Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 1af Gorffennaf, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sirol Phil Murphy yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Fe wnaethom benodi'r Cynghorydd Sirol Dale Rooke yn Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 24 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Mai 2025 fel cofnod cywir.

 

5.

Cais DM/2025/00106 - Cynnig: Addasu amodau 6 (newid defnydd i ganiatáu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant) a 7 (newid amser cychwyn rhwng 9am ac 8am) ar ganiatâd DC/2012/00317. Amodau wedi'u haddasu: Adran 6 - Hoffai Dŵr Cymru allu defnyddio'r ystafell gyfarfod i gynnal cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant mewnol ac allanol heb yr angen i fod yn gysylltiedig â chwaraeon dŵr. Adran 7 - Hoffai Dŵr Cymru allu ei ddefnyddio o 8am. Adran 6 - Ystafell gyfarfod i'w defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau a sesiynau hyfforddiant. Dim cerddoriaeth nac alcohol. Adran 7 - Ystafell gyfarfod i'w defnyddio rhwng 8:00am a 9:00pm. Cronfa Ddŵr Llandegfedd, Heol y Parc, Coed y Paen Sir Fynwy NP4 0SY. pdf icon PDF 351 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/fXA46ue2odk?si=Iq9zB4-SE6M6Vp8o&t=291

 

Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd y cais gan y Cynghorydd Sirol Su McConnel, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol Maureen Powell, y dylid cymeradwyo cais DM/2025/00106 yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad, gyda'r geiriad yn y frawddeg olaf o amod 6 yn cael ei ddiwygio, fel a ganlyn: 

 

Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd yr adeilad ar gael fel safle trwyddedig nac i'w ddefnyddio gan y cyhoedd yn gyffredinol.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol: 

O blaid             -           10

Yn erbyn                     -           5

Ymatal             -           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn. 

 

Penderfynom fod cais DM/2025/00106 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad gyda'r geiriad yn frawddeg olaf o amod 6 yn cael ei ddiwygio, fel a ganlyn: 

 

Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd yr adeilad ar gael fel safle trwyddedig nac i'w ddefnyddio gan y cyhoedd yn gyffredinol.

 

6.

Cais DM/2024/01294 - Cadw wal gynnal a theras/patio (fel y'i hadeiladwyd) a newid defnydd tir amaethyddol i gwrtil preswyl. Tŷ'r Berllan, Llangwm i Fferm Nantygelli, Llangwm, Sir Fynwy, NP15 1HB. pdf icon PDF 181 KB

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod cais DM/2024/01294 wedi'i dynnu'n ôl er mwyn caniatáu cynnal ymgynghoriad pellach.   Byddai'r cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Awst 2025, i'w ystyried.

 

https://www.youtube.com/live/fXA46ue2odk?si=GzMfkV0gMi_-MZLn&t=2659

 

7.

Cais DM/2022/01511 - Newid defnydd o dir preswyl gwag i dwristiaeth ar gyfer gwersylla/glampio. Adeiladu cyfleusterau golchi ychwanegol at y glampfa. Adeiladu lloches maes i anifeiliaid. Swallows Nest, Tŷ'r Pwll, Parc Llettis Road, Hardwick, Y Fenni, NP7 9AB. pdf icon PDF 215 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/fXA46ue2odk?si=w7lsuuG85z0UPIe2&t=2673

 

Wrth nodi manylion y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol Jayne McKenna ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol Ann Webb y dylid gohirio ystyried cais DM/2022/01511 tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio ynghyd â'r rhesymau dros wrthod.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

O blaid gohirio             -           14

Yn erbyn gohirio                      -           0

Ymatal                         -           0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynom fod ystyried y cais DM/2022/01511 yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio sydd ar gael gyda'r rhesymau dros wrthod.

 

8.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd:

Cofnodion:

8a

Yng nghefn 65 Main Road, Porth Sgiwed, Sir Fynwy, NP26 5UG. pdf icon PDF 138 KB

Cofnodion:

Fe wnaethom dderbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad â safle a gynhaliwyd yng nghefn 65 Main Road, Porth Sgiwed, Sir Fynwy ar 16eg Ebrill 2025.

 

Nodom fod yr apêl wedi'i gwrthod.

 

8b

Gorsaf Betrol Larkfield, Heol Casnewydd, Cas-gwent NP16 5YS. pdf icon PDF 153 KB

Cofnodion:

Fe wnaethom dderbyn adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yng Ngorsaf Betrol Larkfield, Heol Casnewydd, Cas-gwent ar 5ed Mehefin 2025.

 

Nodwyd bod yr apêl wedi'i chaniatáu, a rhoddwyd caniatâd penodol ar gyfer Codi Arddangosfa Hysbysebu Fformat Bach D6 yng Ngorsaf Betrol Larkfield, Heol Casnewydd, Cas-gwent NP16 5YS, fel y ceisiwyd amdano. Mae'r caniatâd am bum mlynedd o ddyddiad y penderfyniad hwn ac mae'n ddarostyngedig i'r pum amod safonol a nodir yn y Rheoliadau a'r amodau ychwanegol a nodir yn yr Atodlen.