Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 3ydd Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd yna ddatganiadau o fuddiant gan  Aelodau.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 6ed Awst 2019  ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 

 

3.

Cais DC/2016/01342 - Trosiad, estyniad ac estyniad to mansard arfaethedig i'r eiddo i ffurfio 21 uned breswyl gyda beicio ar y safle a pharcio i gerbydau, a chyfleusterau sbwriel ac amwynder. Tŷ Newbridge, Tudor Street, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 5DH. pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar yr wyth amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer ward Grofield wedi methu mynychu’r Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag, mynegwyd ei barn am y cais mewn gohebiaeth hwyr ac fe’i hamlygwyd gan y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu a oedd yn cyflwyno’r adroddiad. 

 

Yn sgil yr ohebiaeth hwyr a dderbyniwyd gan yr Adran Waith a Phensiynau, a’r ystyriaeth am gydymffurfiaeth gyda Pholisi E1, argymhellwyd y dylid gohirio’r cais er mwyn adolygu argymhelliad y swyddog.  

 

Wrth nodi manylion y cais, gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

·         Roed y Rheolwr Cipolwg Busnes wedi mynegi pryderon tebyg i’r Adran Waith a Phensiynau.

 

·         Mynegwyd pryder am ddiffyg darpariaeth parcio.  

 

·         Roedd yr Adran Priffyrdd wedi gwrthwynebu’r cais.  

 

·         Mynegwyd pryderon yngl?n ag a oedd y safle yn lleoliad cynaliadwy.  

 

·         Roedd uchder a dyluniad y cais yn destun pryder ac fe’u hystyriwyd yn amhriodol.

 

·         Mae’r anghenion parcio yn fwy cyson gyda’i ddefnydd fel canolfan byd gwaith yn hytrach na llety preswyl.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir R. Harris, y dylid gohirio ystyried cais  DC/2016/01342 i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn ail-ystyried argymhelliad y swyddog yn dilyn tystiolaeth sydd yn ymwneud gyda’r defnydd cyflogaeth parhaus o’r adeilad a Pholisi Cynllun Datblygu Lleol E1.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gohirio             -           9

Yn erbyn gohirio                      -           0

Heb bleidleisio             -           0

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd y dylid gohirio cais DC/2016/01342 i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol er mwyn ail-ystyried argymhelliad y swyddog yn dilyn tystiolaeth sydd yn ymwneud gyda’r defnydd cyflogaeth parhaus o’r adeilad a Pholisi Cynllun Datblygu Lleol E1.

 

4.

Cais DM/2019/00346 - Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (ymddangosiad, graddfa, cynllun a thirlunio) ar gyfer datblygu 106 o anheddau preswyl yn unol â chaniatâd amlinellol DC/2016/00880. Orchard Lea, Gypsy Lane, Llan-ffwyst. pdf icon PDF 161 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar yr wyth amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mynegwyd pryderon am statws y cysylltiadau i gerddwyr yn y cynlluniau, yn enwedig o ran ffin gogledd orllewinol y safle. Nid yw hyn yn llwybr sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml. Os yw’r llwybr am fod yn hyfyw a’n cael ei ddefnyddio yn aml, bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw cyson ar y llwybr. 

 

·         Ystyriwyd bod gosod y cerbyty ar ganol yr iard / maes parcio yn  amhriodol a gwnaed cais i adolygu hyn. 

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â’r defnydd o Gypsy Lane o ran cyflymder eithriadol y traffig ar hyd yr heol hon. Mae’r heol eisoes yn cael ei defnyddio yn helaeth fel ffordd i’r de. Mynegwyd pryderon nad oedd unrhyw fesurau lliniaru yn nodi sut y mae’r cytundeb Adran 106 o bosib yn medru mynd i’r afael gyda hyn.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol bod y Pwyllgor yn rhoi caniatâd i ystyried disodli rhannau o ddosbarth A i’r estyniadau ochr ar y plotiau os oes yna le parcio ar ochr yr annedd.  

 

·         Mynegwyd pryderon fod nifer y bythynnod gorllewinol yn ormodol. Gellid ystyried hyn eto gyda chytundeb y Panel Dirprwyo.

