Agenda and minutes

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu - Dydd Iau, 9fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

I’w cofnodi fel a phryd sy’n briodol.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

 

Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.


Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

3.

Cynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar Uwchgynllun Brynbuga a Woodside. pdf icon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Prosiectau Strategol yr adroddiad, gan esbonio y cafodd drafft Uwchgynllun Gwella Brynbuga ac Woodside ei gomisiynu ar y cyd gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga yn 2018 a bod gwaith dechreuol wedi mynd rhagddo yn 2015 ar faterion rheoli traffig. Cynhaliwyd y gwaith gan ymgynghoriaeth ARUP gyda gweithgor yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Fynwy, swyddogion, Cyngor Tref Brynbuga a Chyngor Cymuned Llanbadog. Esboniodd y bu ymgynghoriad eang drwy ddigwyddiadau rhanddeiliaid i ddod â ni i’r sefyllfa yr ydym ynddi heddiw o ran cyflwyno hyn ar gyfer craffu cyn gwneud penderfyniad. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion prosiectau penodol a chynllun gwella a gweithredu, a argymhellwn ar gyfer ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Gyngor Sir Fynwy, fel y cafodd gan y partneriaid eraill. Ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, mae’n ddefnyddiol cael cynllun ehangach gyda nodau tymor byr, tymor canol a hirdymor ac mae’n ein galluogi i berchnogi’r amcanion, ynghyd â Chyngor Tref Brynbuga a Chyngor Cymuned Llanbadog. Dywedodd bod llywodraeth genedlaethol yn croesawu cynlluniau wedi ei strwythuro ac mae’n helpu wrth gynnig ar gyfer cyllid yn y dyfodol, fodd bynnag nid yw swyddogion yn diystyru her canfod cyllid ar gyfer cyflawni rhai o’r prosiectau uchelgeisiol hyn.

 

Diolchodd y cadeirydd i’r swyddog am yr amlinelliad cryno a gwahoddodd gwestiynau gan aelodau:

 

Cwestiynau Aelodau:

 

Gyda chronfeydd strwythurol yn diflannu, pa mor gyflym y gallwn ddisgwyl ffrydiau cyllid newydd i’n galluogi i sicrhau cynnydd?

 

Mae’n dibynnu pa brosiectau y symudwn ymlaen â nhw. Gallai cyllid teithio llesol gynnwys prosiectau parth cyhoeddus a thrafnidiaeth ond mae’r cyfleoedd yn eithaf newidiol, felly pe byddem i ystyried er enghraifft ailgynllunio Stryd y Bont neu Sgwâr Twyn, y ffrydiau cyllid fyddai Teithio Llesol a Thrafnidiaeth. Weithiau daw ffynonellau cyllid ar gael ar rybudd cymharol fyr felly mae cael cynlluniau clir a syniadau yn eu lle yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn.

 

A fyddai’r hen safle amwynder dinesig yn enilliad cyflym, gyda chyfle o bosibl ar gyfer rhai marchnadoedd a pharcio? A fydd parcio ychwanegol o amgylch y carchar ar ôl i’r ffordd gael wyneb newydd?

 

Deallaf y derbyniwyd cynigion i ddeall ei werth marchnad er mwyn penderfynu ar ei ddyfodol, ond ni chafodd ei werthu ar hyn o bryd. Yn nhermau’r ardal yn ymyl y Neuadd Goffa, gobeithir y byddai darpariaeth yno ond mae problemau draeniad i’w datrys.

 

O ran parcio, a allaf gael eglurhad beth ydym yn rhagweld y byddai pobl yn ei wneud? A ydym yn rhagweld pobl yn ymweld yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac nid mewn car?

 

Cafodd y strategaeth parcio ei hystyried yn y gorffennol ar gyfer pob tref a gall fod angen i ni edrych ar hyn eto yn ei gyfanrwydd yn nhermau codi tâl, ond hefyd wrth benderfynu sut y defnyddir y maes parcio. Bu’n broblem barhaus i sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion preswylwyr a’r rhai sy’n ymweld ar gyfer hamdden neu waith ac mae’n debyg y bydd angen gwneud hyn ar ryw bwynt i benderfynu beth sy’n iawn ar gyfer pob tref.

 

Sut fyddech chi’n gwahaniaethu rhwng prosiectau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu ar adroddiad diweddaru sefyllfa ar gaffael strategol. pdf icon PDF 244 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog yr adroddiad drwy esbonio bod hyn yn ddiweddariad sefyllfa yn dilyn dod ag adroddiad manwl i’r pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn. Atgoffodd aelodau y cytunodd y Cabinet ym mis Gorffennaf 2021 y byddai’r Cyngor yn dechrau ar Gytundeb Dirprwyo cydfuddiannol gyda Chyngor Caerdydd ar gyfer cyflawni a darpariaeth ein gwasanaethau caffael strategol a gweithredol. Gwahoddir y pwyllgor i graffu ar gynnydd yn cynnwys datblygu cynllun hyfforddiant cysylltiedig ar gyfer Swyddogion.

