Agenda and minutes
Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Gorffennaf 2021 gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Wrth nodi manylion yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Dylid ystyried diwygio amod 2, fel a ganlyn:
- Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i'r defnydd o fodurdy.
· O ran y dyddiad 14eg Tachwedd 2022 lle bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd yn dod i ben ar neu cyn y dyddiad hwn, nodwyd bod y diwydiant adeiladu yn cael amseroedd anodd gan ei gwneud yn anodd i gontractwyr gwblhau gwaith ar amser. Felly, dylid ystyried rhywfaint o hyblygrwydd mewn perthynas â'r dyddiad hwn.
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor fod gan yr adeilad lawr uchaf. Byddai defnyddio'r adeilad yn cwmpasu'r llawr uchaf a'r llawr isaf gyda'r defnydd o'r adeilad yn llety byw hunangynhwysol. Dim ond pan fydd yn dychwelyd i fod yn fodurdy y gellid defnyddio'r adeilad yn ategol. Felly, gellid diwygio Amod 2 fel a ganlyn:
- Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01801 yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad ac y dylid newid Amod 2 fel a ganlyn:
Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol.
Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cais - 11 Yn erbyn y cais - 0 Ymataliadau - 0
Cariwyd y cynnig.
Gwnaethom benderfynu bod cais DM/2020/01801 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad ac y dylid newid Amod 2 fel a ganlyn:
Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol. |
|
Cofnodion: Cafodd Cais DM/2020/00771 ei dynnu'n ôl o'r agenda er mwyn gallu cynnal trafodaethau pellach yn cynnwys swyddogion Cyngor Sir Fynwy a'r ymgeisydd.
Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w ystyried. |
|
ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd: |
|
Carchar Ei Mawrhydi, Brynbuga, Stryd Maryport, Brynbuga. Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yng Ngharchar Ei Mawrhydi Brynbuga, Stryd Maryport, Brynbuga, ar 14eg Mai 2021.
Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod. |