Agenda and minutes
Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1af Mehefin 2021 gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd i'r Pwyllgor am wrthod gyda dau reswm. Ystyriwyd rheswm ychwanegol dros wrthod, sef methiant yr ymgeisydd i ymrwymo i ddarparu lefel y tai fforddiadwy ar y safle a oedd yn ofynnol o dan Bolisi CDLl S4.
Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mynegwyd pryder ynghylch y mynediad gwael i Lôn Beili Priordy. Byddai darparu eiddo ychwanegol yn y lleoliad hwn ond yn gwaethygu'r problemau mynediad.
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yngl?n â diffyg technoleg tynnu ffosffad, dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod ansawdd d?r yn fater parhaus o ran yr afonydd yn Sir Fynwy. Nodwyd nad oes gennym allu tynnu ffosffad yn yr ardal hon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ceir trafodaethau parhaus gyda'r bwriad o uwchraddio'r systemau hyn.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy y dylid gwrthod cais DC/2010/00670 am y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad gyda rheswm ychwanegol dros wrthod, sef methiant yr ymgeisydd i ymrwymo i ddarparu lefel y tai fforddiadwy ar y safle sy'n ofynnol o dan Bolisi CDLl S4.
Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid gwrthod - 10 Yn erbyn gwrthod - 1 Ymataliadau - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynom y dylid gwrthod cais DC/2010/00670 am y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad gyda rheswm ychwanegol dros wrthod, sef methiant yr ymgeisydd i ymrwymo i ddarparu lefel y tai fforddiadwy ar y safle sy'n ofynnol o dan Bolisi CDLl S4. |
|
Cofnodion: Cafodd Cais DM/2020/00762 ei dynnu'n ôl o'r agenda i alluogi trafodaethau cael eu cynnal yn cynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, swyddogion Cyngor Sir Fynwy, yr Aelod lleol a'r ymgeisydd, D?r Cymru.
Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w ystyried. |
|
Cofnodion: Cafodd cais DM/2020/00763 ei dynnu'n ôl o'r agenda i alluogi trafodaethau cael eu cynnal yn cynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, swyddogion Cyngor Sir Fynwy, yr Aelod lleol a'r ymgeisydd, D?r Cymru.
Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w ystyried. |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roedd y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio yn Ebrill 2021 gydag argymhelliad i'w gymeradwyo. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi bwriadu gohirio ystyried y cais i ymchwilio i weld a oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith allanol i'r adeilad ai peidio ac a oedd yn gyfreithlon.
Yn dilyn ymchwiliad, ystyriwyd bod y gwaith i'r ysgubor Iseldiraidd yn gyfreithlon ac nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Yn unol â hynny, ystyriwyd bod y gwaith allanol i'r adeilad yn gyfreithlon drwy amser ac ni fyddai wedi gorfod cael ei hysbysebu fel rhan o'r cais cynllunio presennol hwn.
Wrth nodi manylion y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch y rheswm dros orfodi cyfyngiad o 13 cerbyd yn unig, nododd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu fod Swyddogion wedi bod yn fodlon y gallai'r adeilad ddarparu ar gyfer y nifer honno o gerbydau sy'n cael eu storio fel casgliad.
· Mae safle'r cais yn cyfeirio at yr adeilad yn unig. Felly, dim ond i'r adeilad, sef ffin y cais, ac nid yr ardal gyfagos, o ran nifer y cerbydau sy'n cael eu storio ar y safle y gellid gosod amodau.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01076 yn ddibynnol i'r 2 amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymataliadau - 0
Cariwyd y cynnig.
Gwnaethom benderfynu bod cais DM/2020/01076 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r amod a amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r pum amod a amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn ogystal â'r amodau hyn, argymhellodd swyddogion y dylid darparu'r manylion sy'n ofynnol gan amodau dau a phedwar cyn eu cymeradwyo a'u cytuno gan y Panel Dirprwyo a bod yr amodau hyn yn dod yn amodau cydymffurfio yn unig.
Roedd R. Hatton, gwrthwynebydd y cais, wedi paratoi recordiad sain a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Mae eiddo'r gwrthwynebydd yn ffinio â'r datblygiad newydd arfaethedig ac mae ganddo olygfa uchel glir ohono o'r de.
· Ynghyd â chymdogion eraill, cefnogodd y cais cynllunio gwreiddiol yn 2016 sef ymestyn yr annedd gerrig bach presennol i roi safon fodern o lety preswyl.