 

Mewn ymateb i’r materion sydd wedi eu codi gan yr Aelod lleol, roedd y Pennaeth Gwneud Llefydd, Priffyrdd a Llifogydd wedi rhoi’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol. Roedd y materion a gedwir yn ôl wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar gyfer eu hystyriaeth. 

 

·         Mae hawl tramwy cyhoeddus cyfredol y tu nôl i’r datblygiad. Nid oes yna gynnig i newid yr hawl tramwy ac eithrio creu cysylltiadau newydd o’r datblygiad arfaethedig er mwyn gwella  cysylltedd.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau datblygu wedi  rhoi’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         O ran y dyluniad, mae modd adolygu’r Cerbyty a’r teras gorllewinol.  

 

·         O ran hawliau datblygu a ganiateir, gellir ychwanegu amod y dylid cadw’r meysydd parcio ar gyfer darpariaeth parcio a fyddai wedyn yn atal anheddau rhag cael eu hadeiladu ar y meysydd parcio yma.  

 

·         Gan fod hyn yn gais mater a gedwir yn ôl, nid oes modd ystyried defnydd cerbydau a chyflymder y traffig ar hyd yr heol B gan fod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei gytuno. Gallai’r Adran Priffyrdd ystyried y mater hwn y tu hwnt i sgôp y cais. 

 

Wrth ystyried y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd bod angen gostwng cyfyngiad cyflymder ar hyd Gypsy Lane.

 

·         Mae angen ail-ddylunio’r teras.  

 

·         Mae darparu safle bws wedi ei ystyried yn y cais cynllunio amlinellol.

 

·         Byddai’n rhaid bod wedi ystyried y pwyntiau electrig yn ystod y cam cais cynllunio amlinellol fel rhan o gytundeb Adran 106.

 

·         Mae’r simneiau ffug yn ei gwneud hi'n fwy anodd i osod paneli solar ar y toeon. Byddai amddiffyn i simneiau ffug yn effeithio’n andwyol ar y cyfleoedd i fanteisio ar ynni  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais DM/2019/00603 - Codi tŷ annedd deulawr. Tir rhwng Chapel Cottage a Gower Cottage, Glyn View, Tyndyrn. pdf icon PDF 96 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd bod yr ohebiaeth yn cael ei chymeradwyo, yn amodol ar yr 15 amod, fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer St. Arvans, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, yn bles gyda’r nifer o amodau a’r hysbysiadau gwybodus o ran y cais.   

 

Wrth nodi manylder y cais a’r farn a fynegwyd gan yr Aelod lleol, roedd y Cynghorydd Sir A. Webb wedi cynnig, ac eiliwyd hyn gan  y Cynghorydd Sir D. Dovey fod cais DM/2019/00603 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr 15 amod, fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           9

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Heb bleidleisio             -           0

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DM/2019/00603 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr 15 amod, fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

 

 

6.

Cais DM/2019/00796 - Cadw adeiladau presennol a diwygiadau i strwythur toeau a gweddluniau allanol. Tir yn y Bridge House, Canolfan Arddio Cas-gwent yr A48 i Fryn Pwllmeurig, Pwllmeurig. pdf icon PDF 94 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar yr wyth amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r datblygiad wedi ei adeiladu yn unol gyda’r cynlluniau cymeradwy. Diolchodd yr Aelod lleol i’r Swyddog Cynllunio am gysylltu gyda'r ymgeisydd er mwyn gwneud y newidiadau priodol  i wella’r datblygiad a’i wneud yn fwy cydnaws gyda’r hyn sydd i’w weld ar hyn o bryd ar y strydoedd.  

 

·         Nid yw un o’r modurdai wedi ei leoli mewn lle delfrydol. Fodd bynnag, hyd yn oed os caiff ei symud ymlaen, ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r annedd.  

 

·         O ran y modurdai, mae’r Aelod lleol yn bles fod yna amod i gadw’r modurdai am byth.   

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol gwestiynau am statws y modurdai yn y cais gwreiddiol ac am y deunyddiau a gytunwyd a’r math o  rendr sydd yn cael ei ddefnyddio.

 

Wedi derbyn adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd bod yr anheddau ac un o’r modurdai yn dderbyniol. Fodd bynnag, roedd y modurdy arall yn annerbyniol.  

