Lleoliad: County Hall, Usk with Remote Attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Cofnodion: Croesawodd y cadeirydd yr holl swyddogion oedd wedi rhoi amser ac ymdrech i gyflwyno’r adroddiad i’w drafod. Diolchodd iddynt am gytuno i ddychwelyd i’r Pwyllgor Dethol, ar ôl i’r adroddiad gael ei ohirio o’r cyfarfod ar 7 Medi oherwydd bod gan y Pwyllgor Dethol lwyth gwaith sylweddol yn y cyfarfod hwnnw. Ymddiheurodd y cadeirydd i’r swyddogion ac i’r Aelod Cabinet, gan esbonio oherwydd nifer y cynghorwyr oedd wedi ymddiheuro a heb fod yn bresennol yn y cyfarfod, nad oedd cworwm yn y Pwyllgor Dethol ac na fedrid ei gynnal yn gyfreithiol. Cytunodd gyda swyddogion i ohirio’r adroddiad tan gyfarfod cyffredin nesaf y Pwyllgor Dethol ar 21 Hydref 2021 a chaiff ei ystyried fel yr eitem gyntaf o fusnes.
|