Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant.
|
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 1 Ebrill 2025.
|
|
|
Cofnodion: Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
https://www.youtube.com/live/etVBk0h8wzA?si=RH8Ljc5vyLYeQzpY&t=158
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell fod cais DM/2024/01281 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106 gydag amod ychwanegol i sicrhau cynllun o dirlunio caled (tramwyfeydd) cyn gwneud y datblygiad.
Pan roddwyd y mater i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 14 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Derbyniwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2024/01281 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106 gydag amod ychwanegol i sicrhau cynllun o dirlunio caled (tramwyfeydd) cyn gwneud y datblygiad.
|
|
|
Penderfyniad Apêl - 1 Monnow Keep, Trefynwy, Sir Fynwy NP25 3EX. Cofnodion: Cawsom adroddiad gan y Gyfarwyddiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yn 1 Monnow Keep, Trefynwy, Sir Fynwy ar 11 Mawrth 2025.
Apêl A
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl ac y cadarnhawyd yr Hysbysiad Gorfodaeth. Gwrthodwyd caniatâd cynlluno ar y cais a fernir a wnaed dan adran 177(5) Deddf 1990, fel y’i diwygiwyd.
Apêl B
Nodwyd y gwrthodwyd yr apêl.
|
|
|
Penderfyniad ar Gostau - 1 Monnow Keep, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 3EX. Cofnodion: Cawsom adroddiad y Gyfarwyddiaeth Cynllunio sy’n cyfeirio at y penderfyniad ar gostau yng nghyswllt 1 Monnow Keep, Trefynwy, Sir Fynwy.
Nodwyd y gwrthodwyd y cais am ddyfarnu costau yng nghyswllt Apêl A ac Apêl B.
|
|
|
ER GWYBODAETH – Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniadau a gafwyd am Apeliadau / Costau Cofnodion: |