 

·         Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheolaeth Datblygu  wrth y Pwyllgor fod uchder y modurdy yn y cais presennol yn is na’r modurdy a gymeradwywyd yn wreiddiol. 

 

·         Mae’r math o rendr sydd i’w ddefnyddio i’w gytuno drwy’r Panel Dirprwyo neu mae modd gosod amod.  

 

·         Nid yw’r ddarpariaeth parcio yn amodol ar y caniatâd blaenorol. Roedd yn gyson gyda’r cynlluniau cymeradwy. Fodd bynnag, mae modd gosod cadw’r ddarpariaeth parcio am byth fel amod  ynddo’i hun.

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi datgan y byddai’r modurdai yn cael eu hadeiladu o gerrig gyda’r tai yn cael eu hadeiladu o gerrig a rendr, rendr meddal gobeithio sydd yn gyson gyda’r  gyda’r hyn sydd i’w weld ar hyn o bryd ar y strydoedd. Mae modd ychwanegu amod i’r cais gwreiddiol o ran y meysydd parcio. 

 

·         Roedd yna gefnogaeth i’r Swyddogion Cynllunio yn mynd ati i sicrhau newidiadau o’r cynllun. Fodd bynnag, roedd yna bryderon am leoliad un o’r modurdai. 

 

·         Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu  wrth y Pwyllgor fod uchder yr anheddau yn is na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Mae modurdai wedi eu cymeradwyo cyn hyn ar y safle sydd yn uwch na’r hyn sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mae’r modurdai yn cael llai o effaith na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. 

 

·         Ystyriwyd bod cyfeiriadedd un o’r modurdai yn anghywir wrth yrru ar y safle.  

 

·         Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed, dywedodd y  Pennaeth Gwneud Llefydd, Priffyrdd a Llifogydd nad oedd modd gwrthod y cais gan nad yw fel y cynllun gwreiddiol. Mae ond modd ei wrthod os caiff ei ystyried fod niwed yn cael ei wneud gan yr hyn sydd yn cael ei gynnig nawr.  

 

·         Awgrymwyd y dylid gohirio ystyriaeth o’r cais er mwyn caniatáu’r Adran Priffyrdd i ymchwilio a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cais DM/2019/01032 - Garej ddomestig ar safle a gymeradwywyd yn flaenorol. Hillcrest, 14 Ffordd Lansdown, Y Fenni, NP7 6AN. pdf icon PDF 122 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar y pum amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer ward Lansdown wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Dyma’r trydydd cais ar gyfer y safle. 

 

·         Gwrthodwyd y cais cyntaf ar sail gormod o or-ddatblygu

 

·         Cafodd yr ail gais ei gymeradwyo gan fod y cynnig wedi ei leihau ac amod wedi ei osod sydd yn dileu datblygu a ganiateir yn y dyfodol. 

 

·         Mae’r cais cyfredol yn ceisio mynd i’r afael gyda hyn ac yn herio’r caniatâd blaenorol a roddwyd gan y Pwyllgor Cynllunio. 

 

·         Mae’r dyddiadau sydd ar y cynllun ar gyfer y modurdai yr un rhai â phan oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio o ran datblygu’r safle yn y dyfodol.

 

·         Ystyriwyd bod hwn yn gais i ehangu’r safle yn gudd, gan mai dyma’r trydydd cais ar yr un plot.  

 

·         Dyfynnodd yr Aelod lleol y penderfyniad a wnaed gan y pwyllgor Cynllunio o ran yr ail gais a gafodd ei gymeradwyo a’n datgan na fyddai unrhyw  ehangu, gwelliannau neu addasiadau yn cael eu gwneud i’r annedd neu unrhyw adeiladau allanol sydd yn cael eu codi.  Pe bai angen estyniadau neu addasiadau sylweddol, ni fyddai’r datblygiad hwn yn cael ei ystyried fel arfer. Ystyriwyd fod y wybodaeth hon yn groes i’r cais cyfredol. 

 

·         Dylai’r Pwyllgor Cynllunio lynu wrth y penderfyniad a wnaed cyn hyn o ran yr annedd ac ystyried gwrthod y cais cyfredol.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farna fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r cais yn niweidiol i’r safle a’r lle gan nad oes anheddau yn agos a fyddai yn cael eu heffeithio gan annedd o’r maint hwn.  

