Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Please note that in order to watch this meeting online via Microsoft Teams you may need to download the Teams app to your device. The meeting will be available to watch after the event on our youtube channel.
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir A. Easson ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais DM/2020/00238, gan ei fod yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Ysgol y Ffin. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 247 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywio a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r wyth amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Amlinellodd Aelod lleol Santes Fair, Cas-gwent, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio y pwyntiau dilynol.
· Defnyddir yr adeilad i dde ysgol y Bwrdd fel y ganolfan newydd ar gyfer Mencap. Mynegwyd pryder y bydd y tai a gynigir yn agos iawn at Mencap gyda photensial am or-edrych.
· Mynegwyd pryder hefyd y byddai’r safle yn cael ei gorddatblygu gyda gormod o adeiladau yn cael eu cynnig ar gyfer y safle..
Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:
· Yng nghyswllt gweddau blaen yr adeiladau, nid oes ffascia a byrddau estyll ar lain 2. Gellid ychwanegu hyn at y datblygiad.
· Mae Cyngor Tref Cas-gwent hefyd wedi mynegi pryder y byddai’r safle yn cael ei gor-ddatblygu pe cymeradwyid y cais.
· Mynediad gwael sydd i’r safle. Cafodd hyn ei godi gan yr Adran Priffyrdd. Fodd bynnag, mae’r fynedfa yn syth, gan roi hyweledd da o’r allanfa arall. Bydd nifer y symudiadau car i ac o’r safle yn sylweddol llai na’r sefyllfa bresennol pe cymeradwyid y datblygiad.
· Ar hyn o bryd mae 18 gofod parcio gyda phump annedd a gynigir gan arwain at dri gofod parcio ym mhob annedd.
· Bydd gofodau i ymwelwyr i’r holl anheddau i’w defnyddio ar sail cyntaf i’r felin. Mae hefyd faes parcio cyhoeddus gerllaw.
· Ychwanegid amod i ofyn am fanylion llawn ar y storfa biniau.
· Mae’n debyg y bydd y cerbydau sbwriel sy’n ymweld â’r safle yn debycaf o fod yn gerbydau llai gan fod mynediad cyfyngedig i’r strydoedd o amgylch y safle.
· Byddai’r datblygiad arfaethedig yn welliant i’r safle gan ddarparu cartrefi yn yr ardal.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir R Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy i gymeradwyo cais DM/2019/01921 gyda’r wyth amod a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106. Caiff amod ychwanegol ei hychwanegu i ofyn am fanylion llawn y storfa biniau.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 11 Yn erbyn cymeradwyo - 2 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig..
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2019/01921 gyda’r wyth amod a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106. Ychwanegir amod ychwanegol i ofyn am fanylion pellach yn ymwneud â’r storfa biniau.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo gyda’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Mynegodd yr Aelod lleol am West End, Cil-y-coed, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.
Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:.
· Yn nhermau mynediad, mae cyfleuster troi ar y safle. Medrid culhau’r lled i 2.5m i 3m, a allai weithio fel tramwyfa a gaiff ei rhannu.
· Gellid darparu trydydd gofod parcio ar gyfer yr annedd tair ystafell wely.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir D. Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2019/01943 gyda’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 11 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2019/01943 yn destun i’r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddid ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r pedwar amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynegodd Aelod lleol Dewstow, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.
Wrth nodi manylion y cais, cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir A. Davies y dylid cymeradwyo cais DM/2020/00238 yn destun i’r pedwar amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 12 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00238 yn destun i’r pedwar amod a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r tair amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Wrth nodi manylion y cais cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard i gymeradwyo cais DM/2020/00716 yn destun i’r tair amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros gymeradwyo - 13 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00716 yn destun i’r pedwar amod a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r chwe amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106.
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol.
· Mynegwyd pryder am amwynder cymdogion, gan y byddai’r annedd newydd a gynigir yn uwch na’r anheddau eraill a fyddai’n agos i’r annedd newydd. Gan nad oes unrhyw gynllun yn dynodi safle’r annedd arfaethedig yng nghyswllt ei chymdogion agosaf, ni fedrai’r Pwyllgor Cynllunio weld sut y byddai’r annedd newydd a gynigir yn cyd-fynd â’r anheddau presennol. Gallai fod materion o oredrych a fedrai fod yn annerbyniol. Gofynnodd yr Aelod lleol i’r cais gael ei ohirio i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i alluogi swyddogion i gael cynllun yn dangos safle’r annedd newydd arfaethedig yng nghyswllt yr anheddau presennol.
· Fodd bynnag, pe na byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn cefnogi gohirio’r cais, ystyriai’r Aelod Lleol fod angen amod ychwanegol yn y cais i dynnu hawliau datblygu a ganiateid ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to.
Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:
· Mae’r cynllun safle a gynigir yng nghyswllt yr ystafell fwyta / ystafell fyw yn dangos drysau Ffrengig yn agor i ardal yr ardd. Fodd bynnag, ni ddangosir hyn ar y darluniad gwedd. Felly, pe cymeradwyid y cais, gellid cytuno ar y manylion hyn drwy’r Panel Dirprwyo.
· Mae’r Cynllun a ddangoswyd i’r Pwyllgor yn dangos yn union lle byddai’r annedd arfaethedig. Ystyriwyd pan ddarllenwyd yr holl gynlluniau gyda’i gilydd, ei fod yn rhoi ystyriaeth gytbwys i’r effaith ar breifatrwydd.
· Gellid ystyried amod ychwanegol i’r cais i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to.
· Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi edrych ar y safle ac wedi ystyried y materion amwynder gyda golwg ar gael barn gytbwys ar yr effaith ar amwynder preswyl i’r adeiladau cyfagos. Mae gan y cynlluniau a gyflwynwyd lefelau llawr gorffenedig a chafodd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig ac anheddau cyfagos ei ystyried yn llwyr wrth ddod i’r argymhelliad.
· Nid oedd yr Adran Priffyrdd wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig.
· Yng nghyswllt y gwahanol lefelau uchder rhwng yr annedd newydd arfaethedig a’r anheddau presennol gyferbyn, barn gytbwys y swyddogion Cynllunio oedd bod hyn yn dderbyniol.
· Mae’r gofodau parcio ceir ar gyfer y datblygiad newydd arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi gan sicrhau parcio oddi ar y stryd ac ardal droi. Mae hyn wedi arwain at enilliad net o un gofod parcio ychwanegol.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y dylid gohirio ystyried cais DM/2018/01418 tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i alluogi swyddogion i gael cynllun yn dangos safle yr annedd newydd arfaethedig mewn cysylltiad â’r anheddau presennol.
Mewn pleidlais a gymerwyd, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros ohirio - 6 Yn erbyn gohirio - 9 Ymatal - 0
Ni chariwyd y cynnig.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y dylem ystyried gwrthod ... view the full Cofnodion text for item 7. |