Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna wedi datgan buddiant personol ac sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais DM/2022/00494 gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch cyn Ebrill 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd wedi pleidleisio ar gais DM/2022/00494. Gadawodd y cyfarfod ac nid oedd wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais wedi hyn.
Roedd y Cynghorydd Sir Meirion Howells wedi datgan buddiant personol na sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais DM/2021/00691 gan ei fod yn adnabod yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais. Roedd y Cynghorydd Sir Howells wedi ymwrthod rhag pleidleisio ar y cais hwn.
Roedd y Cynghorydd Sir Tony Easson wedi datgan buddiant personol na sy’n rhagfarnu yn unol gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau o ran cais DM/2022/00492 gan ei fod yn aelod o’r Panel Heddlu a Throseddu.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 195 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Cynllunio ar 2ail Awst 2022 ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol:
· Mae pryderon wedi eu mynegi am effaith yr adeiladau arfaethedig ar y tirwedd gan y byddant yn hynod amlwg yn ystyried misoedd yr hydref a’r gaeaf.
· Mae’n ofyniad hanfodol o ‘One Planet Development’ (OPD) bod yna ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd gydag effaith bositif ar y tirwedd.
· Mae canllaw’r OPD yn datgan na ddylai aneddiadau a strwythurau sefyll yn amlwg mewn mannau cyhoeddus a dylent wella’r tirwedd lle y maent wedi eu gosod.
· Roedd adroddiad y cais yn datgan fod y Swyddog Tirwedd yn ystyried y cynnig yn dderbyniol, ar yr amod bod mwy o fanylder am elfennau o’r cynnig a sut y bydd yn cael ei gynnal a’i gadw yn y tymor hir.
· Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad fel sydd yn ymwneud gyda’r tirwedd ac ymddengys bod angen gwybodaeth ychwanegol sylweddol. Mynegwyd pryderon nad yw’r rhain yn cael eu hystyried a’u datrys yn ystod y cyfnod cais.
· Awgrymwyd y dylai’r ymgeisydd ystyried cyflwyno’r wybodaeth sydd angen er mwyn caniatáu’r Pwyllgor Cynllunio i wneud penderfyniad gwybodus ar y cais.
· Ysgubor Cruck fydd yn fwyaf hawdd ei weld yn sgil y ffaith y bydd yn uchel ar y safle ac ni fydd yna do gwellt ond to sydd wedi ei wneud o fetel neu lechi. Mae’r cynllun yn datgan fod y yr union ddefnydd a’r lliw i’w diwygio fel bod modd ail-ddefnyddio darn sydd yno ar hyn. Ond nid ymddengys fod yn fatn a od yn yr adroddiad ar gyfer y cais.
· Mae’r ymgeisydd yn bwriadu adeiladu gweithdy ac ysgubor gyda deunyddiau sydd wedi eu hail-hawlio o’r safle a bydd ymddangosiad y strwythurau i bosib yn wahanol i’r hyn sydd yn y lluniau yn y cais. Mynegwyd pryderon fod cynnal yr amgylchedd yn allweddol ac nid yw hyn yn dderbyniol. Mae angen mwy o eglurder yngl?n â’r mater hwn.
· Mynegwyd pryder hefyd am yr effaith y bydd y trac mynediad hir yn ei gael ar y tirwedd gan y bydd yn croesi cwrs d?r. Ni chredwyd bod hyn yn cael ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd.
· Mae canllaw’r OPD yn datgan y dylid cwrdd â’r holl anghenion am dd?r drwy gyfrwng y d?r sydd ar y safle. Mae dwy nant ar y safle ac roedd y ddwy wedi sychu dros yr haf.
· Gofynnodd yr Aelod lleol am fanylion yngl?n â’r glaw sydd yn cael ei gynaeafu.
· Gofynnodd yr Aelod lleol a fydd yna unrhyw fonitro annibynnol yn digwydd.
· Yr argraff sydd gan drigolion yw bod y cais yn ystyried ‘yn weddol ysgafn’ o ran sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi yna. Mae’r adeilad mewn ardal wledig agored gyda ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
Roedd yr ymgeisydd wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol:
· Mae’r noddfa ar gyfer anifeiliaid yn cynnig cartref i anifeiliaid nad yw pobl yn eu dymuno mwyach, sydd wedi eu hesgeuluso, eu cam-drin a’u diystyru.
· Ar hyn o bryd, mae’r safle yn gartref i 200 o anifeiliaid fferm. Mae’r fferm yn elusen gofrestredig.