 

·         Pwrpas yr amod ar y cais blaenorol oedd dileu’r hawliau datblygu a ganiateir er mwyn atal gorchuddio  hyd at 50% o’r cwrtil gan dai allan.

 

·         Mae dyluniad y cais cyfredol yn ddymunol ac mae’r plot yn ddigon mawr ar gyfer y datblygiad arfaethedig.  

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir M. Powell, y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01032 yn amodol ar amod y  pump amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           8

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Heb bleidleisio             -           1

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynasom gymeradwyo cais DM/2019/01032 yn amodol ar y pum amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

 

8.

Cais DM/2019/01069 - Ymestyn y gweithdy i'r garej bresennol. 7 Graig View, Cross Ash, Y Fenni, NP7 8PG. pdf icon PDF 87 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ac argymhellwyd ei gymeradwyo, yn amodol ar y ddau amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir  M. Powell, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir  J. Higginson y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01069 yn amodol ar y ddau amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           9

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Heb bleidleisio             -           0

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynasom gymeradwyo cais DM/2019/01069 yn amodol ar y ddau amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

 

 

9.

Diwygio Cyfraniadau Ariannol Tai Fforddiadwy yn unol â'r Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy Diwygiedig (CCA) (Gorffennaf 2019). pdf icon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad yn ymwneud gyda ffigyrau cyfraniad tai fforddiadwy diwygiedig fel sydd wedi ei amlinellu yn Atodiad 1 o’r adroddiad, yn unol gyda’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy mabwysiedig  (SPG) (Gorffennaf 2019).

 

Wrth wneud, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r cyfraniadau ariannol yn ymwneud gyda’r ddarpariaeth ar y safle. Mae hyn yn ymwneud gyda chwilio am gyfraniad ariannol tuag at ddarparu tai fforddiadwy. Mae’r wybodaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at y ceisiadau sydd yn y system ar hyn o bryd o ran y cytundebau cyfreithiol sydd i’w prosesu. 

 

·         Yn yr achosion hynny lle y ceir fformiwla, mae’r ceisiadau yma ar gyfer caniatâd  cynllunio amlinellol yn unig. Felly, mae gofod llawr yr anheddau yma dal i’w cadarnhau. Bydd y fformiwla yn cael ei osod yn y cytundeb Adran 106. Pan gaiff y cais materion a gedwir yn ôl ei gyflwyno ar ddyddiad hwyrach, bydd modd cadarnhau'r gofod llawr a fydd wedyn yn helpu i bennu’r cyfraniad ariannol. 

 

·         Y fformiwla ar gyfer pennu’r cyfraniad ariannol newydd yw:

 

Cyfraniad Ariannol = Arwynebedd Llawr Mewnol (m2) x Cyfradd CIL x 58%.

 

Mae hyn yn cyfeirio at yr holl arwynebedd llawr mewnol yn yr annedd gan gynnwys  cynteddi, grisiau ac unrhyw fodurdai sydd wedi eu hatodi ac nid ôl-troed yr adeilad yn unig.  

 

Penderfynasom gymeradwyo’r fformiwla ddiwygiedig o ran cyfraniadau ariannol ar gyfer tai fforddiadwy  fel sydd wedi ei amlinellu o fewn Atodiad  1 o’r adroddiad yn unol gyda’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy mabwysiedig  (SPG) (Gorffennaf 2019).

 

 

 

 

 

 

10.

ER GWYBODAETH - Penderfyniad Apêl Gorchymyn Cadw Coed, 11 Chapel Mead, Penperlleni, Goetre. pdf icon PDF 118 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud gydag apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed yn dilyn ymweliad gyda safle ar 5ed Awst 2019. Cyfeiriad y safle: 11 Chapel Mead, Penperlleni, Goytre.

 

Nodwyd fod yr apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei wrthod.

 

11.

ER GWYBODAETH - Apeliadau Newydd a derbyniwyd 20fed Mehefin i 20fed Awst 2019. pdf icon PDF 23 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi nodi’r rhestr o apeliadau a dderbyniwyd rhwng  20fed Mehefin a’r 20fed Awst 2019.