 

Esboniodd y swyddog y cafodd newidiadau cynnar eu gwireddu a diolchodd i Bennaeth Caffael Caerdydd a’n Rheolwr Caffael ninnau am eu gwaith caled mewn cyflawni’r rhain mor gynnar. Cyflwynodd y pwyntiau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad a thynnodd sylw aelodau at yr adran cynnydd, gan atgoffa’r pwyllgor am amcanion a deillliannau disgwyliedig y cynllun gweithio partneriaeth.

 

Gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan aelodau.

 

Cwestiynau gan Aelodau:

 

Beth yw’r enillion cynnar i Sir Fynwy o’r cydweithio hwn?

 

Rydym wedi medru dod â pheth o’r profiad a’r wybodaeth y gwnaethom ei ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yng Nghaerdydd i gynorthwyo Sir Fynwy yn yr heriau wrth symud ymlaen. Rydym wedi dechrau datblygu strategaeth caffael ond hyd yma, wedi canolbwyntio ar ddatblygu saith amcan clir i roi ymdeimlad clir o gyfeiriad teithio, er enghraifft datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, sy’n heriol iawn. Hoffem helpu Cyngor Sir Fynwy i gyflymu eu gwaith drwy ddefnyddio ein profiad a’r gwersi a ddysgwyd, fel nad yw Cyngor Sir Fynwy yn gorfod mynd drwy’r un llwybr dysgu. Er enghraifft, mae Caerdydd wedi cynnal Modelu Carbon, felly bydd hynny er budd Cyngor Sir Fynwy. Mae’r ‘Model Toms’ sy’n ymwneud â sicrhau gwerth cymdeithasol yn rhywbeth y bu Caerdydd yn flaenllaw wrth ei gyflwyno yng Nghymru a rydym yn dechrau gweld y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth. Y sylw i fanylion am beth o wariant Cyngor Sir Fynwy er enghraifft; hyd nawr ni fu gennym adnoddau i edrych ar hyn mor fanwl ac mae hyn wedi rhoi cyfle i ni wneud hyn.

 

Y peth pwysicaf yn fy marn i yw’r adnoddau i gynnal y dadansoddiad manwl yma ac mae’n glir nad oedd y gallu gennym i fedru dadansoddi’r manylion. Nid yw’r cyfan am arbed arian, er y bydd cyfleoedd i arbed arian, mae am wireddu gwerth yr arian a gaiff ei wario. Hoffwn i’r pwyllgor hwn fod â rhan wrth edrych ar y contractau hyn yn fanwl rywbryd yn y dyfodol i weld adenilliad ar fuddsoddiad. Rwy’n credu fod potensial enfawr a’n bod yn symud yn union y cyfeiriad cywir wrth gynyddu gwerth am arian i’r cyhoedd.

 

Mae gennyf ddiddordeb neilltuol yn y ffordd y byddech yn gwneud gwariant yn fwy hygyrch drwy fusnes a’r trydydd sector. A oes gennych unrhyw enghreifftiau?

 

Nid oes unrhyw fuddion penodol y gallem eu dangos ond mae’r rheolau gweithdrefn contract pan gawsant eu hailddrafftio er enghraifft yn ymofyn i’w gwneud yn ofynnol i feysydd gwasanaeth geisio cynnwys busnesau lleol mewn cyfleoedd. Rhai o’r materion fu ‘sut mae ein meysydd gwasanaeth yn gwybod am gyflenwyr lleol’ ac a oes unrhyw feddalwedd newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu. pdf icon PDF 503 KB

Cofnodion:

Tynnodd y Cadeirydd sylw aelodau at gyfarfod arbennig o Bwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu a gynhelir ar 14 Rhagfyr ar 2pm i drafod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

6.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet. pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor yr adroddiad ond ni thynnwyd sylw at unrhyw beth oedd angen craffu neilltuol na chafodd ei ystyried wrth ddatblygu rhaglen waith y Pwyllgor Dethol.

 

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 478 KB

8.

Cyfarfod nesaf:

Dydd Mawrth 14eg Rhagfyr 2021 am 10.00am – Cyfarfod Arbennig Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu.

 

Dydd Iau 3ydd Chwefror 2022 am 10.00am – Cyfarfod cyffredin Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu.

 

Cofnodion:

3 Chwefror 2022 am 10.00am.