· Mae’r safle yn cynnwys 62 erw gyda choedwigoedd a thir ffermio isel.
· Mae perllannau wedi eu plannu hefyd ynghyd â phlanhigion a hardd perlysiau meddyginiaeth ar gyfer yr anifeiliaid. Mae’r ymgeisydd yn dad-ddofi tir ar hyd a lled y noddfa.
· Mae gwaith wedi ei wneud gydag elusennau bywyd gwyllt ers 2019. Mae ystlumod heb rieni yn cael eu cynorthwyo i fynd yn ôl i’r byd gwyllt yn y noddfa.
· Mae 50 blwch ar gyfer llygod bach wedi eu gosod yn y coedwigoedd.
· Nid yw gwrtaith a chemegau byth yn cael eu defnyddio ar y tir ac mae’r anifeiliaid yn derbyn bwyd organig ac sydd heb ei addasu’n enetig.
· Matt Pritchard, y cogydd enwog, yw noddwr y noddfa.
· Mae’r noddfa wedi ei phleidleisio fel un o hoff noddfeydd anifeiliaid y DU yn 2020 a 2021.
· Mae tîm staff y noddfa wedi yn byw’n lleol ac mae hyd at 230 o wirfoddolwyr yn helpu gyda digwyddiadau bach.
· Mae’r noddfa yn cael ei chefnogi gan roddion a digwyddiadau codi arian.
· Mae pobl leol yn dod i adnabod y noddfa ac yn dymuno ymweld a gwirfoddoli yno. Mae’r ffocws ar les yr anifeiliaid sydd yn golygu nad oes modd i bobl fynd yno i ymweld ar hap. Fodd bynnag, mae ymweliadau teilwredig wedi eu trefnu.
· Nid yw hon yn fenter fasnachol ond yn noddfa fechan sydd am helpu anifeiliaid mewn angen, yn amddiffyn yr amgylchedd ac yn cynnig cymorth a lles i bobl sydd eu hangen.
· Mae angen carafán er mwyn caniatáu staff i aros yno dros nos a helpu anifeiliaid sydd yn sâl yn ystod argyfyngau.
Roedd yr Aelod lleol dros Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
· Mae’r noddfa wedi ei lleoli oddi ar heol wledig sydd yn amhriodol o gul. Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at farn yr Adran Briffyrdd yn adroddiad y cais sydd yn amlinellu mai ychydig iawn o drafnidiaeth gynaliadwy sydd yn ardal gydag ymwelwyr yn gorfod teithio mewn ceir. Mae’r diwrnodau agored yn creu traffig ychwanegol ac mae hyn wedi ei briodoli i’r nifer uchel o ddiwrnodau agored yn y noddfa sydd yn niweidio diogelwch a chapasiti y rhwydwaith priffyrdd cul, gwledig. Mae’r Adran Briffyrdd yn argymell y dylid cyfyngu ar y nifer o ddiwrnodau agored yn y noddfa drwy osod amod sydd wedi ei eirio’n ofalus.
· Roedd y cais yn rhan o gais ar y cyd blaenorol a oedd yn delio gyda’r agwedd o agor ar ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell cymeradwyo’r cais, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Caerwent, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi hysbysu’r Pwyllgor fod yna bryder yn lleol am hyd yr estyniad.
Roedd y Cynghorydd M. John, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Caerwent, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
· Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais o dan Bolisi H6 – estyn aneddiadau gwledig.
· Er mwyn diogelu cymeriad cefn gwlad, dylai estyniadau i aneddiadau sydd y tu allan i ffiniau’r pentref fod yn rhai diymhongar ac yn parchu neu’n gwella ymddangosiad yr annedd presennol. Os yw’r annedd o natur draddoaidol, rhaid parchu ei ffurf bresennol ym mhatrwm a siâp y deunydd a’r hyn a ddefnyddir.
· Nid yw’r Cyngor Cymuned yn credu fod y cais yn cwrdd â gofynion Polisi H6.
· Mae unrhyw estyniad a fydd yn arwain at gynnydd o fwy na 50% ym maint yr annedd gwledig yn cael ei ystyried fel arfer yn rhywbeth sydd cydymffurfio gyda Pholisi H6.
· Mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried bod yr eiddo hwn yn meddu ar rinweddau a dylid ei ystyried fel annedd gwledig traddodiadol o ran yr amgylchedd lleol. Maent yn nodwedd anarferol a’n rhan o gymeriad y lleoliad. Mae’r aneddiadau yn debyg iawn i fythynnod y coedwigwyr sydd wedi eu lleoli gerllaw.
