Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod heddiw. Cofnodion: Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sir P. Jordan yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio a hynny i eistedd mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ac ar y Panel Dirprwyedig tan y gall y Cadeirydd parhaol ailgydio yn ei dyletswyddau.
|
|
Penodi Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod heddiw. Cofnodion: Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sir A. Webb yn Is-gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cynllunio a hynny i eistedd mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ac ar y Panel Dirprwyedig tan y gall yr Is-gadeirydd parhaol ailgydio yn ei ddyletswyddau.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 179 KB Cofnodion: Cymeradwywyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5 Hydref 2021 gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Rydym wedi ystyried yr adroddiad ar y cais y gofynnir am gymeradwyaeth ar ei gyfer er mwyn galluogi’r Cyngor, fel yr Awdurdod Cynllunio perthnasol, i orchymyn dirymu caniatâd cynllunio DM/2020/00817 ar gyfer Maes Parcio’r Orsaf ar Dir i’r De o Gyffordd Twnnel Hafren.
Cyflwynwyd y cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 24 Mehefin 2020 ac fe’i dilyswyd ar 3 Gorffennaf 2020. Mae’r cais wedi’i gofrestru ers hynny a’r ymarfer ymgynghori priodol wedi’i gynnal. Cyflwynwyd y cais i’r Panel Dirprwyedig i’w ystyried ar 27 Hydref 2021 ac argymhellodd swyddog y dylid ei gymeradwyo. Cytunodd y Panel Dirprwyedig ag argymhelliad y swyddog ar ôl hynny a chymeradwywyd y cais ar 28 Hydref 2021 gydag amodau.
Yn dilyn cyhoeddi’r penderfyniad daeth yn amlwg na ddylai’r cais fod wedi’i gyflwyno i’r Panel Dirprwyedig. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor roedd yn ofynnol cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio i benderfynu arno o gofio mai’r Cyngor oedd yr ymgeisydd a bod gwrthwynebiad cynllunio sylweddol i’r cynigion.
Felly cafwyd caniatâd i gyflwyno Gorchymyn Dirymu er mwyn dirymu’r penderfyniad yn gyfreithlon.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard y dylid gwneud gorchymyn dirymu o dan Adran 97 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 er mwyn dirymu’r cais cynllunio DM/2020/00817 ac y dylid cyflwyno’r cais a’i ystyried yn llawn yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn penderfynu arno, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Sir M. Feakins.
Ar ôl cynnal pleidlais ar y mater, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid dirymu- 7 Yn erbyn dirymu - 0 Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd gwneud gorchymyn dirymu o dan Adran 97 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 er mwyn dirymu’r cais cynllunio DM/2020/00817 ac y dylid cyflwyno’r cais a’i ystyried yn llawn yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn penderfynu arno.
Nodwyd y byddai arolygiad o’r safle yn cael ei gynnal cyn cyflwyno’r cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol.
|
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd. |
|
73 Heol y Parc, Cil-y-coed. PDF 145 KB Cofnodion: Derbyniwyd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â phenderfyniad ar yr apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 73 Heol y Parc, Cil-y-coed ar 7 Medi 2021.
Nodwyd bod yr apêl wedi’i gwrthod.
|