· Byddai'r estyniad hwn yn caniatáu dwy ystafell wely ac estyniad to ar lawr unllawr bach yng nghefn yr eiddo.
· Cymeradwywyd cais cynllunio pellach DM/2020/00669 ar gyfer mân newidiadau i'r cais gwreiddiol ym mis Gorffennaf 2020.
· Nododd yr adroddiad cynllunio cynnydd yn uchder crib yr estyniad unllawr yn y cefn i gyd-fynd ag uchder crib y prif adeilad. Ni soniwyd am gynnydd yn uchder crib y prif adeilad yn y naratif nac ychwanegu ffenestri to at du blaen yr adeilad.
· Nid oedd y cynlluniau a gyflwynwyd yn glir ac roedd yn anodd darllen y gwahanol fesuriadau.
· Nid oedd yn bosibl mesur gwir faint y mân newidiadau hyn yn gywir.
· Cyhoeddwyd y cais cynllunio ôl-weithredol cyfredol i adlewyrchu dimensiynau a nodweddion yr adeilad gorffenedig yr ystyrir eu bod yn torri'r ddau gydsyniad cynllunio.
· Mae mwyafrif y gwrthwynebwyr lleol o'r farn bod graddfa'r adeilad yn anghywir ar gyfer y safle y mae'n ei feddiannu.
· Mae ei ymddangosiad yn groes i'r anheddau presennol yn y cyffiniau.
· Mae'r bythynnod cyfagos wedi'u gwneud o frics neu gerrig wedi'u paentio'n wyn ac mae ganddynt wydr priodol.
· Mae'r adeilad hwn i'w weld o nifer o gartrefi cyfagos ac nid yw'r gwahanol lwybrau troed sy'n croesi'r eiddo yn ffitio'n dda i'r dirwedd na'r arddulliau pensaernïol presennol.
· Oherwydd uchder to uwch bron i fetr, mae'r adeilad yn dominyddu'r dirwedd ac yn diraddio'r amwynder gweledol.
· Roedd maint y gwydro yn ormodol ac nid yw'n cydweddu'n sympathetig â'r dirwedd bresennol. Nid oes adeilad tebyg iddo ar y Cymin.
· O ran yr estyniad to talcen deulawr ychwanegol, mae hyn yn atgyfnerthu'r teimlad o ychwanegiad direswm a diangen ac nid yw'n gwneud dim i ychwanegu at swyn yr adeilad.
· Gall y rhan hon o'r Cymin, gyda Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, roi eu hargraffiadau cyntaf o'r Cymin i ymwelwyr. Mae'n bwysig bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cyd-fynd yn dda â'r anheddau presennol yn y cyffiniau.
· Mae'r Cymin wedi'i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae Swyddfa AHNE Dyffryn Gwy a Chyngor Tref Trefynwy wedi gwrthwynebu'r cais cynllunio hwn.
· Am y rhesymau a roddwyd, anogodd y gwrthwynebydd y Pwyllgor Cynllunio i wrthod y cais cynllunio hwn.
Roedd cymydog yr ymgeisydd, Mr. D. Edge, wedi paratoi recordiad fideo i gefnogi'r cais a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Cynllunio – Penderfyniadau Apêl a Dderbyniwyd. |
|
Penderfyniad Apêl - Lingfield, Five Lanes, Caerwent, Cil-y-coed Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn Lingfield, Five Lanes, Caer-went, Cil-y-coed a wnaed ar 1af Mehefin 2021.
Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i chaniatáu a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer estyniadau blaen a chefn gyda modurdy ar wahân yn Lingfield, Five Lanes, Caer-went, Cil-y-coed, NP26 5PQ, yn unol â thelerau'r cais, Cyf: DM/2020/01858 dyddiedig 14 Rhagfyr 2020, yn ddarostyngedig i amodau. |
|
Penderfyniad Apêl - Tir ger Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Bertholau. Cofnodion: Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ar dir ger Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Bertholau ar 5ed Mai a 1af Mehefin 2021.
Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod. |
|
Penderfyniad Costau – Tir ger Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Bertholau. Cofnodion: We received the Planning Inspectorate report which related to a costs decision following a site visit that had been held on 5th May and 1st June 2021.
We noted that the application for a full award of costs was refused. The application for a partial award of costs was allowed. |