· O ran hawliau datblygu a ganiateir, ni fyddai’r estyniad yma yn cael ei ganiatáu fel ag y mae.
· Mae’r Cyngor Cymuned yn deall nad yw hawliau datblygu a ganiateir yn atal cais cynllunio ond maent yn cynnig cyfeirnod pan yn ystyried ceisiadau.
· Nid oes dim o’r tai setliadau tir yn y gymdogaeth agos neu estynedig yn meddu ar estyniadau ar y blaen. Mae rhai wedi eu hymestyn i’r ochr. Mae rhai o’r tai yma yn meddu ar gyntedd (porch) sydd yn gyson gyda’r adeiladau gwreiddiol.
· Mae’n anodd deall sut y mae modd disgrifio’r estyniad yma fel eilradd. Mae’r dyluniad o’r estyniad arfaethedig wrth yrru allan o’r pentref ar yr A48 yn wahanol i’r lluniau sy’n cael eu dangos o bwynt arall.
· Mae pryderon gan y Cyngor Cymuned am faint y datblygiad arfaethedig a’r cynnydd ym maint bwthyn o’r maint gwreiddiol. Cynnydd o 61% ers 2013.
· Mae’r Cyngor Cymuned wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod.
Roedd Mr. S. Roderick, sydd yn gwrthwynebu’r cais, wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
· Dyluniad ac effaith ar y cymeriad lleol, paragraffau b, c, e a g o Bolisi DES1 yn berthnasol.
· Mae’r estyniad yn fawr iawn ar flaen yr eiddo sydd ger y ffin. Nid yw’n ‘porch’. Mae’n ymestyn 4 metr o’r blaen, yn fwy na hanner maint yr annedd ac yn 4 o led.
· Bydd bron 16 gwaith yn fwy na phorth pren a bydd modd ei weld o’r pentref. Mae dipyn yn fwy na’r estyniadau sydd gan gymdogion ac mewn aneddiadau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cofnodion:
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r canlynol: · Roedd wedi nodi’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yngl?n â’r traffig ar Heol Parc ac roedd wedi codi’r gwrthwynebiadau yma gyda’r Adran Briffyrdd.
· Mae’r arwyddion at Heol y Parc i’w huwchraddio ac i’w gosod yn yr wythnosau nesaf.
Wedi ystyried adroddiad y cais, mynegwyd y pwyntiau canlynol:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Maureen Powell ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jayne McKenna y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00691 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 12 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 1
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/00691, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
|
|
Cofnodion:
Roedd yr Aelod lleol ar
gyfer Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig, sydd hefyd yn Aelod Pwyllgor
Cynllunio, wedi gwneud y pwyntiau canlynol:
Wedi ystyried yr adroddiad a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne Mckenna ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Ann Webb y dylid cymeradwyo cais DM/2021/02037 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 13 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 1 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/02037 yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod) yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth, yn hytrach nag amod cyn-cychwyn.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llan-ffwyst a Gofilon, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne Mckenna ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Maureen Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00492, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a hefyd yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod) sydd i’w dddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth, yn hytrach nag amod cyn-cychwyn..
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 14 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Roeddem wedi cytunoy dylid cymeradwyo cais DM/2022/00492 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytuno’r manylion o ran mynediad (ac unrhyw newidiadau bychain i’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod) sydd i’w ddirprwyo i swyddogion drwy gyfrwng ymgynghoriad gyda Phanel Dirprwyo’r Cyngor. Hefyd, bydd rhywbeth yn cael ei ychwanegu yngl?n â llwybr teithio llesol o’r safle a bod Amod 8 yn cael ei newid i amod cydymffurfiaeth i amod cyn-cychwyn.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106. Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
- Cynllun i osgoi’r heol yn cael ei lenwi gan gerbydau adeiladu yn ystod amseroedd pan fydd yr ysgol gynradd yn dechrau a’n gorffen.
Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00494, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 gydag amod ychwanegol ar gyfer Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
Wrth nodi manylion y cais, gwnaed y pwyntiau canlynol:
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Sue Riley ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00514, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 14 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 1 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00514 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi hysbysu’r Pwyllgor mai Cyngor Cymuned Drenewydd Gelli-farch yw’r ymgeisydd ac nid yw’r Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn cais i dynnu’r cais cynllunio yn ôl. Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Emma Bryn y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00851 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 13 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00851 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jayne McKenna y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00923 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 14 Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 0 Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00923 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
|